Cofnodion cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a gynhaliwyd ar 20 Medi 2007 yng Nghanolfan Gasgliadau Genedlaethol, Nantgarw.
PRESENNOL
Paul E Loveluck, President (Cadeirydd); Susan Davies, Is-lywydd; G Wyn Howells, Trysorydd; Peter Morgan, Trysorydd Cysgodol; Iolo ap Gwynn; Brian Willott ; Colin Jones; Gareth Williams; Elisabeth Elias; John Last; Dafydd Bowen Lewis; Mike Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol; Eurwyn Wiliam, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol; Mark Richards, Cyfarwyddwr Datblygu Strategol; John Williams-Davies, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Amgueddfa; Mike Tooby, Cyfarwyddwr Dysgu a Rhaglenni; Jon Sheppard, Cyfarwyddwr Cyllid a TG; Robin Gwyn, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Tony Lloyd, Pennaeth Gweinyddiaeth.
YMDDIHEURIADAU:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhiannon Wyn Hughes a Huw Williams.
477 - CYDYMDEIMLO:
Ar ran yr Ymddiriedolwyr a staff Amgueddfa Cymru - National Museum Wales, nododd y Llywydd y newydd trist am farwolaeth ddiweddar Jane Peirson Jones a chafwyd munud o dawelwch fel arwydd o barch. Roedd cyfraniad Jane at Fwrdd yr Ymddiriedolwyr bob tro’n graff, eglur ac yn adeiladol ac roedd ei safbwyntiau yn cael eu parchu’n fawr gan y staff a’i chyd-ymddiriedolwyr. Roedd hi’n gydweithiwr hyfryd, bydd colled mawr ar ei hôl a bydd yn cael ei chofio gydag anwyldeb.
488 - LLYWODRAETHU:
Trefniadau Nawdd y Cynulliad - Roedd trefniadau llywodraethu wedi cael eu hegluro bellach ac roedd swyddogion yn CyMAL wedi derbyn cyfrifoldebau am yr Amgueddfa. Byddai’r Cyfarwyddwr Cyffredinol yn cyfarfod gyda swyddogion o CyMAL cyn bo hir i drafod materion polisi a bydd sesiwn friffio i holl dîm CyMAL ddechrau mis Hydref. John Howells yw uwch was sifil y Cynulliad sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am Ddiwylliant a rhagwelir y bydd y Cyfarwyddwr Cyffredinol yn cyfarfod ag ef yn rheolaidd. Roeddent yn disgwyl am gyngor am y posibilrwydd o wrthdaro buddiannau oherwydd bod y Cyfarwyddwr Cyffredinol yn aelod o Fwrdd Cynghori CyMAL.
Penodiadau - Derbyniwyd 16 o geisiadau a chafodd 10 eu dewis i gael gyfweliad. Roedd hyn yn adlewyrchu safon y ceisiadau ac roedd y Llywydd yn hyderus y byddai Ymddiriedolwyr newydd yn cael eu penodi a fyddai’n ategu’r Bwrdd presennol. Y Llywydd oedd Cadeirydd y panel penodi, ac yn ôl ei ddymuniad, ychwanegwyd Roger Thomas, cyn Is-lywydd yr Amgueddfa, i’r panel. Yr aelodau eraill oedd Linda Tomos a Manjula Bray fel yr aelod annibynnol. Byddai’r cyfweliadau terfynol yn cael eu cynnal maes o law ac roedd yn debygol y byddai penderfyniad yn cael ei wneud erbyn diwedd mis Hydref ond y gobaith oedd cael penderfyniad am yr Is-lywydd nesaf cyn hynny. Diolchodd y Llywydd i Linda Tomos am ei gwaith ar y panel a’i chymorth gwerthfawr yn gyffredinol yn y broses.
489 – ADRODDIAD BLYNYDDOL A CHYFRIFON:
Derbyniwyd: Yr Adroddiad Ariannol a’r Cyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2007.
Adroddwyd: Bod y Trysorydd wedi crybwyll y ffigyrau allweddol yn y cyfrifon ac wedi dod â barn ddiamod Archwilydd Cyffredinol Cymru i sylw’r Bwrdd sef bod y datganiadau ariannol yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa’r Amgueddfa. Cymeradwyodd y Trysorydd yr adroddiad i’r Ymddiriedolwyr. Mae’r Adroddiad Blynyddol llawn o lwyddiannau a gweithgareddau’r Amgueddfa yn ystod 2005/2006 yn cael ei baratoi ar hyn o bryd a'r gobaith oedd ei lansio yn y Senedd ar 24 Hydref 2007. Penderfynwyd: Bod y Bwrdd yn derbyn y Cyfrifon Blynyddol a’r adroddiad. Diolchodd y Trysorydd i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol a’i holl staff am eu stiwardiaeth ac i’r Cyfarwyddwr Cyllid a’i dîm yn arbennig am eu gwaith a chymorth yn ystod y flwyddyn. Diolchodd y Llywydd i’r Trysorydd.
