Cynllunio'ch Ymweliad - Addysg yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Bwriad y gwybodaeth hwn yw'ch helpu i drefnu'ch ymweliad a Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Mae'n bwysig bod partïon ysgol yn darllen y dyfyniadau amgaëedig o'n Polisi Amddiffyn Plant ar y cyd â'r llyfryn hwn pan fyddant yn cynllunio ymweliad. Mae'n bosib na fydd y llyfryn hwn yn cynnwys yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen. Os bydd gennych ryw gwestiwn, gallwch e-bostio neges i'r Adran Addysg neu'r Adran Farchnata.
Sut i Gyrraedd Yma
Gadewch yr M4 yng Nghyffordd 33 a dilyn yr arwyddion i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Mae mynediad i'r Amgueddfa am ddim; codir tâl am barcio ceir.
Trefnu Ymweliad
Mae'n rhaid trefnu ymweliadau grŵp ymlaen llaw. Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn cael tua 90,000 o ymwelwyr ysgol bob blwyddyn, a channoedd o grwpiau o oedolion. Rhag i chi gael eich siomi, rydym yn argymell eich bod yn trefnu'ch ymweliad o leiaf bythefnos ymlaen llaw, gan mai nifer gyfyngedig o grwpiau y gallwn eu cymryd mewn diwrnod. Mae hyn yn wir hefyd am ddigwyddiadau arbennig a gynhelir yn yr Amgueddfa ar benwythnosau neu gyda'r nos.
Oriau Agor
Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ar agor saith diwrnod yr wythnos ac ar y rhan fwyaf o wyliau cyhoeddus, rhwng 10 am a 5 pm. Mae'r adrannau swyddfa (fel Addysg, Marchnata a'r Archifau) ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc. Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Addysg i drefnu ymweliad rhwng 8.30 am a 4.30 pm. Mae'r Swyddfa Farchnata ar agor rhwng 9 am a 5 pm.
Hyd eich Ymweliad
Gan fod adeiladau'r Amgueddfa wedi'u gwasgaru dros tua chan erw, rydym yn argymell y dylech ganiatáu o leiaf ddwy awr ar gyfer eich ymweliad.
Asesu Risg
Gellir defnyddio'r holl wybodaeth yn y llyfryn hwn i gynnal asesiad risg. Wrth gynnal asesiad risg, mae'n rhaid i athrawon/arweinyddion grwpiau dalu sylw i'r camau y byddant yn eu cymryd. Mae'r rhain yn cynnwys:
- rhoi digon o wybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant i'r bobl briodol;
- pennu pwy sydd â gofal gyffredinol mewn argyfwng;
- penderfynu faint o ddisgyblion y mae pob oedolyn yn gofalu amdanynt, er mwyn sicrhau bod pob grŵp yn cael ei oruchwylio'n iawn.
Mae'n bwysig bod y wybodaeth yn y llyfryn hwn yn cael ei defnyddio yn sail ar gyfer hyfforddi oedolion eraill a fydd yn goruchwylio disgyblion.
Gallwch lawrlwytho ein gwybodaeth iechyd a diogelwch yma.

Wrth Gyrraedd
Bydd staff yr Amgueddfa wrth y brif fynedfa i'ch croesawu. Byddant yn cadarnhau manylion eich ymweliad ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Dylech fod yn eithriadol o ofalus wrth groesi'r maes parcio, yn enwedig yn yr haf pan fydd yn brysur iawn. Mae'n fwy diogel i aelodau'r grŵp aros ar y bws hyd nes y bydd yr arweinydd wedi cofrestru. Os nad oes modd gwneud hyn, dylai grwpiau aros o dan yr adlen o flaen y brif fynedfa.
Wrth gyrraedd, mae'n rhaid i arweinydd y grŵp ddweud wrth staff yr Amgueddfa faint yn union o bobl sydd yn y grŵp.
Cyfleusterau
Bwyd a Diod
Mae bwyty hunan-wasanaeth yn y prif adeilad ac mae'r bar byrbrydau gerllaw ar agor yn ystod yr haf. Ceir parlwr te traddodiadol uwchben Siop Gwalia (ar agor trwy'r flwyddyn) ac yng Nghastell Sain Ffagan (ar agor yn ystod yr haf yn unig).
