Botaneg Cryptogamaidd
Mae'r Adran Botaneg Cryptogamaidd yn astudio bioamrywiaeth a systemateg (dosbarth a pherthynas) bryophytau (mwsog a llys yr iau), cen y cerrig a diatomau. Mae mwsog a llys yr iau yn cael eu hynni o'r haul; maent yn blanhigion tir, gwyrdd, ffotosynthetig. Mae cen y cerrig yn ffwngi mewn perthynas symbiotaidd gydag algae ffotosynthetig, a diatomau yn algae dyfrol ffotosynthetig, meicrosgopaidd gyda chragen silica (tebyg i wydr). Mae'r grwpiau hyn i gyd yn bwysig mewn ecosystemau. Mae mwsog, llys yr iau a chen y cerrig yn bwysig wrth gylchu maeth a dŵr, mae rhai cen y cerrig yn gyfranwyr nitrogen pwysig. Mae diatomau yn brif gynhyrchwyr, y mae organebau eraill yn dibynnu arnynt, ac maent hefyd yn ddangosyddion allweddol o ansawdd y dŵr.
Mae ymchwil gyfredol yn canolbwyntio ar systemateg mwsog, llys yr iau a chen y cerrig ar sail golwg allanol (morffoleg) a data molecylaidd (DNA), a systemateg morffolegol ac ecoleg cymunedol diatomau.