Ymunodd Brian Willott â’r cyfarfod ar yr adeg hon
490 – PRYNU CELF:
Adroddwyd: Yn ei gyfarfod ar 14 Medi 2007, teimlai’r Panel Gelf y byddai’n well cael casgliad o waith ceramig gan Picasso a bod tri darn o waith ceramig Picasso ar fin dod ar gael i’w prynu. Argymhellodd y Panel hefyd i brynu llun dyfrlliw gan Kandinsky.
Penderfynwyd: Y dylid prynu’r darnau hyn yn amodol ar bris boddhaol a chydsyniad Ymddiriedolaeth Derek Williams.
Agorwyd y cyfarfod i’r cyhoedd ar yr adeg hon ond nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol
Ymunodd Linda Tomos ac Ann John â’r cyfarfod ar yr adeg hon
Croesawodd y Llywydd y ddwy ohonynt i’r cyfarfod a diolchodd i Ann am ei gwaith gyda’r Amgueddfa a dymunodd y gorau iddi ar gyfer y dyfodol. Roedd Linda yn gynhyrfus ynglŷn â’r cyfleoedd yr oedd gweithio gyda’r Amgueddfa yn eu cyflwyno ac yn edrych ymlaen at yr heriau oedd o’i blaen.
491 - COFNODION:
Penderfynwyd: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2007.
492 – MATERION YN CODI:
Rhagor (Amgueddfa Rithiwr) – nodwyd bod Rhagor wedi derbyn 30,000 o ymwelwyr yn ei bythefnos cyntaf o fynd ar-lein. Dywedodd Iolo ap Gwynn ei fod yn teimlo bod y wefan newydd yn gweithio’n dda ac yn gobeithio y byddai’n parhau i dyfu ac y byddai’n cael ei ystyried fel safle amgueddfa ynddo’i hun yn y dyfodol.
Gwrthodwyd y cais am fenthyg darlun gan Rembrandt ond roedd y cais yn cael ei ddilyn.
Llywodraethu - Roedd trefniadau llywodraethu wedi’u hegluro bellach ac roedd y Llywydd a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol yn cyfarfod â’r Gweinidog newydd y prynhawn yma. Bydd yna sesiwn friffio ar gyfer tîm CyMAL ddechrau mis Hydref. iv) Briffio’r Cynulliad – Bydd adroddiad blynyddol yr Amgueddfa yn cael ei lansio yn y Senedd ym mis Hydref i friffio Aelodau’r Cynulliad.
Oriel Sutherland - Roedd y gwaith adeiladu yn mynd rhagddo’n dda a byddai’r cytundeb lefel gwasanaeth yn cael ei lofnodi’n fuan. Roedd y Datganiad o Ddiben wedi cael ei gytuno yn ogystal â thema’r rhaglen flynyddol gyntaf. Bwriedir agor yr adeilad newydd ganol haf 2008. Dywedodd aelodau bod hwn yn gyfle i gryfhau cylch gwaith Cymru gyfan yr Amgueddfa a dylid manteisio ar gyfleoedd Cysylltiadau Cyhoeddus. Pwysleisiwyd y dylai pobl leol gael y cyfle i gael ymdeimlad o berchenogaeth ac y dylid ystyried cynnwys y Llyfrgell Genedlaethol yn y cynlluniau hyn.
Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Zimbabwe - Roedd Ceidwad Pwll Mawr wedi dychwelyd o’i ymweliad llwyddiannus â Zimbabwe. Roedd y trefnwyr yn ddiolchgar iawn am ei gyfraniad ac roedd y cynllun deongliadol wedi’i newid yn sylweddol o ganlyniad i’w gyngor. Yr Amgueddfa Lofaol Genedlaethol yw’r amgueddfa genedlaethol newydd gyntaf yn Zimbabwe ers i’r wlad gael annibyniaeth ac felly mae wedi cael sylw mawr yn y wlad. Y gobaith oedd bod dau o’u curaduron nhw yn ymweld â Phwll Mawr yn y dyfodol agos a byddai ymweliadau pellach yn cael eu trefnu.
