Cynllunio'ch ymweliad
Cynllunio'ch Ymweliad - Addysg: Amgueddfa Lechi Cymru

Cynlluniwyd y llyfryn yma i gyd-fynd â'ch ymweliad chi i Amgueddfa Lechi Cymru. Am wybodaeth ynglyn â gweithgareddau, gweithdai, a diwrnodau hyfforddiant, cymrwch olwg ar ein gwefan neu ffoniwch i archebu Llyfryn Addysg.
Ein canfod ni:
Lleolir Amgueddfa Lechi Cymru yng nghanol Parc Gwledig Padarn, Llanberis ar yr A4086. O arfordir gogledd Cymru dilynwch yr A55 gan gymryd y tro am Lanberis yn agos i Fangor. Trowch am yr A5 ac yna ar y B4366. Dilynwch arwyddion am Lanberis a Pharc Gwledig Padarn.
Archebu:
Rhaid trefnu pob ymweliad o flaen llaw.
Amserau agor:
10am - 5pm, Ebrill - Hydref
10am - 4pm, Tachwedd - Mawrth
Mae'r holl wybodaeth yn y llyfryn yma yn medru cael ei ddefnyddio i gwblhau unrhyw waith asesiad o berygl cyn ymweliad.
Gwybodaeth Gyffredinol a Chyfleusterau
Wrth Gyrraedd

Wedi i chi gyrraedd yr Amgueddfa, a fyddai arweinwyr grwp gystal â mynd i'r siop i arwyddo'r gofrestr. Os oes gennych grwp ysgol mawr, arhoswch yn y porth. Bydd Cynorthwy-ydd Amgueddfaol (mewn gwisg swyddogol) yn cyfarfod â chi, a bydd yn falch o ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Byddwch yn mynd drwy'r siop ar eich ffordd allan o'r Amgueddfa hefyd, a bydd gennych gyfle i brynu rhywbeth bryd hynny os dymunwch.
Rhaid i arweinydd y grwp roi'r union nifer sy'n ymweld i staff yr Amgueddfa.
Rhaid goruchwylio grwpiau addysgol drwy'r adeg pan ydynt yn ymweld â'r Amgueddfa, yn cynnwys amser cinio.
Trefniadau Bwyta
Dylai pob ysgol sy'n dymuno defnyddio'r ystafell frechdanau archebu lle o flaen llaw wrth drefnu'u hymweliad. Bydd cyfnodau o hanner awr ar gael ar gyfer grwpiau o hyd at 40 ar y tro.
Cyfleusterau Tai Bach
Mae toiledau yn y caffi ym mhen draw'r safle ac hefyd ym Mharc Padarn ger y maes parcio bysiau. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer pobl anabl.
Mewn Argyfwng
Tân
Bydd larwm yn canu pan fo tân, a dylech adael y safle drwy'r allanfa diogel agosaf. Bydd staff yr Amgueddfa yn eich cyfeirio i fan ymgynnull.
Cymorth Cyntaf
Os bydd angen triniaeth Cymorth Cyntaf, a wnewch chi gysylltu ag un o Gynorthwywyr yr Amgueddfa, fydd yn galw am rywun sydd wedi'i hyfforddi mewn cymorth cyntaf.
Plant sydd ar Goll
Dylai plant sy'n cael eu gwahanu oddi wrth eu grwp roi gwybod i un o Gynorthwywyr yr Amgueddfa os ydynt ar goll. Bydd y Cynorthwy-ydd Amgueddfa yn cysylltu â'r grwp ac yn trefnu fod y plant sydd ar goll yn cael ei hebrwng i'r Brif Fynedfa; yma bydd modd iddynt gael eu casglu gan oedolyn o'r grwp.
Unrhyw Argyfwng Arall
Yn achos unrhyw argyfwng arall a wnewch chi gysylltu â Chynorthwy-ydd Amgueddfa. Mae ganddynt radio symudol yn eu meddiant.
Iechyd a Diogelwch

