Lleihau sbwriel

Mae'r teuluoedd hyn wedi gwneud yr ymdrech – beth amdanoch chi?

Rhoeson ni’r her i deuluoedd leihau faint o sbwriel maen nhw’n ei daflu i ffwrdd bob wythnos – drwy ailddefnyddio ac ailgylchu. Y teulu gynhyrchodd y nifer lleiaf o fagiau sbwriel / y person / yr wythnos oedd yr enillwyr.

Cadwodd pob teulu ‘Siart Bagiau Sbwriel’ i gofnodi beth roedden nhw’n ei ailddefnyddio bob wythnos.

ychwch i weld beth wnaethon nhw – mae rhai syniadau gwych ac anarferol. Beth fyddech chi’n ei wneud?

Enillwyr: 1af – Y Teulu Osborne | 2il – Y Teulu Bedford

Y gorau o’r gweddill: Y Teulu Edgeworth | Y Teulu James | Y Teulu Bailey | Y Teulu Stroud | Y Teulu Thomas


Y Teulu Osborne - Gwobr 1af – X-Box

Evan Osborne: 9 oed

‘Rwy’n byw yn Hermon gyda mam, dad ac Alex, fy chwaer sy’n 11 oed. Rydyn ni’n ailgylchu gwydr, caniau, plastig, papur, cardfwrdd ac rydyn ni’n compostio llawer o wastraff organig. Mae dad hyd yn oed yn ailgylchu wrin ar y tomenni compost! Ers i ni ddechrau ailgylchu fel hyn, rydyn ni wedi torri ein sbwriel bob wythnos lawr i ddau fag siopa plastig bach. Nawr mae llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi a gallwn ni ddefnyddio’r rhan fwyaf o’n sbwriel ni eto.’

Y Teulu Osborne

1 Fi, Dad ac Alex gyda’n sbwriel wythnosol

Y Teulu Osborne

2 Dad yn arllwys wrin ar y domen compost.

Y Teulu Osborne

3 Fi, mam ac Alex gyda photeli, caniau, plastig, papur a chardfwrdd i’w hailgylchu.

Y Teulu Osborne

4 Ein poteli a chaniau.


Y Teulu Bedford – 2il Wobr - Llyfr ffotograffydd bywyd gwyllt y flwyddyn a £20 i wario yn Lush

Victoria Bedford (15)

‘Rwy’n ailgylchu am fy mod i eisiau gwneud fy rhan i drio achub y blaned. Mae ein safleoedd tirlenwi’n llawn, ac os na fyddwn ni’n ailgylchu nawr, bydd rhaid i genedlaethau’r dyfodol dalu yn amgylcheddol ac yn ariannol.’

Y Teulu Bedford

1 Fi a fy chwaer, Emma gyda’n sbwriel wythnosol – dim ond un bag sbwriel bychan bach!

Y Teulu Bedford

2 Rydyn ni’n defnyddio hen becynnau losin i ddal bwyd y ci a’r adar, tybiau hufen iâ i gadw pethau a photiau dal ffilmiau i ddal piniau a secwins. Rydyn ni’n defnyddio’r bagiau bach dal powdr golchi i gadw botymau. Mae ein cylchgronau’n mynd at aelodau eraill o’r teulu neu i’r ysgol i bobl eu darllen yn ystafell y nyrs.

Y Teulu Bedford

3 Mae abwydfa gen i lle rydyn ni’n rhoi bwyd dros ben i wneud compost, 3 bag ar gyfer papur/caniau/cardfwrdd, cynwysyddion/poteli plastig a gwydr ac rydyn ni’n mynd â’r rhain i’r banc poteli lleol.

Y Teulu Bedford

4Mae gen i fin brown ar gyfer gwastraff yr ardd ac rydyn ni’n ailddefnyddio ein bagiau siopa plastig yn yr archfarchnad leol.


