Cyfarfodydd o Lys y Llywodraethwyr - Hydref 4ydd 2002
Cyfarfodydd o Lys y Llywodraethwyr
Cyfarfod LLYS Y LLYWODRAETHWYR a gynhaliwyd ar Hydref 4ydd 2002 Ystafell y Llys, Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol.
YN BRESENNOL:
Mathew Prichard, Llywydd; Roger G Thomas, Is-Lywydd; G Wyn Howells, Trysorydd;
Susan Davies (Darpar Is-Lywydd); Nancy Edwards; Wynford Evans; Win Griffiths
AS; Rhiannon Wyn Hughes; Colin Jones; D Parry Jones; Eirlys Pritchard Jones;
Lewis Jones; Dafydd Bowen Lewis; Hefin Looker; Paul Loveluck (Darpar Lywydd);
Linda Quinn; Joan Roam; David Rogers; Mike Salter; Mair Waldo Thomas; Anthea
Wellington; Brian Willott.
HEFYD YN BRESENNOL
Anna Southall, Cyfarwyddwr AOCC; Eurwyn Wiliam, Dirprwy Gyfarwyddwr AOCC; Robin
Gwyn, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Strategol; Mark Richards, Cyfarwyddwr Cynllunio
Adnoddau; Mike Tooby, Cyfarwyddwr AOG; John Williams-Davies, Cyfarwyddwr AWC;
Tony Lloyd, Pennaeth Gweinyddiaeth.
YMDDIHEURIADAU:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb o’r cyfarfod oddi wrth Richard Cass;
Sybil Crouch; Chris Delaney; Gwilym Humphries; Huw Jones; Jonathan Jones; John
King; Patricia Larsen; Eleri Wyn Lewis; Hélène Mansfield; Malcolm Parry; Colin
Rowland; Paul Thomas.
375a -COFNODION:
Penderfynwyd: Derbyn cofnodion cyfarfod Llys y Llywodraethwyr a gynhaliwyd ar
Fai 24ain 2002.
375b - PENODI LLYWYDD AC IS-LYWYDD:
Hysbyswyd: Fod y Llywydd, Mathew Pritchard, wedi llongyfarch y Llys, y Cyngor,
ei bwyllgorau, a holl weithwyr AOCC am eu cymorth, eu cefnogaeth a’u hymroddiad
drwy gydol y cyfnod y bu ef a’r Is-Lywydd (Roger G Thomas) yn eu swyddi. Ar
y cam hwn fe drosglwyddodd y Llywyddiaeth i Paul Loveluck ac fe drosglwyddodd
Roger Thomas yr Is-Lywyddiaeth i Susan Davies.
Fe gyfleodd y Llywydd newydd ei ddiolchiadau i Mathew, Roger a diolchodd hefyd i’r Gyfarwyddwr, Anna Southall, a oedd yn gadael yr Amgueddfa i ymgymryd â swydd Prif Weithredwr Resource, Lloegr.
Ers y cyfarfod ar Fai 24ain pan oedd y Llys wedi ei benodi yntau’n Llywydd a Susan yn Is-Lywydd, roedd y Llywydd wedi elwa o gyfnod trosglwyddo a barodd chwe mis ac a gawsai’n amhrisiadwy, gan ei fod wedi bod yn gyfnod ymgynghori. Roedd yn hyderus y gallai ef a’r Is-Lywydd ychwanegu mwy hyd yn oed at yr hyn a gyflawnwyd eisoes.
375c - ADRODDIAD Y CYNGOR:
Derbyniwyd: Y 94ain Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon am y cyfnod o Ebrill 1af
2001 i Fawrth 31ain 2002.
Hysbyswyd: Fod y Llywydd yn llongyfarch y golygydd a’i staff ar yr adroddiad a oedd wedi’i gyflwyno mor dda. Fe gyflwynodd y Gyfarwyddwr ei hadroddiad i’r Llys ac fe dynnodd sylw at rannau o’r araith a wnaeth gerbron y Cyngor y noswaith flaenorol (atodir copi). Wedyn fe gymeradwyodd y Llywydd yr Adroddiad Blynyddol i’r Llys.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Win Griffiths AS am ariannu’r Ganolfan Gasgliadau, Nantgarw yn y dyfodol a’i datblygu, fe’i sicrhawyd fod hwn yn gynnig pwysig yng Nghynllun Corfforaethol AOCC. Fe dynnodd y Llywydd sylw at yr angen i ehangu’r Ganolfan Gasgliadau gan ei bod yn allweddol i gynlluniau’r Amgueddfa ar gyfer partneriaethau ledled Cymru er mwyn gallu symud casgliadau o un rhan o Gymru i’r llall.
Mewn ymateb i gwestiwn arall gan Win Griffiths yngl?n â’r rhan a chwaraeir gan yr Amgueddfa yn amgueddfeydd awdurdodau lleol, fe’i sicrhawyd fod AOCC yn rhoi llawer o gymorth i’r amgueddfeydd hyn fel rhan o’i swyddogaeth fel aelod o Gyngor Amgueddfeydd Cymru, y corff sy’n gyfrifol am y gwaith hwn. Fe dynnodd yr Is-Lywydd sylw at y ffaith nad oes corff yng Nghymru sy’n cyfateb i Resource yn Lloegr, ond bod hyn yn cael ei ystyried. Felly, roedd cyfleusterau ymarferol ar gyfer trefniadau partneriaeth yn fwyfwy angenrheidiol yn sgîl yr ehangu a chan fod AOCC am ddiwallu’r angen. Fe wnaeth y sylw bod hwn yn bwnc a fyddai’n cael ei drafod gan y Cyngor yn ei gyfarfod y prynhawn yma.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Linda Quinn, cadarnhawyd fod cynigion yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol ar gyfer Cwmni Masnachu a’r gobaith oedd y byddai’n cael ei lansio ar ddechrau’r flwyddyn ariannol nesaf (Ebrill 1af 2003).