Mae cadeiriau uchel a chyllyll a ffyrc bach ar gael. Gellir cynhesu poteli babanod os dymunwch. Mae offer bwyta hawdd-gafael-ynddynt ar gael hefyd.
Ceir meysydd picnic yma a thraw ar y safle. Holwch aelod o staff yr Amgueddfa os byddwch angen lle o dan do i fwyta.
Gall y Bwyty drefnu bwydlenni arbennig ar gyfer grwpiau o ymwelwyr. Ffoniwch y Bwyty i gael rhagor o wybodaeth a manylion am yr hyn y gallant ei gynnig.
Toiledau
Mae'r prif floc toiledau ger y fynedfa flaen. Mae toiledau eraill ger Castell Sain Ffagan ac yn Sefydliad Gweithwyr Oakdale. Mae'r toiledau i gyd wedi'u nodi ar y map. Ceir cyfleusterau newid cewynnau yn y prif floc toiledau.
Mae toiledau sy'n addas ar gyfer pobl ag anableddau corfforol yn y prif floc toiledau ac yn Sefydliad y Gweithwyr.
Mynediad i Bobl Anabl
Gellir mynd i'r rhan fwyaf o'r safle mewn cadair olwyn, ond gall fod yn anodd mynd i rai o'r adeiladau hanesyddol. Mae'r tir yn serth mewn mannau ger y Castell a gall fod yn anodd i rai pobl mewn cadeiriau olwyn a'u helpwyr.
Mae nifer o gadeiriau olwyn ar gael i'w benthyg wrth y prif fynedfa ac, yn ystod yr haf, mae trên tir yn rhedeg o naill ben y safle i'r llall yn rheolaidd.
Os hoffech ragor o fanylion, mae Canllawiau Mynediad yr Amgueddfa ar gael yma.
Siopau'r Amgueddfa
Mae siopau'r Amgueddfa ar y naill ochr a'r llall i'r brif fynedfa. Ceir yno ddewis eang o grefftau, cofroddion, llyfrau, ffilmiau a chardiau post. Os bwriadwch ddod â grŵp mawr i'r siop yn ystod y tymor ysgol, argymhellwn eich bod yn gwneud hynny naill ai yn y bore neu ar ôl 2.30 pm. Fel hyn, gallwch osgoi cyfnod prysur grwpiau ysgol.
Gweithgareddau

Mae'r Amgueddfa'n trefnu llawer o wahanol weithgareddau, arddangosiadau a gweithdai ar gyfer ymwelwyr. Cewch wybodaeth am weithgareddau'r dydd yn y brif fynedfa ac yn ein llyfryn Ymlaen (holwch amdano wrth gyrraedd neu trwy ffonio'r Adran Gwasanaethau Ymwelwyr).
Mae ein dehonglwyr yn rhoi gwybodaeth i ymwelwyr am y gwahanol adeiladau. Gall eich grŵp ddysgu mwy am y Tŷ ar gyfer y Dyfodol, ailgodi eglwys ganoloesol Sant Teilo neu ein dehongliad o Bentref Celtaidd trwy drefnu i gael sgwrs amdanynt. Cysylltwch â'r Adran Addysg i holi am fanylion. Mae'n rhaid i sgyrsiau ar gyfer grwpiau gael eu trefnu ymlaen llaw trwy'r Adran Addysg.
Mae crefftwyr fel y gof, y melinydd a gwehyddion yn dangos eu gwaith i'r cyhoedd. Ond cofiwch nad ydynt ar gael bob dydd o'r wythnos. Os oes gan eich grŵp ddiddordeb mewn crefft benodol, holwch ymlaen llaw a fydd y crefftwr ar gael trwy gysylltu ag Adran Gwasanaethau Ymwelwyr yr Amgueddfa. Bydd rhestr o'r crefftwyr a fydd yn gweithio ar y diwrnod i'w gweld ger y brif fynedfa.
Ceir maes chwarae bach i blant ger y brif fynedfa. Dylid cadw golwg ar blant trwy'r amser. Nid yw'r offer yn addas ar gyfer plant dros 12 oed.
Cyfleusterau Ychwanegol ar gyfer Ysgolion
Storio
Mae ystafell ar gael lle gall grwpiau adael eu pecynnau cinio a'u bagiau yn ystod eu hymweliad. Mae'r ystafell hon yn arbennig o addas i bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau a drefnir ymlaen llaw. Ni ddylid gadael pethau gwerthfawr yn yr ystafell gan nad yw'n cael ei chloi.