493 – TAITH CASGLIAD Y CHWIORYDD DAVIES:
Derbyniwyd: Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Dysgu a Rhaglenni.
Adroddwyd: Yn amodol ar gymeradwyo’r contract terfynol, mae Amgueddfa Cymru yn bwriadu mynd ag arddangosfa o tua chwedeg darn o Gasgliad Davies i bum lleoliad yn yr Unol Daleithiau yn ystod 2009 a 2010. Yn wahanol i fenthyciadau a theithiau eraill gan yr Amgueddfa, bydd yr arddangosfa hon yn cael ei threfnu drwy asiantaeth deithio ddielw, yr American Federation of Arts (AFA), a fydd yn darparu arbenigedd a chymorth yn ogystal â diogelwch.
Enw’r arddangosfa fydd ‘From Turner to Cézanne: Masterpieces from the Davies Collection’ a bydd yn cael ei ategu gan gatalog sylweddol, wedi’i ysgrifennu gan staff yr Amgueddfa a thraethodau gan ddau awdur gwadd o UDA. Dyma’r lleoliadau a dyddiadau sydd wedi’u trefnu:
5 Mawrth – 7 Mehefin 2009: Columbia Museum of Art, Columbia, De Carolina
25 Mehefin – 17 Medi 2009: Oklahoma City Museum of Art, Oklahoma
1 Hydref – 27 Rhagfyr 2009: Everson Museum of Art, Syracuse, Efrog Newydd
23 Ionawr – 25 Ebrill 2010: Corcoran Gallery of Art, Washington DC
9 Mai – 1 Awst 2010: Albuquerque Museum of Art, New Mexico
Yn dilyn cwestiwn gan y Bwrdd, cadarnhawyd y byddai’r amgylchedd a chyfleusterau diogelwch yn cael eu gwirio gan Gynghorydd Diogelwch Gwladol y DU. Byddai’r darnau yn cael eu hyswirio drwy gyfuniad o yswiriant Indemniad Llywodraeth UDA ac yswiriant masnachol yn unôl â phrisiadau Christie’s a bydd aelod o staff yn teithio gyda’r darnau ac yn goruchwylio’r gwaith gosod ym mhob lleoliad. Roedd y detholiad yn darparu arddangosfa gref yn yr UDA, ond yn sicrhau bod nifer digonol o ddarnau Argraffiadwyr ar gael i’w dangos yng Nghaerdydd i fodloni disgwyliadau ymwelwyr. Penderfynwyd: Yn unol â hynny.
494 – CRYNODEB GWEITHREDOL:
Derbyniwyd a Nodwyd: Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol.
Adroddwyd: Bod y Cyfarwyddwr Cyffredinol wedi pwysleisio rhai o brif bwyntiau ei adroddiad trylwyr i’r Bwrdd.
Roedd y Cyfrifon Rheoli ar gyfer pedwar mis cyntaf y flwyddyn ariannol wedi’u hamgáu gyda’r adroddiad hwn ac nid oedd yna unrhyw anghysondebau anesboniadwy yn y gyllideb hyd yn hyn. Roedd y Cyfrifon statudol ar gyfer AGGA Cyfyngedig, Mentrau AOCC Cyfyngedig a chyfrifon cyfunol yr Amgueddfa wedi’u cwblhau ac wedi cyrraedd eu targedau yn ogystal â derbyn Tystysgrif Archwilio lân. Cynhaliodd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi archwiliad cydymffurfiaeth â chynllun Talu Wrth Ennill ac Yswiriant Gwladol ac nid oedd unrhyw faterion wedi codi o’u hadolygiad o drefniadau’r Amgueddfa. Yn ei gyfarfod diwethaf, derbyniodd y Pwyllgor Archwilio adroddiadau ar Gontractau Cyfalaf, Marchnata a Rheoli Casgliadau, ynghyd ag adroddiad cynnydd ar y Cynllun Archwilio Blynyddol a’r newyddion diweddaraf am argymhellion archwilio heb eu gweithredu.
Yng nghyfarfod diwethaf y Grŵp Rheoli Risg, trafododd y Grŵp fod yr Amgueddfa yn dibynnu mwy ar Incwm Masnachol; effeithiau llifogydd diweddar y DU ar yr Amgueddfa; bod yr Amgueddfa yn dibynnu mwy ar systemau TGCh; peryglon iechyd rhwydweithiau diwifr a’r defnydd o dechnoleg y we.