Y Teulu Edgeworth

Sean Edeworth (11)

‘Rwy’n ailgylchu am fod y blaned yma’n bwysig i fi ac wrth ailgylchu, rwy’n teimlo fy mod i’n helpu i wneud gwahaniaeth. Er nad yw hi’n beth mawr mewn gwirionedd, gyda’n gilydd gallwn ni wneud gwahaniaeth mawr os ydyn ni i gyd yn mynd ati i ailgylchu tuniau, papur, gwydr, plastig a chrwyn llysiau!

hreuwch ailgylchu heddiw i achub ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol! GALLWCH chi wneud gwahaniaeth!’

Y Teulu Edgeworth

1 Dad, fy chwaer Madeleine, fi, Mam, fy mrawd Jason gyda’n bag sbwriel. Gwerth wythnos o sbwriel!

Y Teulu Edgeworth

2 Fi gyda gwerth pythefnos o wastraff i’w ailgylchu – papur, gwydr, tun, a phlastig. Mae papur, gwydr a tun yn cael eu casglu o’r tu allan i’r ty bob pythefnos. Rydyn ni’n mynd â’r plastig i’r ganolfan ailgylchu.

Y Teulu Edgeworth

3 Fi gyda gwerth diwrnod o wastraff ar gyfer y domen gompost.

Y Teulu Edgeworth

4 Mae siopau mawr yn casglu cardiau Nadolig ym mis Ionawr. Rwy’n cadw cardiau pen-blwydd pawb yn ystod y flwyddyn ac yn eu hailgylchu nhw gyda’r cardiau Nadolig.


Y Teulu James

Adrian James

‘Mae sawl rheswm pam ein bod ni wedi cymryd ailgylchu o ddifri. Mae’r lle i daflu sbwriel mewn safleoedd tirlenwi’n mynd yn brin iawn, felly gorau po leiaf o wastraff rydyn ni’n ei daflu. Mae ailddefnyddio ac ailgylchu’n golygu bod llai o ddeunyddiau crai’n cael eu defnyddio ac mae hyn yn golygu bod y broses cynhyrchu’n creu llai o effaith ar yr amgylchedd. Mae’r plant yn hoffi natur a’r amgylchedd ac maen nhw’n gwybod am bwysigrwydd cynnal adnoddau naturiol er budd pobl, anifeiliaid a phlanhigion o’u gwaith ysgol. Chwinciad mae’n ei gymryd i wahanu pethau oddi wrth weddill ein sbwriel i’w hailddefnyddio neu eu hailgylchu ac felly does dim esgus, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae’r Cyngor yn casglu’r bagiau ailgylchu o stepen y drws!’

Y Teulu James
Y Teulu James

Rhaid i fi gynnwys dau lun o’r teulu gyda bag sbwriel yr wythnos – roedd rhaid i un ohonon ni dynnu’r llun! Y teulu yw Adrian, Carol, Carys (12) a Hywel (11). Fel arfer mae rhwng hanner a thri chwarter bag sbwriel gyda ni i’w roi allan bob wythnos.

Y Teulu James

2 Rydyn ni’n ailgylchu papurau newydd, cylchgronau, comics, taflenni, cylchlythyrau ac unrhyw bapur arall (ymdrechion gwaith papur sgrap?!)

Y Teulu James

3 Mae poteli a jariau gwydr, poteli a chynwysyddion plastig, pecynnau a bagiau plastig sydd wedi cael eu hailddefnyddio dro ar ôl tro yn mynd yn y sach ailgylchu hefyd. Rydyn ni’n ailgylchu tecstilau pan fo digon i lenwi bag.

Y Teulu James

4 Mae ein bin compostio’n cymryd crwyn llysiau, ffrwythau sydd wedi gor-aeddfedu ac sy’n dechrau pydru, plisg wyau, bagiau te a blychau dal wyau yn ogystal â gwair a dail o’r ardd.


Y Teulu Bailey

Christopher, Rosemary ac Evan Bailey

‘Mae ailgylchu’n ffordd rhwydd ac effeithiol o helpu i edrych ar ôl ein byd: gall y teulu cyfan ymuno yn yr hwyl – ac mae’n rhad ac am ddim!’

