Staff a Gwaith Cyfredol
Projectau ymchwil ddiweddaraf: Adran Bioamrywiaeth a Bioleg Systematig
Mike Wilson: Pennaeth Pryfeteg
Arbenigedd
Systemateg a bywydeg Auchenorrhyncha (sboncynnod y dail a sboncynnod planhigion), yn arbennig yn y rhanbarth Palearctig. Mae ganddo ddiddordeb hefyd yn y rhywogaethau hynny sy'n gysylltiedig â chnydau, yn arbennig reis, ac mewn rhywogaethau cludo.
Gwaith Cyfredol
- Paratoi llawlyfr diwygiedig ar Fulgoroidea Prydeinig (ar y cyd ag Alan Stewart, Prifysgol Sussex) ac astudiaethau milodyddol ar Auchenorrhyncha Prydeinig.
- Astudiaethau tacsonomaidd ar y teulu Meenoplidae (Fulgoroidea).
- Astudiaethau ar fywydeg Prokelisia (Delphacidae) ym Mhortiwgal.
Ffôn: +44 (0)29 2057-3263
Ebost Mike Wilson
John Deeming: Curadur (Pryfeteg)
Arbenigedd
Systemateg a bywydeg y pryfed uwch (Cyclorrhapha) gan gyfeirio'n benodol at y rheiny sydd o bwysigrwydd economaidd, gan gynnwys tacsonomeg y cyfnodau anaeddfed.
Gwaith Cyfredol
Paratoi papurau ar dacsonomeg sawl genera o bryfed sy'n niweidiol i rawn a gwair: teuluoedd Chloropidae (pryfed y gwair), Muscidae (y teulu sy'n cynnwys pryfed cyffredin), Ephydridae (pryfed y llynnoedd) ac Agromyzidae (lindys y dail). Dyfarnwyd gradd Doethur iddo'n ddiweddar gan Brifysgol Caerdydd
Ffôn: +44 (0)29 2057-3259
Brian Levey: Curadur (Pryfeteg)
Arbenigedd
Systemateg a bywydeg Coleoptera (chwilod) gyda diddordeb arbennig yn y rhywogaethau hynny sy'n gysylltiedig â meicrogynefinoedd coed marw. Systemateg Buprestidae (Chwilod Gemaidd) y byd.
Gwaith Cyfredol
- Astudio bioamrywiaeth trychfilod sy'n gysylltiedig â'r coed hynafol yn nau o barcdiroedd Cymru, ar y cyd â Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
- Astudiaeth systemataidd o rywogaethau Prydeinig o Coleoptera, Scraptiidae a Mordellidae.
- Adolygiadau systemataidd ar nifer o grwpiau o Buprestidae (Coleptera).
Ffôn: +44 (0)29 2057-3211
E-bost Brian Levey
Mark Pavett: Cynorthwy-ydd Curadurol (Pryfeteg)
Arbenigedd
Hymenoptera Prydeinig: Aculeata a Coleoptera.
Gwaith Cyfredol
- Astudio bioamrywiaeth trychfilod sy'n gysylltiedig â choed hynafol yn nau o barcdiroedd Cymru (gyda Brian Levey).
- Dosbarthiad Hymenoptera Aculetaidd yng Nghymru.
Ffôn: +44 (0)29 2057-3122