Llongyfarchodd Mair Waldo Thomas staff yr Amgueddfa ar yr Adroddiad ac fe ofynnodd a oedd yn fwriad cael mynediad i gadeiriau olwyn ym mhrif fynedfa AOG. Fe’i sicrhawyd fod yr Amgueddfa wrthi’n trafod gyda CADW yngl?n â mynediad i’r anabl ond bod datrysiad yn anodd o ganlyniad i’r rhestriad Gradd 1.
Gofynnodd Linda Quinn a oedd angen i Amgueddfa Lechi Cymru gau ar ddydd Sadwrn ac fe gadarnhawyd nad oedd y safle ond yn cau yn y gaeaf rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth, ond bod hyn wrthi’n cael ei adolygu.
Fe dynnodd y Llywydd sylw’r Llys at y ffaith bod mynediad am ddim i lawer o’r Amgueddfeydd, yn enwedig Amgueddfa Lechi Cymru, wedi rhoi hwb mawr i fusnesau lleol ac, o ganlyniad, roedd cymunedau wedi mynegi eu cefnogaeth i fynediad am ddim, er y mynegwyd pryder ynghylch yr effaith yr oedd mynediad am ddim i Pwll Mawr yn ei chael ar atyniad i ymwelwyr sy’n cael ei redeg am y tro cyntaf gan gwmni preifat.
Fe gyflwynodd y Trysorydd y cyfrifon. Fe wnaeth y sylw bod yr Amgueddfa wedi derbyn £1.1 miliwn mewn nawdd ychwanegol ar gyfer mynediad am ddim ac un taliad unigol o £1 miliwn tuag at Gronfa Pensiwn yr Amgueddfa. Cafwyd gwelliant o £300,000 yng ngwir werthiant y siopau a chynnydd o £2.5 miliwn mewn rhoddion a chymunroddion gan gynnwys ased au a gafwyd yn rhodd a paentiad gan Gainsbourgh. Roedd integreiddio Pwll Mawr a chostau staff wedi dylanwadu ar y cynnydd mewn gwariant. Roedd y gwir symudiad ariannol o £5.584 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol yn rhannol o ganlyniad i ailbrisio asedau sefydlog gyda’r asedau sefydlog yn cynnwys addasiad dyledwyr i adlewyrchu’r fantolen enillion o werthiant ADMC ac ar gyfer AGGA.
Fe dynnodd y Trysorydd sylw’r Llys at farn Archwilydd Cyffredinol Cymru am
y Datganiadau Ariannol a oedd yn ei dyb ef yn rhoi argraff wirioneddol a theg
o gyflwr AOCC ac nad oedd ganddo sylwadau i’w gwneud ar y Datganiadau Ariannol
hyn. Fe roddodd y Llywydd ganmoliaeth i’r Amgueddfa am allu talu anfonebau dilys
yn unol â (ac, yn wir, yn well na) Chod Ymarfer y CBI.
Penderfynwyd: Yn unol â hynny.
375d - DYFODOL LLYS Y LLYWODRAETHWYR:
Hysbyswyd: Fod argymhellion Gweithgor y Llys wedi cael eu cyflwyno i’r Gweinidog
Diwylliant, Chwaraeon a’r Iaith Gymraeg a bod Swyddogion y Cynulliad wedi dynodi
ei bod hi’n debygol o fod yn awyddus i drafod y mater ymhellach gyda’r Llywydd
yn yr hydref.
Roedd y Llywydd eisoes wedi cychwyn ar y broses ymgynghori gyda’r Pwyllgorau a’r Panelau presennol a’r gobaith yw, erbyn cyfarfod nesaf y Llys, y bydd cynllun ar gyfer y dyfodol, yn seiliedig ar wybodaeth yn deillio o drafodaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cael ei gyflwyno.
Pwysleisiwyd y byddai unrhyw newidiadau posib i’r argymhellion y cytunwyd arnynt gan y Llys ac y gofynnwyd amdanynt gan y Gweinidog yn gorfod cael eu rhoi gerbron y Llys er cytundeb.
Fe hysbyswyd y Llys gan y Llywydd y gallai cyfarfodydd yn y dyfodol ddefnyddio fideogynadledda yn safleoedd amgueddfeydd eraill pe bai angen ac y byddai’r Cyngor yn defnyddio’r cyfleuster hwn.
375e - Y CYFARWYDDWR CYFFREDINOL:
Hysbyswyd: Fod y broses recriwtio ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Cyffredinol yn
mynd rhagddo ac y byddid yn hysbysu aelodau’r Llys cyn gynted ag y bo penderfyniad
wedi cael ei wneud.
375f - DYDDIAD AC AMSER Y CYFARFOD NESAF:
Penderfynwyd: Y byddai cyfarfod nesaf Lys y Llywodraethwyr yn cael ei gynnal
ar ddydd Iau Mai 22ain 2003 mewn lleoliad (i’w benderfynu) y tu allan i Gaerdydd
gyda chysylltiadau fideo i’w gwneud yn haws i aelodau fod yn bresennol.