Siop yr Amgueddfa
Er mwyn osgoi'r cyfnod prysur pan fydd grwpiau ysgol yn galw yn y siop ar eu ffordd yn ôl at y bws, gall eich grŵp ddod i'r siop unrhyw bryd yn ystod y dydd a gall staff y siop gadw'ch nwyddau hyd nes y byddwch yn barod i adael. Neu, gallwch archebu pecynnau sy'n costio swm penodol ymlaen llaw a threfnu i athro eu casglu ar ddiwrnod yr ymweliad. Os hoffech ragor o fanylion, cysylltwch â'r Siop.
Trefniadau Bwyta
Mae lle bwyta dan do ar gael yn y prif adeilad ymwelwyr. Gellir trefnu cyfnodau o ugain munud yno ar gyfer grwpiau o hyd at drigain o blant ar y tro. Trefnir y cyfnodau hyn wrth i grwpiau gyrraedd yr Amgueddfa.
Ceir meysydd picnic awyr agored yma a thraw ar y safle. Holwch un o'r Gofalwyr lle maent. Mae bwyty ar gael hefyd a gellir darparu bwydlenni arbennig ar gyfer grwpiau ysgol. Ffoniwch y Bwyty i gael rhagor o fanylion.
Diogelwch
- Gallwch ddod â chŵn ar y safle ond mae'n rhaid eu cadw ar dennyn.
- Gofynnwn i chi beidio â dod â pheli na sglefrfyrddau i'r safle gan y gallant ddifrodi'r adeiladau hanesyddol a'r gerddi.
- Ni chaniateir ysmygu yn yr adeiladau o gwbl.
- Ni ddylai ymwelwyr gyffwrdd â'r anifeiliaid na'r adar ar y safle na'u bwydo.
- Fel arwydd o gwrteisi at ymwelwyr eraill, gofynnir i chi beidio â defnyddio ffonau symudol y tu mewn i'r adeiladau. Am yr un rheswm, gofynnir i chi beidio â dod â radios ar y safle.
- Gall fflachiau camerâu ddifrodi defnyddiau sensitif ac felly ni chaniateir tynnu lluniau â chamera yn yr Orielau nac yng Nghastell Sain Ffagan.
Mae'r Amgueddfa'n cadw'r hawl i ofyn i grwpiau neu unigolion adael y safle os byddant yn ymddwyn mewn ffordd annymunol neu afresymol.
Mewn Argyfwng
Mewn argyfwng, cysylltwch ag un o'r Gofalwyr sydd mewn iwnifform. Gellir galw pobl sydd wedi'u hyfforddi i roi cymorth cyntaf os bydd angen. Mae'r Gofalwyr wedi'u hyfforddi sut i gael pobl allan o'r adeiladau os ceir tân yno.
Dywedwch wrth y plant yn eich grŵp i roi gwybod i un o'r Gofalwyr os byddant ar goll, fel y gallant ddod o hyd i un o arweinyddion y grŵp.
Bydd ymwelwyr yn yr awyr agored y rhan fwyaf o'r amser tra byddant yn yr Amgueddfa, felly dylech ddod â dillad/offer addas ar gyfer pob math o dywydd. Gall y llwybrau fod yn fwdlyd yn y gaeaf ac felly dylai'ch grŵp wisgo esgidiau addas.
Goruchwylio

Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn amgueddfa awyr-agored fawr. Ceir yma risiau a llethrau serth, llynnoedd, nentydd, coetiroedd, peiriannau a da byw.
Mae'n rhaid i grwpiau o fyfyrwyr ysgol 16 oed neu iau fod o dan oruchwyliaeth drwy'r amser tra byddant yn yr Amgueddfa ac mae eu hysgol yn gyfrifol amdanynt trwy gydol eu hymweliad. Gellir gwrthod mynediad i rai adeiladau i grwpiau heb oruchwyliwr.
Argymhellwn y dylid cael o leiaf:
- 1 athro i bob 5 plentyn o dan 7 oed;
- o leiaf 1 arweinydd grŵp ar gyfer pob 10 plentyn arall oed cynradd;
- 1 athro i bob 15 o fyfyrwyr ysgol uwchradd.
