Molysgiaid Morol Dwyfalfog
Mae molysgiaid dwyfalfog (sgolop, cregyn gleision a chregyn bylchog) yn folysgiaid â chragen mewn dwy ran (neu falf) ac ar hyn o bryd mae tua 30,000 rhywogaeth hysbys ledled y byd. Mae o leiaf 370 o'r rhywogaethau hyn yn byw yn y moroedd oddi ar arfordir Prydain. Mae gan greaduriaid dwyfalfog amrywiaeth eang o gynefinoedd: claddu mewn gwaddodion meddal (mwd/tywod/grafel) tyllu i mewn i waddodion caled (creigiau), cysylltu gyda chreigiau drwy edau byssus neu fyw yn rhydd. Yn sgil hyn gallant fod mewn amrywiaeth fawr o ffurfiau.
Mae'r mwyafrif yn bwydo drwy ffilter, yn pwmpio swm mawr o ddŵr drwy eu cyrff; mae hyn yn eu gwneud yn bioddangosyddion da i fonitro iechyd yr amgylchedd o'u hamgylch. Yn ddwfn dan wely'r môr mae cronfeydd enfawr o olew a nwyon naturiol, ond yn gymharol ddiweddar y darganfuwyd bod methan yn gollwng o wyneb gwely'r môr. Mae'r meysydd hyn yn cael eu hadnabod fel 'tryddiferion nwy' ac mae rhai creaduriaid dwyfalfog wedi esblygu yn benodol er mwyn cymryd mantais o'r amgylchedd unigryw hon.
