Cynllunio'ch Ymweliad Addysg yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Cynllunio'ch Ymweliad

Gobeithio y byddwch chi'n mwynhau eich amser yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru. Bydd y wybodaeth yn y llyfryn hwn yn eich helpu chi i drefnu ymweliad grwp.

Dod o Hyd i Ni

M4 – dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown o Gyffordd 25a (tua'r gorllewin) neu Gyffordd 26 (tua'r dwyrain). Mae arwyddion hefyd o'r A465 ym Mryn-mawr a'r Fenni.

Lleoliad ar Multimap.co.uk

Lleoliad ar Streetmap.co.uk

Bwcio

Rhaid bwcio ymweliadau grwp ymlaen llaw. Dylid nodi bod y swyddfa gyffredinol ar gau ar benwythnosau.

Oriau Agor

Mae Pwll Mawr ar agor bob dydd rhwng 9.30am a 5.00pm o ganol Chwefror i 30 Tachwedd. Cynhelir teithiau danddaear rhwng 10.00am - 3.30pm.

Gellir defnyddio'r wybodaeth yn y llyfryn hwn i gyflawni'r gwaith asesu risg angenrheidiol cyn eich ymweliad.

Gwybodaeth Gyffredinol

Wrth Gyrraedd

Cynllunio'ch Ymweliad

Gall bysiau adael a chasglu grwpiau y tu allan i'r prif fynedfa. Mae maes parcio i fysiau wrth ymyl y man gadael teithwyr. Ewch i'r dderbynfa wrth gyrraedd a rhowch wybod i staff y dderbynfa faint yn union o bobl sydd yn eich grwp.

Caiff pob aelod o'r grwp docyn i gofio'u taith i lawr i'r pwll glo.

Ar gyfer y daith danddaear, caiff pob parti ei rannu'n grwpiau llai o ryw 17. Y tywysydd fydd yn casglu'r grwpiau o'r ystafell aros fydd yn trefnu hyn. Peidiwch â rhannu'ch grwp ymlaen llaw os gwelwch yn dda. Bydd y tywysydd yn casglu bonion y tocynnau cyn mynd â'r grwp i Ben y Pwll i gasglu eu hoffer.

Mynediad i Bobl Anabl

Mae'r rhan fwyaf o'r safle'n hygyrch i bawb, ond mae'r ffaith fod Pwll Mawr ar lechwedd yn gallu peri anhawster i bobl â phroblemau symudedd difrifol, ar ben y pwll ac o dan y ddaear. Felly rhaid i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a phobl â phroblemau symudedd eraill fod yng nghwmni cynorthwy-ydd nad yw'n anabl.

Dim ond 4 ymwelydd mewn cadair olwyn a ganiateir danddaear ar y tro. Mae canllaw mynediad ar gael yma.

Tai Bach

Mae tai bach ar bob un o'r tair lefel ar y safle. Marciwyd y cyfleusterau hyn ar y map. Dylid nodi nad oes tai bach danddaear, felly rydym ni'n argymell defnyddio'r cyfleusterau yn yr ystafell aros cyn mynd i Ben y Pwll gyda'r tywysydd.

Mae cyfleusterau newid cewynnau ar gael ar ddwy lefel o'r safle. Lleolir y rhain yn y siop goffi ar y lefel ganol a ger y cantîn yn adeilad y baddonau.

Y Siop Anrhegion

Mae'r siop anrhegion yn gwerthu amrywiaeth eang o eitemau, e.e. llyfrau, cardiau post, crefftau, lampau glowyr a deunyddiau addysgol. Er hwylustod, gofynnir bod y plant yn mynd i'r siop mewn grwpiau bach. Ni chaniateir bwyd na diod yn y siop anrhegion.

Y Siop Goffi a'r Cantîn

Lleolir y siop goffi ar lefel ganol y safle ac mae'n gwerthu byrbrydau a diodydd. Mae'r siop goffi ar agor rhwng y Pasg a diwedd Awst. Gallwch brynu prydau cynnes yng nghantîn gwreiddiol y glowyr sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn.

