Cyfarfodydd o Lys y Llywodraethwyr - 22 Mai 2003
Cyfarfod o Lys Y Llywodraethwyr a gynhaliwyd ar 22 Mai 2003 yn Swyddfeydd y Cyngor, Cyngor Sir Ynys Môn.
- YN BRESENNOL: Paul Loveluck, Llywydd (yn y Gadair); Susan Davies, Is-Lywydd; G Wyn Howells, Trysorydd; Wynford Evans; Peter Warren; David Egan; Huw Williams; Dafydd Bowen Lewis; Rhiannon Wyn Hughes; Colin Jones; Brian Willott; Jane Peirson Jones; David Rogers; Geraint Jenkins; Dafydd Parry Jones.
- YN MYNYCHU: Iolo ap Gwynn (Darpar-Aelod o'r Cyngor); Mike Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol; Eurwyn Wiliam, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol; Mark Richards, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol; Robin Gwyn, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Strategol; Jon Sheppard, Cyfarwyddwr Cyllid a TG; Michael Tooby, Cyfarwyddwr AOG; John Williams-Davies, Cyfarwyddwr AWC; Dafydd Roberts, Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru; Angela Gaffney, Swyddog Project Ymchwil: Partneriaethau; Ann John, Adran Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, Llywodraeth y Cynulliad; Tony Lloyd, Pennaeth Gweinyddiaeth.
- YMDDIHEURIADAU:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb o'r cyfarfod oddi wrth Jonathan Jones; Murray McLaggan; Hefin Looker; Joan Roam; Helene Mansfield; Linda Quinn; Anthea Wellington; Mike Salter; Colin Rowlands; Win Griffiths AS; Malcolm Parry; Y Cynghorydd Lewis Jones; Gwilym Humphreys; Mair Waldo Thomas; Frances Lynch.
- CROESO:
Croesawodd y Cadeirydd Lys y Llywodraethwyr i'r cyfarfod ac estynnodd ei ddiolch i Gyngor Sir Ynys Môn am ddarparu'r lleoliad.
220 – COFNODION:
Penderfynwyd: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod Llys y Llywodraethwyr a gynhaliwyd ar 4 Hydref 2002.
221 – PENODIADAU I'R LLYS A'R CYNGOR:
Penderfynwyd: Cymeradwyo'r penodiadau canlynol:
- O'r Llys i'r Llys – Dr Iolo ap Gwynn a'r Athro John Last
- O'r Llys i'r Cyngor – Dr Iolo ap Gwynn a'r Athro John Last
222 – RHEOLAETH AOCC:
Adroddwyd: Cynigiodd y Llywydd y wybodaeth ddiweddaraf i Lys y Llywodraethwyr yn sgil argymhelliad yr Adroddiad Pum Mlynedd i adolygu swyddogaeth y Llys. Roedd gweithgor wedi cael ei sefydlu oedd wedi adrodd i'r Llys a bu i'r Llywydd atgoffa'r Llys am y penderfyniadau a wnaed yn ei gyfarfod ym mis Mai 2002 sef:
- Derbyn na fyddai ganddo swyddogaeth rheoli yn y dyfodol.
- Ei gwneud yn ofynnol i'r Amgueddfa sefydlu partneriaethau â chyfranddeiliaid yn ôl yr angen o bryd i'w gilydd er mwyn bodloni gofynion datblygu a chyflawni cynlluniau strategol yr Amgueddfa, a pharhau i adolygu partneriaethau o'r fath er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio'n effeithiol er lles yr holl bartneriaid.
- Ei gwneud yn ofynnol i'r Amgueddfa gynnal o leiaf dau gyfarfod cyhoeddus y flwyddyn.
- Y bydd 12 aelod arferol ar y Cyngor o hyd, ac y dylai 7 ohonynt gael eu penodi gan yr Amgueddfa – gan y Cyngor ei hunan – a 5 gan Lywodraeth y Cynulliad, â'r naill yn ymgynghori â'r llall wrth wneud penodiadau o'r fath. Dylai'r holl benodiadau hyn gael eu gwneud mewn ffordd dryloyw gyda'r bwriad bod gan y medrau angenrheidiol gan y Cyngor i gyflawni ei swyddogaeth.
- Bod y swyddogion anrhydeddus yn cael eu penodi gan y Cyngor gyda chymeradwyaeth Llywodraeth y Cynulliad.
- Pum mlynedd fydd cyfnod y swyddogion anrhydeddus yn y swydd o hyd ond rhoddir ystyriaeth i leihau cyfnod y Cyn-lywydd Diwethaf (i un flwyddyn).
