Staff a Gwaith Cyfredol
Projectau ymchwil ddiweddaraf: Adran Bioamrywiaeth a Bioleg Systematig
Andy Mackie: Pennaeth Adran Bioamrywiaeth y Môr
Arbenigedd
Systemateg, ffylogenedd a thacsonomeg polycetaidd, yn gyfarwydd â'r rhaglen gytraseg PAUP. Ecoleg dyfnforol: yn gyfarwydd â thechnegau dadansoddi amryw ffactorau a'r defnydd o raglenni fel PRIMER a CANOCO.
Gwaith cyfredol
[delwedd: Casglu samplau ar gyfer yr Arolwg]
Arweinydd tîm (Cymru) ar Arolwg INTERREG o Ranbarth De-Orllewinol y Môr Celtaidd (BIOMOR 3). Yr awdur cyntaf ar gyhoeddiadau BIOMOR 1 (a 2, sydd ar y gweill). Ym 1998, mewn cydweithrediad â Chyngor Cefn Gwlad Cymru a Choleg Prifysgol Abertawe, cychwynnodd ar arolwg o ddyfnforoedd baeau a morydiau De-orllewin Cymru (BIOMOR 4).
Mae'n cydweithio â Dr Fredrik Pleijel (Muséum National d'Histoire Naturelle, Paris) a Greg Rouse (Prifysgol Sydney) ar forffoleg, tacsonomeg a ffylogenedd yr Aberrantidae. Mae hefyd yn cydweithio â Dr Alexander Tzetlin (Prifysgol Moscow) ar forffoleg fewnol Adercodon pleijeli.
- Yn ystod y 4-5 mlynedd nesaf bydd yn gweithio ar broblemau tacsonomaidd sy'n ymwneud â'r Spionidae Ewropeaidd. Bydd hyn yn arwain at gyhoeddi un o Grynodebau Cymdeithas Linneus ar y teulu hwnnw ac ar dacsa perthynol.
Ffôn: +44 (0)29 2057-3311
E-bost Andrew Mackie
Teresa Darbyshire: Curadur Cynorthwyol
Arbenigedd
Enillodd gradd mewn Bywydeg Morol o Brifysgol Cymru Bangor ym 1995, ac yna M.Sc. o Brifysgol Heriot-Watt, cyn ymuno â'r adran ym 1997. Yn gyfarwydd â dulliau electrofforesis gel ac adnabod codennau dinofflangellog.
Gwaith cyfredol
Gweithio ar guradu'r casgliad o anifeiliaid di-asgwrn-cefn y môr a churadu deunydd a gasglwyd yn ystod yr Arolwg diweddar o ran dde-orllewinol Môr Iwerddon ac arolwg de-orllewin Cymru. Mae hefyd yn cynorthwyo gyda chyhoeddiad BIOMÔR 2 (Gwaelod y môr i'r de-orllewin o Aberystwyth, 1991: ymweld drachefn â'r 'Gwter' wedi 70 mlynedd).
Ffôn: +44 (0)29 2057-3222
Kate Mortimer: Curadur Cynorthwyol
Arbenigedd
Enillodd Katie Mortimer radd mewn Bywydeg y Môr o Brifysgol Cymru, Abertawe, ym 1998. Bu'n gwneud ymchwil i Fywydeg Amgylcheddol, hefyd yn Abertawe, hyd at 1999.
Gwaith cyfredol
Cynorthwyo gyda churadu a threfnu'r samplau benthig y mô o fewn yr is-adran Bioamrywiaeth y Môr.
Ffôn: +44 (0)29 2057-3246