Cyfarfodydd o Lys y Llywodraethwyr - 23 Hydref 2003

-Cyfarfod LLYS Y LLYWODRAETHWYR a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2003 yn Ystafell Icons, yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol.

- YN BRESENNOL Paul E Loveluck, Llywydd (yn y Gadair); Susan Davies, Is-Lywydd; G Wyn Howells, Trysorydd; Mathew Prichard, Cyn-lywydd Diwethaf; Wynford Evans; Peter Warren; Huw Williams; Dafydd Bowen Lewis; Jane Peirson Jones; Mike Salter; Iolo ap Gwynn; Chris Delaney; D Parry Jones; Gwilym Humphreys; Mair Waldo Thomas; y Cynghorydd Delme Bowen; Joan Raum; y Cynghorydd R Cass; Win Griffiths AS; y Cynghorydd R H Poole; Anthea Wellington a Jonathan Jones.

- YN MYNYCHU: Mike Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol; Mark Richards, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Robin Gwyn, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Strategol; Jon Sheppard, Cyfarwyddwr Cyllid a TG; Michael Tooby, Cyfarwyddwr AOG; John Williams-Davies, Cyfarwyddwr AWC; Dafydd Roberts, Ceidwad, Amgueddfa Lechi Cymru; Ann John, Pennaeth Cangen Amgueddfeydd, Llywodraeth y Cynulliad; Tony Lloyd, Pennaeth Gweinyddiaeth; Tecwyn Jones (Panel y Gwyddorau, y Pwyllgor Casgliadau ac Addysg); Richard Hanbury-Tenison (Panel y Celfyddydau); Arwel Elis Owen (Panel AWC ac ADGC); Victoria Provis (Panel AOG a'r De-ddwyrain); Colin Jenkins (Pwyllgor Casgliadau ac Addysg); Christopher Gridley (Panel y Celfyddydau); Arglwydd Antrim (Panel y Celfyddydau); Roger Davies (Panel y Gogledd); David Walton (Pwyllgor Amgueddfeydd a Materion Cyhoeddus); Siân Rees (Panel Archaeoleg a Hanes); Ralph Jackson (Panel Archaeoleg a Hanes); Gill Bernsten (Pwyllgor Amgueddfeydd a Materion Cyhoeddus); Hugh Jones (Panel AOG a'r De-ddwyrain) a Lois Williams (Panel y Celfyddydau).

- YMDDIHEURIADAU:
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth yr aelodau canlynol o'r Llys: John Last, Colin Jones, Geraint Jenkins, John King, Rhiannon Wyn Hughes, Geraint Talfan Davies; Malcolm Parry, Francis Lynch Llewellyn, Dewi Davies, y Cynghorydd Paul Thomas, y Cynghorydd David Rogers, Helene Mansfield, Hefin Looker, y Cynghorydd Lewis Jones ac Eurwyn Wiliam, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol.

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth yr aelodau canlynol o'r Pwyllgorau a'r Paneli: Christopher Law, David Mason, Peter Tyndall, Stella Mair Thomas, Charles Stirton, Edmund de Waal, Siân Lloyd, Carys Howell, Bryony Coles, Malcolm Symonds, Isabel Hitchman, Nancy Edwards, P Glanville, Nick Merriman, Elwyn Tudno Jones, Alun Daniel, Mike Stammers, Eleri M Rogers a Martin Lloyd.

1 - CROESO:
Croesawodd y Cadeirydd Lys y Llywodraethwyr a'r aelodau o'r Pwyllgorau a'r Paneli oedd wedi gallu dod i'r cyfarfod.

2 - COFNODION:
Penderfynwyd: Y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod Llys y Llywodraethwyr a gynhaliwyd ar 22 Mai 2003.

3 – YR ADRODDIAD A'R CYFRIFON BLYNYDDOL:
Derbyniwyd a Chymeradwywyd: Y 95ed Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2002 i 31 Mawrth 2003.
Nodwyd: Nododd y Llywydd bod cyfarfod diwethaf y Llys wedi bod ar Ynys Môn yn unol â dymuniad y Cyngor i fod yn agored ac yn eglur ac am i'w gyfarfodydd symud o gwmpas Cymru. Anogodd aelodau'r Llys i ddod i gyfarfodydd y Cyngor pryd bynnag yr oeddent yn cael eu cynnal yn eu hardal.