Y Teulu Bailey

1 Christopher, Rosemary ac Evan yn mynd â gwerth wythnos o sbwriel allan ar gyfer y lori ludw. Dim ond y pethau na allwn ni mo’u hailgylchu’n rhwydd sy’n mynd allan gyda’r sbwriel felly rydyn ni wedi lleihau ein sbwriel i 4 bag siopa plastig yr wythnos!

Y Teulu Bailey

2 Rydyn ni’n ailgylchu gwydr, papur, plastig a hyd yn oed cardfwrdd drwy fynd ag ef i’r biniau ailgylchu wrth neuadd y pentref.... oni bai ei fod yn addas i Evan fynd ag e i ysgol y pentref i wneud modelau sbwriel!

Y Teulu Bailey

3 Rydyn ni’n rhoi gwastraff yr ardd yn y bin brown er mwyn i’r Cyngor ei wagio bob pythefnos. Gallwn ni gadw rhai o’r canghennau a’u defnyddio i gynnal planhigion tal yn y borderi’r haf nesaf.

Y Teulu Bailey

4 Yn y gegin, mae bin ar wahân gyda ni ar gyfer gwastraff ffrwythau a llysiau i fynd ar y domen compost. Yn 2003, roedd hi mor fwyn bod hadau’r ffrwythau wedi tyfu’n blanhigion ar ein tomen compost a byw tan fis Hydref. Fe gasglon ni’r tomatos gwyrdd a’u ‘hailgylchu’ nhw i wneud picl blasus!


Y Teulu Stroud

Carlotte Stroud (4) Mam sydd wedi ysgrifennu’r llythyr

'Mae ein byd ni’n dioddef a ni sydd ar fai. Cyfrifoldeb pob un ohonon ni yw meddwl yn ofalus am y nwyddau rydyn ni’n eu defnyddio, beth gallwn ni ei wneud i leihau gwastraff ac annog pobl eraill i wneud yr un peth. Dydy gadael y peth i rywun arall ddim yn ddewis.’

Y Teulu Stroud

1 Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi llwyddo i leihau’r gwastraff o ryw hanner (wrth gwrs mae rhai wythnosau’n waeth nag eraill!).Mae hyn wedi digwydd oherwydd y gystadleuaeth, a gobeithio y gallwn ni ddal ati.

Y Teulu Stroud

2. Dyma Charlotte a fi’n ailddefnyddio rhai o’r deunyddiau gwastraff o gwmpas y ty. Rydyn ni’n trio gwneud dawnswraig Fflamenco! Hen botel dwr plastig yw ei chorff. Mae ffrâm dal lluniau yn y llun hefyd, gwnaethon ni hwn o gardfwrdd a ffacbys.

Y Teulu Stroud

3. Dyma Gwyn a Charlotte yn y ganolfan ailgylchu lleol. Nawr rydyn ni’n ailgylchu gwydr, caniau alwminiwm, papur newydd (er ein bod ni wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd), poteli plastig a phecynnau y gellir eu hailgylchu. Rydyn ni’n mynd â phecynnau cardfwrdd a gwastraff yr ardd i’r depo mwy bob ychydig wythnosau.

Y Teulu Stroud

4. yma Charlotte yng nghanol yr holl diwbiau o ganol papur ty bach. Rydyn ni’n gwneud ymdrech i ddefnyddio mwy o bethau sydd wedi eu hailgylchu o gwmpas y ty, yn dibynnu ar gost ac ansawdd wrth gwrs.


Y Teulu Thomas

Danielle Thomas (11).

‘Rwy’n ailgylchu am fy mod i eisiau helpu i achub y byd rhag marw a stopio’r mynyddoedd rhag cael eu gorchuddio â sbwriel. Rwy’n credu ddylech chi wneud yr ymdrech am y bydd yna lai o sbwriel ar y mynyddoedd a bydd ein planed llawer yn lanach gyda’ch cymorth chi. Felly helpwch i achub y Ddaear!’

Y Teulu Thomas

ffonau symudol a batris yn cael eu hailgylchu

Y Teulu Thomas

ailddefnyddio cardiau i wneud labeli newydd

Y Teulu Thomas

Ein sbwriel bob wythnos

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.