Mae Amgueddfa Lechi Cymru wedi'i lleoli yng ngweithdai gwreiddiol Cwmni Llechi Dinorwig. Mae llawer iawn o'r peiriannau yn dal yn eu lle, a dylid cymryd gofal wrth fynd o gwmpas y safle. Dylai grwpiau gadw at y llwybrau pan fo'n bosibl; mae llechi mân yn gorchuddio rhan o'r iard, a dylid rhybuddio'r plant i beidio â thaflu'r rhain, i beidio rhedeg ac i beidio â chwarae â'r pentyrrau o lechi wedi'u torri, sy'n gallu bod yn finiog iawn.
Gallwch lawrlwytho ein gwybodaeth iechyd a diogelwch yma.
Mynediad yr Anabl
Mae modd mynd â chadeiriau olwyn i bob rhan o'r safle ac eithrio i'r llofft batrwm ac i mewn i dai Fron Haul (er bod modd mynd cyn belled â drysau'r tai). Mae yna lifft at yr olwyn ddwr a gellir cyrraedd y llwybr at yr Incléin mewn cadair olwyn. Mae yna lefydd parcio pwrpasol yn y maes parcio, ac mae cadair olwyn ar gael i fenthyg yn y siop. Mae dolen glywed ar y ffilm 'Dwyn y Mynydd'.
Ar y Safle
Mae rhan o'r safle yn yr awyr agored, a dylai ymwelwyr wisgo dillad ac esgidiau addas. I fynd i weld yr olwyn ddwr byddwch yn dringo grisiau (tua 40 gris) y tu allan i'r adeilad. Mae lifft ar gael hefyd sy'n addas ar gyfer pedwar o bobl. I fynd i weld y llofft batrwm byddwch yn dringo grisiau. Mae'r llwybr yn gul trwy'r efail, efallai bydd angen cymorth arnoch chi. Mae gennym ni ardal chwarae gyda matiau rwber yn gorchuddio'r llawr, sy'n cynnwys cyfres o si-sos a siglen awyr sy'n arddangos rhai o'r egwyddorion a ddefnyddir wrth gloddio am lechi a'i gludo wedyn. Mae'r lle chwarae yn addas i blant dan 12 oed, ond rhaid iddynt gael eu goruchwylio gan oedolyn.
Fron Haul
Tai chwarelwyr wedi'u hailgodi yw Fron Haul. Mae nenfwd y tai yn isel iawn, a'r grisiau yn gul. Mae'n bosibl y bydd mynediad cyfyngedig iddynt ar adegau prysur.
Yr Incléin
Caiff yr incléin ei rhedeg os yw'r tywydd a staff yn caniatâu.
Er mwyn gwneud y mwyaf o'ch ymweliad, a wnewch chi sicrhau eich bod yn cyrraedd ar yr amser penodedig. Gall unrhyw oedi effeithio'n andwyol ar ymweliad grwpiau eraill.
Mae'r Amgueddfa yn cadw'r hawl i ofyn i grwpiau neu unigolion sy'n ymddwyn mewn modd annymunol neu afresymol i adael.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ymweliadau Rhagweledol
Mae ymweliadau rhagweledol ar gael i athrawon neu arweinwyr grwpiau sydd am ymgyfarwyddo â'r safle cyn ymweliad eu grwp. A wnewch chi ffonio i drefnu o flaen llaw os hoffech siarad gyda Swyddog Addysg ar ddiwrnod eich ymweliad rhagweledol.
Adnoddau
Mae Llawlyfr Amgueddfa Lechi Cymru (£4) yn cynnwys manylion am yr orielau a'r adeiladau. Mae Pecyn Addysg ar gael hefyd. Gallwn ddarparu sesiynau grwp fideo-cynadledda, sy'n cynnig agwedd ysgogol i waith paratoadol a dilynol.