Wrth gyflwyno'r Adroddiad Blynyddol, nododd y Llywydd y bod angen defnyddio print mwy ac mwy eglur. Nododd bod nifer yr ymwelwyr wedi aros yn eithriadol o dda yn ystod y flwyddyn a bod cynnydd o 67% dros y flwyddyn olaf cyn cyflwyno mynediad am ddim. Roedd hyn yn rhagori ar y targed ac yn cymharu'n ffafriol iawn â pherfformiad amgueddfeydd Lloegr (y tu allan i Lundain). Cafwyd 175,000 o ymweliadau â'r arddangosfeydd dros dro a gynhaliwyd ar bob math o bynciau o Ar Drywydd Deinosoriaid, Star Trek, Ceri Richards, Crefft yn Blodeuo i Cedric Morris a Chelfyddyd yr Alltud. Rhoddodd y gwaith Allestyn a chysylltu â phobl sydd dan anfantais gymdeithasol yn eu cymunedau gip i'r Amgueddfa ar sut mae angen targedu'r cysylltiadau hyn ar gyfer pobl ym mhob rhan o Cymru, ac nid y bobl ifanc yn unig. Tynnodd y Llywydd sylw at y gwaith ar Fioamrywiaeth yn AOCC ac at y ffaith fod gan yr Amgueddfa'r nifer fwyaf o arbenigwyr ar dacsonomeg y tu allan i Lundain a bod y gwaith ym maes y gwyddorau naturiol yn berthnasol iawn i asiantaethau eraill yng Nghymru. Roedd yr adran Ddaeareg wedi cynhyrchu canllaw i reoli tirlithradau yn y gogledd, a thrwy waith o'r fath, roedd yr Amgueddfa yn gallu meithrin cysylltiadau â gwledydd fel Japan a Thsieina. Talodd y Llywydd deyrnged i'r cyn-Lywydd, Mathew Prichard, a'r cyn Is-Lywydd, Roger Thomas, a diolchodd am gefnogaeth barhaus y Trysorydd, Wyn Howells. Roedd y Llywydd yn teimlo bod gwaith yr Amgueddfa'n dibynnu'n drwm iawn ar ei staff a diolchodd yr holl staff, ac yn arbennig y Gyfarwyddwraig yn ystod cyfnod yr adroddiad, Anna Southall, oedd wedi gwneud cyfraniad mawr mewn cyfnod byr, ac yn enwedig yn nhermau'r Strategaeth Ddiwydiannol, gan gynnwys Pwll Mawr, Amgueddfa Diwydiant Gwlân Cymru a phroject Abertawe. Estynnodd ddiolch hefyd i Eurwyn Wiliam am ei gefnogaeth yn ystod y 6 mis cyn penodi'r Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd. Rhoddodd groeso gwresog i Mike Houlihan, y Cyfarwyddwr Cyffredinol, oedd wedi dod i AOCC gyda chyfoeth o brofiad ym maes amgueddfeydd, a hynny'n arbennig yn Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Gogledd Iwerddon (MAGNI).

Mewn ymateb i gwestiwn oddi wrth y Cynghorydd Delme Bowen, cadarnhaodd y Llywydd bod yna gysylltiadau'n bod eisoes rhwng AOCC â'r Gerddi Botanegol Cenedlaethol o ran gwaith ymchwil ond y byddai bob amser yn agored i ystyried projectau pellach ar y cyd ac roedd yn gobeithio y byddai ateb ariannol yn dod i ddatrys problemau'r Gerddi.

Gofynnodd Joan Raum a fyddai yna gysylltiadau â Gerddi Kew pe bai yna broblem tymor-hir gyda'r Gerddi Botanegol yn Llanarthne ac eto, cadarnhaodd y Llywydd bod yna gysylltiadau rhwng AOCC a Kew eisoes, yn ogystal â chysylltiadau â Chaeredin.

Rhoddodd y Cynghorydd Dick Cass o Gyngor Sir Mynwy wybod i'r Llys bod Neuadd Sir Fynwy wedi dechrau dadfeilio ond ei bod yn debygol y byddai cyllid ar gael oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri i'w hadfer. Gofynnodd a fyddai AOCC yn edrych yn ffafriol ar gynnal arddangosfa yno ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau. Cafodd sicrwydd bod gan AOCC nifer fawr o wrthrychau ar fenthyg y tu allan i'w amgueddfeydd eisoes a phe bai modd bodloni'r gofynion ar gyfer benthyciadau, roedd croeso i unrhyw awdurdod lleol wneud cais am fenthyg eitemau.

Cyflwynodd y Trysorydd y Cyfrifon. Nododd bod incwm yr Amgueddfa wedi rhagori ar y gwariant o £4.3m. Gwelwyd cynnydd o £1m yn y gwariant uniongyrchol, roedd yna gynnydd yn y fantolen a ddygwyd ymlaen oherwydd cynnydd o £10m yn yr asedau sefydlog, ac roedd Cyfrifon eleni yn cynnwys asedau treftadaeth. Roedd gwerth y buddsoddiadau mewn asedau sefydlog wedi disgyn gan adlewyrchu'r cwymp yn y farchnad stoc dros y cyfnod o dan sylw a thynnwyd sylw at y diffyg o £16m yn y Cynllun Pensiwn, yn ôl y sefyllfa ar 31 Mawrth. Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn troi'n wirionedd oni bai bod y Gronfa'n cael ei chrisialu ac ar ddiwedd Medi, roedd y gwelliant yn y farchnad stoc wedi dangos gwelliant amcanestynedig o £5m yn y Gronfa. Roedd Ymddiriedolwyr y cynllun pensiwn yn ystyried dewisiadau ar gyfer dyfodol y Gronfa ar y cyd â Llywodraeth y Cynulliad. Barn Archwilydd Cyffredinol Cymru am y Datganiadau Ariannol oedd eu bod yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa AOCC ac nid oed ganddo unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y Datganiadau Ariannol hyn.
Penderfynwyd: Yn unol â hynny.

4 – ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR CYFFREDINOL:
Derbyniwyd: Adroddiad oddi wrth y Cyfarwyddwr Cyffredinol sy'n amgaeëdig fel Atodiad A.

5 – DYDDIAD AC AMSER Y CYFARFOD NESAF:
Penderfynwyd: Cynnal cyfarfod nesaf Llys y Llywodraethwyr ar 27 Mai 2004. Wedyn trafododd y Llys a'r aelodau oedd yn bresennol o Bwyllgorau a Phaneli'r Cyngor:
i) trefniadau AOCC ar gyfer ymgynghori â'i fudd-ddeiliaid a
ii) ffyrdd priodol i AOCC ddathlu ei ganmlwyddiant yn 2007.
Atodir nodiadau'r trafodaethau hyn yn Atodiad B.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.