Dillad ac Esgidiau

Nid oes angen dillad arbennig, ond gan mai safle diwydiannol awyr agored yw Pwll Mawr, rydym ni'n argymell eich bod chi'n gwisgo dillad cynnes ac esgidiau addas.

Ffotograffiaeth

Caniateir ffotograffiaeth at ddefnydd personol ar y rhan fwyaf o'r safle ar ben y pwll, ond mae rhai ardaloedd cyfyngedig. Chwiliwch am yr arwyddion sy'n nodi ble mae'r cyfyngiadau. Ni chaniateir ffotograffiaeth danddaear yn ôl y gyfraith.

Cyfleusterau Arbennig ar gyfer Grwpiau Ysgol

Bwyta

Mae ardal fwyta ar gael, ond y cyntaf i'r felin gaiff falu. Mae lle i hyd at 70 o bobl fwyta eu pecynnau bwyd yno. Mae ardaloedd picnic ar gael y tu allan i adeilad y Baddonau Pen Pwll. Mae bwydlen arbennig yn y caffi sy'n cynnig disgownt i grwpiau ysgol, ond rhaid bwcio cyn eich ymweliad. Mae'r caffi'n derbyn archebion am fwyd tan 4.15pm.

Ymweliadau Paratoi

Rydym ni'n annog athrawon neu arweinwyr grwpiau sydd am ymgyfarwyddo â Phwll Mawr i ddod ar ymweliadau paratoi. Ffoniwch ymlaen llaw os ydych chi am siarad â'r Swyddog Addysg ar y diwrnod.

Mae canllaw ymwelwyr Pwll Mawr yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr Amgueddfa. Cewch brynu copi yn y dderbynfa neu'r siop anrhegion, neu gallwch archebu copi drwy ffonio: (029) 2057 3650.

Storio

Rydym ni'n argymell eich bod chi'n gadael unrhyw fagiau ar y bws tan ar ôl y daith danddaear. Bydd y tywysydd yn cloi unrhyw bethau gwerthfawr mewn cwpwrdd ar Ben y Pwll cyn i chi fynd lawr i'r pwll.

Goruchwyliaeth

Mae Pwll Mawr wedi cadw llawer o elfennau safle gwaith diwydiannol ac mae'n dangos adeiladau ac arteffactau hanesyddol pwysig. Rydym ni'n argymell cyfradd o 1 oedolyn i bob 10 plentyn. Rydym ni'n mynnu bod plant o dan 16 oed yn cael eu goruchwylio drwy'r amser, gan gynnwys amser cinio.

Mae diogelwch ein holl ymwelwyr yn arbennig o bwysig yn ystod y daith danddaear. Os bydd plant yn camymddwyn danddaear, caiff y grwp cyfan ei ddanfon allan o'r pwll ac ni fyddant yn parhau â'r daith.

Mae'r Amgueddfa'n cadw'r hawl i ofyn i unrhyw un sy'n ymddwyn mewn ffordd annymunol neu afresymol ar unrhyw ran o'r safle ymadael â'r safle ar unwaith.

Iechyd a Diogelwch

Rheolau'r Daith Danddaear

Er nad yw Pwll Mawr yn cynhyrchu glo mwyach, mae deddfwriaeth ddiogelwch Deddf y Pyllau Glo yn berthnasol yno o hyd. Mae hi'n anghyfreithlon mynd â deunyddiau smygu neu gynnau tân o dan y ddaear. Mae'r rhain yn cynnwys sigaréts, tybaco, matsys a thanwyr, ffonau symudol, oriorau neu bethau dal allweddi â batris, cyfrifianellau, radios, chwaraewyr casetiau ac unrhyw offer ffotograffig. Caiff yr offer 'contraband' hyn eu casglu gan ein tywyswyr cyn dechrau'r daith danddaear a'u cloi mewn cwpwrdd tan ddiwedd y daith.

Gallwch lawrlwytho ein gwybodaeth iechyd a diogelwch yma.