- Bod unrhyw ddarpariaethau trosiannol angenrheidiol yn eu lle.
Roedd yr Amgueddfa eisoes wedi symud i gyfeiriad sicrhau tryloywder mewn perthynas â phenodiadau, ac roedd cyfarfodydd y Cyngor bellach yn agored i'r cyhoedd. Roedd penderfyniad y Llys wedi cael ei gyflwyno gerbron Llywodraeth y Cynulliad ond nid oedd sylwadau wedi dod i law ar yr adroddiad llawn hyd yn hyn. Cynigiwyd bod Llywodraeth y Cynulliad yn penodi saith aelod o'r Cyngor a'r Swyddogion, a bod y Cyngor yn penodi pump o aelod. Roedd y Cyngor wedi nodi'r cynnig hwn oedd yn groes i'r hyn yr oedd y Llys wedi cytuno arno a byddai'n gofyn am drafodaeth bellach gyda gweinyddiaeth newydd Llywodraeth y Cynulliad cyn adrodd yn ôl i'r Llys.
Roedd yr holl Bwyllgorau a Phaneli wedi trafod hyn ac yn y dyfodol, dim ond tri phwyllgor, sef Archwilio, Tâl a'r Ymddiriedolwyr Pensiynau, fyddai'n cwrdd. Roedd y Cyngor wedi penderfynu bod angen cysylltiadau effeithiol rhwng y Cyngor a Bwrdd y Cyfarwyddwyr; systemau effeithiol ar gyfer ymgynghori â phartneriaid a systemau effeithiol i sicrhau bod y swyddogaethau craidd yn derbyn cyngor priodol o'r tu allan. Y gobaith oedd cynnal buddiannau'r Pwyllgor a'r Panel cyfoes drwy eu cynnwys yn y corff ymgynghorol a fyddai'n disodli'r Llys. Nododd y Llywydd bod y Llyfrgell Genedlaethol wedi cwblhau ei Hadolygiad Pum Mlynedd a bod y cynigion ar gyfer ei Llys yn debyg i gynlluniau AOCC, a bod yr un ystyriaethau yn berthnasol. Yr Is-Lywydd oedd cynrychiolydd yr Amgueddfa ar weithgor y Llyfrgell.
Mewn ymateb i gwestiwn oddi wrth Geraint Jenkins, bydd cynrychiolaeth yr awdurdodau lleol yn parhau i chwarae rhan bwysig fel y cyfranddeiliaid allweddol a chaiff mecanwaith ei ymgorffori i'w cynnwys.
Penderfynwyd: Yn unol â hynny. Nododd y Llys y safbwynt hwn a nododd y bydd angen trafodaethau sylweddol ond y caiff unrhyw addasiadau i benderfyniadau'r Llys eu cyfeirio nôl at y Llys i'w cymeradwyo yn ôl yr angen.
223 – ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR:
Derbyniwyd: Adroddiad oddi wrth y Cyfarwyddwr Cyffredinol sy'n amgaeëdig yn Atodiad A.
224 – DYDDIAD AC AMSER Y CYFARFOD NESAF:
Penderfynwyd: Cynnal cyfarfod nesaf Llys y Llywodraethwyr ar ddydd Iau, 23 Hydref
yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol am 2.00pm.
Adroddiad y Cyfarwyddwr i Lys y Llywodraethwyr
Mae'n bleser mawr gen i gyflwyno fy adroddiad cyntaf sy'n cwmpasu'r 7 mis diwethaf i Lys y Llywodraethwyr fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.
Wrth ymuno ag AOCC, mae brwdfrydedd y staff, cyffro datblygiadau o bwys ac egni'r sefydliad wedi fy nharo i. Wrth i'r sefydliad agosáu at ei ganmlwyddiant yn 2007, rydym ni'n dechrau cyfnod newydd; mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dechrau tymor newydd; mae gan Gymru Weinidog newydd dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon yn Alun Pugh, y cwrddais i ag ef nos Fawrth wrth iddo agor arddangosfa Thomas Jones yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol; ac yn fuan iawn byddaf i'n gweithio gyda'm cydswyddogion, y Cyngor, y Llys a'r holl gyfranddeiliaid eraill i ddatblygu gweledigaeth newydd ar gyfer AOCC a'i gysylltiadau.
