Caneuon Gwerin


Deffrwch! Benteulu

Deffrwch! Benteulu.
Deffrwch! Benteulu.

Deffrwch! Benteulu,
Tyma bore'r Flwyddyn Newy'
Wedi dod adre
O fewn y drwse
Drwse yng nghloion,
Wedi eu paro
Drost y nos:
O mistres fach fwyn,
Gwrandewch ar ein cwyn;
Plant ifenc ŷn ni,
Gyllyngwch ni i'r tŷ;
Gyllyngwch ni'n glou
Ynte tyma ni'n ffoi.
Rhowch galennig yn galonnog i blant bach sy heb un ceinog;
Ceinog neu ddime,
P'un a fynnoch chwithe:
Ceinog sy ore.


Tâp AWC 610. Recordiwyd 9.8.63 gan Miss Selina Griffiths (gwraig tŷ, g. 1880), Garn, y Dinas, ger Abergwaun, sir Benfro. Dysgodd SG y rhigwm Calan hwn pan oedd yn ferch fach yn ardal Caersalem, ger Trefdraeth; arferai plant ei ganu o ddrws i ddrws yno ar fore'r Flwyddyn Newydd.


Nodiadau

Ceir yn Gymraeg doreth o rigymau Calan byrion, yn enwedig o dde a gorllewin Cymru. Mae'n debyg y gellir edrych arnynt fel gweddillion hen ganu gwasael tymhorol (a anelai at hybu ffrwythlondeb). Er bod yr arfer o'u defnyddio bron â darfod o'r tir bellach, erys llawer ohonynt yn fyw ar gof gwlad. Peth cyffredin gynt oedd canu nifer o'r rhain yn un gyfres. Cyflwynant eu neges yn gryno: yr hanfodion a geir ynddynt amlaf yw cyhoeddi dyfodiad y Flwyddyn Newydd, dymuno Blwyddyn Newydd dda i'r teulu ac erchi 'calennig' oddi wrtho. Yn amlwg, cenid ambell un o'r rhigymau hyn yn ystod oriau cysgu: galwant ar y teulu i godi o'r gwely. Yr arferiad oedd i wŷr ifainc (a gwŷr yn unig, sylwer) 'fynd mas i ganu' wrth y drysau wedi deuddeg Nos Galan ac i blant wneud hynny yn ddiweddarach yr un bore, o amser codi trwodd hyd ganol dydd. Amrywiai'r rhodd a gai'r cantorion: gallai fod yn 'doc o fara a chaws' neu'n 'gace bach a diod', er enghraifft, yn ogystal â rhodd ariannol.

Am fanylion pellach ynglŷn â defodaeth y Calan yng Nghymru, gw. WFC, 41–7.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r cerddoriaeth am Deffrwch! Benteulu
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.