Rydych chi yn: Hafan > Curadurol ac ymchwil > Projectau > Adran Bioamrywiaeth a Bioleg Systematig  > Cadwraeth casgliadau hanes natur
English

Cadwraeth casgliadau hanes natur

Er mai prif swyddogaeth ein cadwraethwyr yw delio gyda'r casgliadau, maent hefyd wedi bod yn ymchwilio ac yn datblygu technegau newydd i amddiffyn sbesimenau amgueddfa. Ar hyn o bryd, mae'r ymchwil hwn yn canolbwyntio ar gadwraeth casgliadau sbirit, yn arbennig o ran ei effaith ar DNA, ac ar adnabod y defnydd o bryfleiddiaid a ffwngleiddiaid gwenwynig yn y gorffennol ar ddalennau herbariwm.