Roedd y gwaith i orielau’r adain ddwyreiniol yn agos i’w orffen ac roedd gwaith cynllunio wedi parhau ar gyfer ail-agor orielau Celf yr Adain Ddwyreiniol yn raddol gydag orielau 1-3 yn agor ar 22 Tachwedd 2007 a’r orielau eraill i’w cwblhau erbyn 1 Mehefin 2008. Roedd gwaith y prosiect Gwreiddiau yn parhau i fod ar amser, gyda’r dyddiad agor wedi’i gadarnhau fel 7 Rhagfyr 2007. Agorodd yr arddangosfa, Diwydiant, Diwylliant, yn yr orielau Canol ar 14 Gorffennaf a derbyniodd 12,791 o ymwelwyr o fewn y ddau ddeg chwech diwrnod cyntaf iddi agor, sef 34% o holl ymwelwyr cyffredinol yr Amgueddfa.
Derbyniwyd caniatâd cynllunio ar gyfer ailadeiladu Tŷ Masnachwr Hwlffordd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Roedd cynnydd wedi parhau gyda’r cynlluniau ar gyfer gweithgaredd ymgysylltu â’r cyhoedd, yn seiliedig ar ddatblygiad ‘Rhagor’, y Polisi Cydraddoldeb Rhywiol, a grwpiau ffocws ar gyfer yr Adran Ddysgu. Mae’r gweithgareddau hyn ac eraill, tebyg i gynlluniau i ddatblygu ‘Earthscape’ yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a gwaith gwerthuso yn Oriel 1, wedi cael eu cefnogi gan y Fforwm Ymgynghori ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd a’i aelodau.
O ganlyniad i gysylltiadau â’r Rhwydwaith Amgylchedd Pobl Dduon, ymddangosodd Amgueddfa Lechi Cymru a’i Swyddog Addysg mewn llyfryn ar alwedigaethau yn y sector Treftadaeth oedd wedi’i gynhyrchu gan y Rhwydwaith ar gyfer aelodau cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.
Cyfanswm yr ymwelwyr (Ebrill-Awst) oedd 921,815 (yn erbyn targed o 849,500); 72,315 (8.51%) yn uwch na’r targed a 77,185 (9.01%) yn fwy na llynedd.
Roedd y ‘Grŵp Adolygu Gwerthuso’, a sefydlwyd ar gyfer datblygu a chynllunio fframwaith gwerthuso a chynllun gweithredu er mwyn mesur, dathlu ac ystyried perfformiad yr Amgueddfa, wedi cyfarfod ddwywaith.
Roedd cyfarfodydd gyda swyddogion llawn amser yr undeb ynglŷn â thâl yn parhau ac roedd y Pennaeth Adnoddau Dynol newydd, Kaye Blanch wedi dechrau ei swydd ar 20 Awst. Mae adborth o’r arfarniadau ‘360 gradd’ ar gyfer uwch aelodau o staff wedi cael ei gwblhau ac eithrio’r Gyfarwyddiaeth. Byddai hyn yn cael ei wneud gan y Pennaeth Adnoddau Dynol newydd.
Roedd Polisi Caffael Cynaliadwy a Chynllun Gweithredu wedi’u cynhyrchu.
Cyfarfu Grŵp Gweithredol y Staff a’r Grŵp Gweithredol Casgliadau a Gwybodaeth am y tro cyntaf ym mis Medi. Mae’r cyfarfodydd Grŵp Gweithredol cychwynnol hyn wedi bod yn gadarnhaol a chynhyrchiol iawn, gyda thaflenni canlyniadau allweddol ar gael i staff ar y we yn fuan ar ôl bob cyfarfod.
Mae dau aelod newydd o staff wedi ymuno â’r Adran Ddatblygu. Byddant yn datblygu rhaglenni i godi arian o’r sector corfforaethol a chan unigolion. Parhaodd y gwaith ar y strategaeth Codi Arian.
Yn dilyn ymarfer tendro llwyddiannus, dechreuodd weithredwr newydd fasnachu yn Siop Gwalia yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ddechrau mis Gorffennaf. Mae Llyfr y Canmlwyddiant wedi cael ei gwblhau’n llwyddiannus gyda’r llyfrau ar werth yn siopau’r Amgueddfa ac mewn siopau ledled Cymru, drwy Gyngor Llyfrau Cymru.
