Cyfleusterau - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
WiFi
Mwynhewch gwpaned o goffi a crêpe tra'n syrffio'r we!
- Ewch i'r brif dderbynfa a chwblhau Ffurflen Cyfrif Ymwelydd (bydd angen dogfennau adnabod dilys arnoch chi)
- Byddwch chi'n derbyn enw defnyddiwr a chyfrinair
- Bydd pob cyfri'n ddilys am 30 diwrnod
- Yn unol â'r amodau a’r telerau
Siop
Ewch ag atgof o hanes Cymru adref gyda chi wrth adael drwy ymweld â siop yr Amgueddfa. Mae rhywbeth at ddant pawb yno, o gardiau cyfarch a llyfrau i emwaith Aur Clogau a chatwadau Cymreig, a’r cyfan am brisiau rhesymol. Link to online shop.
Hefyd gwelwch Siop ar-lein Amgueddfa Cymru.
Partïon Plant
Nawr gallwch chi ddathlu pen-blwydd eich plentyn yn yr Amgueddfa. Pecynnau parti yn cynnwys:
- Defnydd o ystafell barti breifat
- Teithiau amgueddfa llawn hwyl
- Taflenni gweithgaredd
- Dewis o weithdai ymarferol
Dewisiadau ychwanegol yn cynnwys bwyd parti blasus a bagiau anrheg gyda phrisiau o £5-10pp. Mae'r partïon yn berffaith ar gyfer oedrannau 5+, mae pob cyfnod yn 2.5 awr o hyd ac mae digon o le i 30 gwestai. Ar gael yn ystod y penwythnos heblaw am wyliau ysgol.
Pobl Anabl
Gweld y Canllaw Mynediad