Mewn Argyfwng

Cynllunio'ch Ymweliad

Danddaear

Mae'n bosibl y bydd angen defnyddio ffordd gwahanol i arwain ymwelwyr allan o'r pwll mewn argyfwng e.e. os yw'r pwer yn methu. Os bydd hynny'n digwydd, dilynwch gyfarwyddiadau'ch tywysydd.

Tân

Bydd larwm yn seinio yn achos tân yn yr adeiladau ar y wyneb. Wrth glywed y larwm, dylai eich grwp fynd allan o'r adeilad neu'r oriel drwy ddilyn yr arwyddion i'r allanfa dân agosaf. Dilynwch gyfarwyddiadau staff yr Amgueddfa.

Plant Coll

Dywedwch wrth y plant i roi gwybod i aelod o staff yr Amgueddfa os cânt eu gwahanu oddi wrth weddill y grwp er mwyn iddynt ddod o hyd i un o arweinwyr y grwp.

Cymorth Cyntaf

Os oes angen Cymorth Cyntaf arnoch chi, gofynnwch i aelod o staff yr Amgueddfa a fydd yn cysylltu â rhywun cymwys i roi Cymorth Cyntaf.

Beth Welwn Ni?

Danddaear

Mae'r teithiau, sy'n cael eu harwain gan gyn-lowyr profiadol, yn para tua 50 munud. Bydd gwisgo helmed a lamp-capan, casglu 'contraband' (sigaréts, matsys, ffonau symudol, offer â batris, ayb), a mynd i lawr drwy'r siafft yn cymryd rhyw 20 munud arall. Mae'r daith yn dechrau drwy ddisgyn 90 m (300 tr) i lawr siafft y pwll yn y cawell.

Y Baddonau Pen Pwll a'r Arddangosfeydd

Mae'r Baddonau Pen Pwll wedi cael eu hadfer er mwyn galluogi ymwelwyr i weld ble byddai pob sifft yn y pwll yn dechrau ac yn gorffen.

Mae arddangosfa yn adeilad y baddonau sy'n adrodd straeon y bobl oedd yn gweithio yn y diwydiant glo. Mae yna arddangosfa mwy 'traddodiadol' am y diwydiant glo hefyd gyda lampau seffti, offer gwaith ac atgofion am gymdeithas a chymuned y pyllau glo.

Yr Orielau Mwyngloddio

Mae cyflwyniad awdio-weledol cyffrous sy'n disgrifio bywyd y ffas lo a dulliau codi glo drwy'r oesoedd. Bydd eich rhith-dywysydd yn mynd â chi drwy bwll glo rhithwir lle daw ffas lo modern yn fyw drwy olau a sain.

Safle Hanesyddol

Cewch weld adeiladau gwreiddiol Pwll Mawr o gwmpas y safle, gan gynnwys Ty'r Ffan, yr Efail, y Stablau a Thy'r Injan. Bydd modd gweld crefftwyr wrth eu gwaith ar ddyddiau arbennig. Ffoniwch i gael rhagor o wybodaeth.

Cynllunio'ch Ymweliad

Y Tu ôl i'r Llenni

Ystafell Adnoddau

Mae ystafell adnoddau ar gael ar gyfer athrawon, arweinwyr grwpiau, myfyrwyr neu arbenigwyr eraill sydd am wneud gwaith ymchwil ar y safle. Mae'r ystafell yn cynnwys cyfeirlyfrau, mapiau, dogfennau gwreiddiol a mynediad ar-lein. Rhaid trefnu ymlaen llaw.

Gweithdai Cadwraeth

Cewch weld y gwaith cadwraeth sy'n cael ei wneud gan gadwraethwyr Amgueddfa Cymru pan fyddan nhw'n gweithio ar y safle. Bydd y cadwraethwyr yn hapus i siarad â grwpiau am eu gwaith wrth edrych ar ôl treftadaeth ddiwydiannol y genedl. Ffoniwch y swyddfa gyffredinol i gael rhagor o fanylion: (029) 2057 3650.

Gwybodaeth

Map

Blaenafon, Torfaen
Ar agor pob dydd 9.30am-5pm. Mynediad olaf 4pm. Teithiau dan ddaear 10am-3.30pm.

Ffôn:
(029) 2057 3650

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.