Tacsonomeg planhigion fasgwlaidd a bioleg cadwraeth
Y blaenoriaethau ar gyfer yr Adran Planhigion Fasgwlaidd yw tacsonomeg a bioleg cadwraeth planhigion sy'n blodeuo a rhedyn. Unig arbenigwr yr adran ar hyn o bryd yw Dr Tim Rich ac mae'r ymchwil sy'n digwydd yn adlewyrchu ei ddiddordebau a'i brofiad wrth geisio mwyhau defnydd casgliadau'r amgueddfa. Cedwir cysylltiadau cydweithredol cryf a gweithgar gyda sefydliadau botanegol eraill megis Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru, Gerddi Kew a Phrifysgol Bryste. Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar blanhigion sy'n anodd i'w hadnabod gan ddefnyddio Herbariwm Cenedlaethol Cymru fel casgliad cyfeirio allweddol, gan fod hyn yn wendid sylweddol mewn asesiad bioamrywiaeth ledled y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon. Mae canlyniadau'r gwaith ar gael drwy adroddiadau cytundebol, cyhoeddiadau mewn cyfnodolion a llyfrau.