Rwy'n awyddus i ddysgu am y casgliadau a'r materion allweddol sy'n wynebu AOCC ac, yn benodol, sut gallwn ni adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd wedi cael ei wneud eisoes. Yn ystod fy mis cyntaf, rydw i wedi treulio cryn dipyn o amser ymgyfarwyddo â'r casgliadau a'r amgueddfeydd ac yn dod i adnabod fy nghydweithwyr. Rydw i wedi treulio sawl diwrnod yn Amgueddfa Lechi Cymru ac yn ymweld â'n partneriaid yn y rhaglen Cyfoeth Cymru Gyfan yn y Gogledd ac erbyn hyn rydw i wedi ymweld â holl safleoedd AOCC. Erbyn canol Mehefin, byddaf i wedi cwrdd â phob un o 650 aelod staff AOCC, er yn fras. Mae hyn wedi bod yn eithriadol o fuddiol.
Rwy'n arbennig o falch fy mod i'n cyflwyno fy adroddiad cyntaf i chi yma yn y Gogledd, a diddorol oedd cael clywed am y penderfyniad o'r cychwyn cyntaf i sicrhau bod Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru yn ymestyn dros Gymru benbaladr. Yn ôl ym 1937, derbyniodd yr Amgueddfa gyfrifoldeb dros yr arddangosion yn safle Rhufeinig Segontium, Caernarfon, yr amgueddfa bwrpasol gyntaf yn y gogledd-orllewin. Agorwyd Amgueddfa Werin Cymru ym 1948 gan ennill troedle cynrychioladwy ar safle a enillodd ei blwyf fel lleoliad eiconaidd i ymwelwyr o'r gogledd yn fuan iawn. Roedd staff Sain Ffagan yn amlwg iawn ledled Cymru, ac roedd y casgliad cynyddol o adeiladau – o bob cwr o Gymru – yn denu ymdeimlad o berchnogaeth ar draws y wlad. Ym 1972, sefydlwyd Amgueddfa Chwarela Gogledd Cymru – sef Amgueddfa Lechi Cymru heddiw.
Partneriaethau
Fel y soniodd y Llywydd, mae AOCC wrthi'n cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o bartneriaethau ym mhob Cymru. Yn dilyn cyfarfod agored yng Nghaernarfon, o dan nawdd Cyngor y Dref, mae'r trefniadau partneriaeth yn Segontium wedi gweld sefydlu cwmni newydd o'r enw Segontium Cyf, i weithredu'r Amgueddfa. Yn rhan o fenter Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyfoeth Cymru Gyfan – Sharing Treasures, mae AOCC wedi bod yn arwain y gwaith o greu partneriaeth i amlygu a hyrwyddo ei waith mewn meysydd heblaw'r safleoedd y mae'n eu rheoli'n uniongyrchol. Gwasanaeth Amgueddfeydd a Diwylliant Sir Ynys Môn ac Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam oedd 2 o'r 3 lleoliad a ddewiswyd gan Gyngor yr Amgueddfeydd yng Nghymru i gymryd rhan. Mae'n dda gen i ddweud wrthych chi fod 'Ail-greu', yr arddangosfa archaeolegol a gynhaliwyd yn Oriel Ynys Môn rhwng 7 Mawrth a 6 Ebrill 2003, wedi denu 6,741 o ymwelwyr, ac o'r rhain, roedd 472 yn perthyn i grwpiau ysgol.
Project ymchwil cydweithredol ar y cyd rhwng Cymru ac Iwerddon yw Arolwg De-orllewin Môr Iwerddon (SWISS) a gychwynnwyd o dan raglen INTERREG yr UE ac sy'n derbyn rhywfaint o gyllid drwy'r rhaglen. AOCC sy'n arwain ochr Gymreig y bartneriaeth ar y cyd â Labordy Morol Porthaethwy, Prifysgol Cymru, Bangor. Mae Adran Gelf AOCC yn cydweithio'n agos ag Oriel Mostyn yn Llandudno a'r Academi Frenhinol Gymreig yng Nghonwy. Ar hyn o bryd, mae gan AOCC 3234 o wrthrychau ar fenthyg i 147 o ganolfannau ar draws Cymru gyda nifer sylweddol ar fenthyg i leoliadau yn y Gogledd.
Drwy'r fenter "Ar Dir Cyffredin", mae AOCC a nifer o'i bartneriaid wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc 16-25 oed, nad ydynt yn mynd i amgueddfeydd yn draddodiadol, mewn 4 cymuned yn Ninbych, Dinbych y Pysgod, Abertawe a Rhondda Cynon Taf i ysgogi eu diddordeb yng ngwaith AOCC.
Projectau Mawr
Mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen ar yr holl brojectau mawr, er bod rhywfaint o oedi wedi bod ar y gwaith adeiladu yn ADGC a Phwll Mawr. Mae cynigion amlinellol oddi wrth Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dod i'r fei mewn perthynas â'u cynigion ar gyfer Canolfan Sutherland ac mae'r gwaith ar Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe yn symud yn ei flaen yn foddhaol o ran yr elfennau pensaernïol a dyluniad yr arddangosfeydd. Dechreuodd y prif gontract gwaith ar 1 Ebrill 2003. Mae cysyniad y project hwn yn unigryw – sef gosod pobl wrth galon y diwydiant.