Roedd hi’n debygol y byddai fformat yr adroddiad hwn yn cael ei newid cyn cyfarfod nesaf y Bwrdd a byddai’n cynnwys adran oedd yn edrych i’r dyfodol. Penderfynwyd: Yn unol â hynny a diolchodd yr Ymddiriedolwyr i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol am ei adroddiad cynhwysfawr. Byddai Aelodau’r Gyfarwyddiaeth nawr yn defnyddio’r Grynodeb Gweithredol i friffio ei holl staff ym mhob safle.
495 – STRATEGAETH FASNACHU:
Derbyniwyd: Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Cyfathrebu.
Adroddwyd: Bod yr adroddiad yn crynhoi dull marchnata’r Amgueddfa dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn amlinellu’r broses ar gyfer cynhyrchu strategaeth flynyddol, swyddogaethau’r strategaeth, ei chynulleidfaoedd targed amrywiol, a heriau a chyfleoedd allweddol i gynorthwyo’r gwaith o gynllunio ar gyfer gwaith marchnata’r flwyddyn nesaf. Roedd y strategaeth bellach yn cwmpasu marchnata cangen fasnachol yr Amgueddfa, Mentrau, yn ogystal â marchnata ysgolion ac roedd rhaid i’r gyllideb ddarparu ar gyfer y meysydd hyn yn effeithiol. Teimlai’r Bwrdd bod angen adolygu adnoddau staff yn erbyn costau asiantaeth yn gyson ac i sicrhau y gellir mesur llwyddiant a phrofi effeithiolrwydd marchnata. Cafwyd sawl awgrym ynglŷn â sut i gynorthwyo’r gwaith marchnata, yn cynnwys defnyddio darllediadau teledu.
Penderfynwyd: Cytuno i’r strategaeth yn dilyn sylwadau’r cyfarfod. Dylai esblygu a dylai’r adroddiad nesaf gynnwys blaenoriaethau yn erbyn y gyllideb a pha ddulliau gwerthuso oedd ar gael a sut roeddent yn cael eu defnyddio. Dylai Strategaeth Twristiaeth Ddiwylliannol y Cynulliad gael ei defnyddio fel fframwaith a dylai’r adroddiad ddangos sut y datryswyd rhai o’r gwendidau a nodwyd.
496 – CYNHADLEDD Y CANMLWYDDIANT
Derbyniwyd: Adroddiad gan y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol
Adroddwyd: Mai’r thema gyffredinol ar gyfer y flwyddyn oedd ‘Hunaniaeth’ ac agorwyd arddangosfa led-barhaol ar y thema ‘Perthyn’ gydag arddangosfa arall o’r enw ‘Gwreiddiau’ yn cael ei hagor ym mis Rhagfyr. Yn sgil gwaith adeiladu a chyfyngiadau eraill, roedd y Ddarlith Ganmlwyddiant wedi cael ei symud yn ôl a byddai nawr yn cael ei chynnal ar 6-7 Rhagfyr 2007, ac yn cyd-fynd ag agoriad yr arddangosfa ‘Gwreiddiau’. Y thema fyddai ‘Amgueddfeydd Cenedlaethol a Gwledydd Bach’. Nod y gynhadledd oedd archwilio cyfraniad amgueddfeydd at greu a chynnal hunaniaeth genedlaethol, a’u rhan wrth ddatblygu ymwybyddiaeth genedlaethol a dinasyddiaeth, yn enwedig mewn gwledydd bach fel Cymru. Roedd cynllun marchnata yn cael ei baratoi a byddai’r gwaith marchnata yn cael ei wneud ar y cyd ag amgueddfeydd, cynadleddau ac asiantaethau eraill, gan ddefnyddio taflenni ac e-farchnata. Penderfynwyd: Yn unol â hynny
497 – CASGLIADAU A GWEITHGAREDDAU YMCHWIL:
Derbyniwyd a Nodwyd: Yr adroddiad ar Gasgliadau a Gweithgareddau Ymchwil rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2007 gan y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol.
498 - BENTHYCIADAU TRAMOR:
Penderfynwyd: Caniatáu’r benthyciadau tramor fel y’u cyflwynwyd, yn unol ag argymhellion y Panel Gelf.
