Hanes Llystyfiant

Prif ffocws yr Adran Hanes Llystyfiant yw ymchwilio i gofnod ffosiliau o fywyd planhigion. Mae hyn yn caniatáu i ni wella ein dealltwriaeth o ffylogenedd planhigion a newid amgylchedd yn y gorffennol. Mae'r ddwy brif ardal o'r astudiaeth hon yn adlewyrchu cydbwysedd cyfansoddiad y cofnod ffosiliau planhigion yng Nghymru: Peilleg Chwarteraidd, gan gynnwys cynefinoedd arctig-alpaidd a tymherus; a macrofflorau Carbonifferaidd Hwyr. Serch hynny, yn y ddau achos, nid yw'r gwaith yn gyfyngedig i Gymru, ac mae'r pwyslais ar gydweithio rhyngwladol.

Hefyd, mae'r Adran yn ymgymryd ag ymchwil i hanes y defnydd o ddarluniau mewn botaneg a phaleobotaneg, gyda phwyslais arbennig ar y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif. Mae hyn i ategu'r casgliad helaeth o ddarluniau y mae'r Adran wedi'u casglu dros y blynyddoedd.