Yn sgil cadarnhau gwerth £3.5m o gyllid cyfalaf oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae'n bleser mawr gen i ddweud bod tîm project mewnol wedi cael ei sefydlu i oruchwylio datblygiad y Ganolfan Gadwraeth a Mynediad Genedlaethol a fydd yn sicrhau bod casgliadau'r genedl yn cael eu cadw o dan amodau amgylcheddol priodol ar gyfer y to sy'n codi. Bydd y Ganolfan hefyd yn ganolog wrth hwyluso ein huchelgais i adael i'r casgliadau cenedlaethol gael eu gweld ar draws Cymru drwy ein rhaglen bartneriaeth.
Mae'r gwaith o godi arian ar gyfer y projectau mawr hyn yn parhau i ddatblygu ac mae gan AOCC gefnogaeth gryf o du rhyw 100 o gefnogwyr. Mae Cwmni Masnachol newydd AOCC (Mentrau AOCC) wedi cael ei lansio'n ddiweddar gyda Chyfarwyddwyr anweithredol o fyd manwerthu.
Rheolaeth fewnol
Ar fater rheolaeth fewnol, roeddwn i wrth fy modd i ddarllen adroddiad ardderchog yr Adolygiad Pum Mlynedd diweddar ar Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ac rwy'n falch o ddweud bod cynnydd yn cael ei wneud mewn perthynas â'r holl gamau sydd ar ôl. Un o'r pethau hyn yw ystyried cyfraniad gwyddonol AOCC at feysydd fel yr amgylchedd, defnydd tir, mwynau ac adeiladu ayb ac edrych ar y cwmpas ar gyfer datblygu, a hyrwyddo mentrau gwyddonol o'r fath. Mae gan AOCC sylfaen gwyddonol cryf ac rydym ni'n gwneud cynnydd tuag at ddatblygu strategaeth ar gyfer cyfraniad gwyddonol cryfach ledled Cymru.
Mae'r adolygiad o Gyflogau a Graddau a fydd yn gwella ein gallu i recriwtio a chadw staff allweddol wedi cael ei gwblhau ac wedi cael derbyniad da ar y cyfan.
Rydym ni hefyd yn croesawu 6 aelod newydd i'r Cyngor.
Ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2002/03, roedd niferoedd yr ymwelwyr 11% yn uwch na'r targed a chwta 10.6% yn is na'r lefelau na welwyd mo'u tebyg byth o'r blaen y llynedd. Roedd rhagori ar y targedau a bennwyd a chynnal niferoedd yr ymwelwyr ar gynnydd o 67% ers cyflwyno mynediad am ddim yn gamp aruthrol a oedd yn cymharu'n ffafriol ag amgueddfeydd cenedlaethol eraill y DU nad oedd wedi llwyddo i sicrhau 60% o gynnydd hyd yn oed yn ystod blwyddyn gyntaf mynediad am ddim.
Y dyfodol
Yn olaf, hoffwn grynhoi rhai o'r meysydd y byddaf i am fwrw ymlaen â nhw dros y misoedd nesaf. Wrth gwrs, byddaf i'n ymdrechu i ennill dealltwriaeth lawnach o gwmpas busnes AOCC: ysgolheictod, stiwardiaeth, dysgu a mynediad, cyfleoedd datblygu, cyfathrebu a brandio, gweithgareddau masnachol a rheolaeth fewnol. Byddaf i'n ceisio codi proffil yr agenda dysgu a mynediad, ac adeiladu ar gryfderau a llwyddiannau'r project "Ar Dir Cyffredin" a mentrau addysgol eraill. Byddwn ni'n cyflawni asesiad cyflawn o sut mae'r Amgueddfeydd yn rhyngweithio â'n hymwelwyr, traul, ansawdd profiad yr ymwelwyr, ayb; a'r gallu i gynnal ein hadeiladau mewn ffordd foddhaol.
Cam pwysig fydd bwrw ymlaen ag ymarfer cynhwysfawr i bennu gweledigaeth, a fydd yn cynnwys cydweithwyr ar bob lefel ac yn meithrin ymdeimlad o berchnogaeth ac eglurder yng nghyfeiriad tymor hwy y sefydliad.
Rwy'n edrych ymlaen at y dyfodol, ac at weithio gyda phawb i adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd wedi cael eu gosod eisoes.