499 – ARDDANGOS CELF:
Adroddwyd: Er mwyn gwella’r gwerthusiad o opsiynau ar gyfer arddangos celf yng Nghymru yn y dyfodol, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu grŵp llywio i oruchwylio’r broses o benodi ymgynghorwyr. Roedd y grŵp yn cynnwys aelodau o uwch dimau rheoli Cyngor Celfyddydau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru yn ogystal ag uwch swyddogion yn yr Is-adran Ddiwylliant, gydag un ohonynt yn cadeirio’r grŵp llywio. Yn dilyn ymarfer tendro, derbyniwyd 3 tendr dilys ac yn amodol ar werthusiad, bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ddechrau mis Hydref.
Penderfynwyd: Yn unol â hynny
500 – CYNLLUN YMGYNGHORI A CHYNLLUN GWEITHREDU PERCHNOGAETH:
Derbyniwyd: Cynllun Ymgynghori a Chynllun Gweithredu Perchnogaeth drafft gan y Pennaeth Polisi a Chynllunio. Adroddwyd: Bod y Cynllun Ymgynghori a Chynllun Gweithredu Perchnogaeth ar gyfer 2007/08 yn pennu’r gwerthoedd, egwyddorion a’r technegau cyfranogi allweddol a fyddai’n galluogi Amgueddfa Cymru i ‘roi’r flaenoriaeth i ddinasyddion’. Ystyriwyd fersiwn drafft cyntaf o’r cynllun gan y Bwrdd ym mis Mehefin ac roedd y diwygiadau a ofynnwyd amdanynt wedi cael eu hymgorffori. Yn absenoldeb Huw Williams, mynegodd yr Is-lywydd ei bryder nad oedd hyn yn adlewyrchu gofynion y Siarter yn llawn. Cytunwyd y byddid yn tynnu casgliadau o’r adroddiad a fyddai’n ffurfio penderfyniad y Bwrdd a gellir mabwysiadu’r penderfyniad yn unol â’r Siarter. Penderfynwyd: Yn unol â hynny ac yn y cyfamser gall y Cynllun a’i gynllun gweithredu perchenogaeth fynd ymlaen.
501 – STRATEGAETH BRIF-FFRYDIO’R IAITH GYMRAEG:
Derbyniwyd a Chymeradwywyd: Strategaeth Brif-ffyrdio’r Iaith Gymraeg 2007 - 2008.
502 – MATERION PWYLLGOR:
Derbyniwyd a Nodwyd;
- Cofnodion drafft cyfarfod YmddiriedolwyrCynllun Pensiwn Amgueddfa Genedlaethol Cymru a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2007.
- Cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Perfformiad a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2007 a
- Chofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2007 ynghyd ag Adroddiad y Cadeirydd.
503 – EITEMAU AR GYFER CYFARFODYDD Y DYFODOL:
Derbyniwyd a Nodwyd: Yr Eitemau ar gyfer Cyfarfodydd y Dyfodol a fyddai’n cael eu diweddaru i gynnwys adroddiadau y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod heddiw.
504 – UNRHYW FATER ARALL:
Roedd yna dri digwyddiad yn ddiweddar lle cafodd bagiau siopwyr eu dwyn o’r bwyty yn AGC. Mae’r heddlu wedi cael eu hysbysu.
Yn dilyn symudiadau diweddar yn y farchnad stoc, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cyllid na effeithwyd yn ormodol ar arian yr Amgueddfa oedd wedi’i fuddsoddi.
Hwn oedd cyfarfod olaf y Bwrdd cyn i’r Is-lywydd, y Trysorydd, y Llywydd Diwethaf a Dafydd Bowen Lewis ymddeol, a diolchodd y Llywydd yn fawr iddynt am eu cyfraniad ar waith yr Amgueddfa.
Penodiadau – penderfynwyd bod Wyn Howells yn cael ei benodi i’r Bwrdd Datblygu a bod Peter Morgan yn cael ei benodi’n ffurfiol fel y Trysorydd o 1 Tachwedd 2007.
Yn dilyn y cyfarfod, cymeradwyodd y Bwrdd drosglwyddiad 50 o gyfranddaliadau yng nghwmni Mentrau gan enwebai’r Amgueddfa, Dafydd Bowen Lewis i Gareth Williams pan mae’n cymryd yr awenau fel Cadeirydd y cwmni ar 1 Tachwedd 2007. Yn ogystal, cymeradwyodd y Bwrdd mai Cadeirydd y Cwmni a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol fydd yn dal y cyfranddaliadau yn y dyfodol.
505 – DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF:
Penderfynwyd: Bod cyfarfod nesaf Bwrdd yr Ymddiriedolwyr i’w gynnal ar 13 Rhagfyr 2007 yn Ystafell y Llys, AGC.