Gweithgareddau Arbennig
Mae natur y gweithgareddau arbennig yn yr Amgueddfa'n amrywio'n fawr. Bydd yr Amgueddfa wedi asesu peryglon y gwahanol weithgareddau a byddant yn rhoi rhybudd llafar o'r peryglon hynny. Mae'n bwysig bod grwpiau'n gwrando'n ofalus ar unrhyw gyfarwyddiadau.
Adeiladau ac Orielau
Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru mewn man hardd ar dir Castell Sain Ffagan, plasty o ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg. Erbyn hyn mae dros ddeugain o adeiladau gwreiddiol wedi'u symud o wahanol rannau o Gymru i'r Amgueddfa a'u hail-godi yno i ddangos sut roedd pobl yn byw 'slawer dydd.
Rydym yn cyfyngu ar nifer yr ymwelwyr sy'n cael dod i mewn i adeilad ar y tro
- fel y gallwn roi profiad gwerth chweil iddynt;
- i'w gwneud yn haws iddynt fynd a dod;
- i sicrhau bod cynifer o grwpiau ag y bo modd yn cael cyfle i ymweld ag adeiladau poblogaidd yn ddiogel.
Am y rhesymau hyn i gyd, gofynnwn i grwpiau mawr sy'n bwriadu ymweld â rhai adeiladau gyda'i gilydd gysylltu â'r Adran Addysg i drefnu amser ar gyfer eu hymweliad. Dyma'r adeiladau y mae'n rhaid trefnu ymlaen llaw i ymweld â nhw:
- Tŷ ar gyfer y Dyfodol (tua 30 mewn grŵp am hanner awr)
- Tai Rhyd-y-car (tua 30 mewn grŵp am hanner awr)
- Y Pentref Celtaidd (tua 30 mewn grŵp am hanner awr)
- Ysgol Maestir (tua 30 mewn grŵp am hanner awr, neu fwy os bydd angen)
Er mwyn elwa cymaint ag y bo modd o'ch ymweliad, gofalwch gyrraedd yr adeilad ar yr amser a nodwyd. Os byddwch yn hwyr yn cyrraedd, gall amharu ar eich ymweliad chi ac ymweliadau pobl eraill.

Gwybodaeth Ychwanegol
Ymweliadau Ymlaen Llaw
Mae ymweliadau ymlaen llaw yn ffordd dda i athrawon ac arweinyddion grwpiau ddod i nabod y safle cyn ymweliad y grŵp. Ffoniwch i drefnu cyn dod os hoffech siarad ag aelod o staff yr Adran Addysg neu'r Adran Farchnata ar ddiwrnod eich ymweliad ymlaen llaw.
Adnoddau a Gweithgareddau
Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn trefnu nifer o wahanol weithdai, gweithgareddau a dyddiau hyfforddi. Mae catalog o adnoddau Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ar gael oddi wrth yr Adran Addysg. Rydym hefyd yn cynnig nifer o dafl enni'n nodi llwybrau i'w dilyn a thafl enni gwaith ac mae rhai o'r rhain ar gael mewn Ffrangeg ac Almaeneg.
Gwaith Ymchwil
Mae croeso i fyfyrwyr ac athrawon ddefnyddio Llyfrgell Gyfeirio ac Archif yr Amgueddfa. Mae'r Archif yn cynnwys casgliadau o ffotograffau, defnyddiau sain a llawysgrifau. Cysylltwch â'r Llyfrgellydd neu'r Archifydd i gael rhagor o fanylion. Dylid cyfeirio ceisiadau i ddefnyddio'r casgliadau eraill ar gyfer gwaith ymchwil at ysgrifenyddes yr Adran Guradurol.
Rhifau Cyswllt
- Ymholiadau Cyffredinol: (029) 2057 3500
- Adran Addysg: (029) 2057 3403 / 424
- Archifydd yr Amgueddfa: (029) 2057 3427 neu (029) 2057 3444
- Llyfrgellydd yr Amgueddfa: (029) 2057 3446
- Bwyty'r Amgueddfa: (029) 2057 3414
- Siop yr Amgueddfa: (029) 2057 3412
- Adran Gwasanaethau Ymwelwyr: (029) 2057 3440 neu (029) 2057 3433
- Adran Farchnata: ymholiadau cyffredinol: (029) 2057 3534
- Trefnu ymweliadau grwpiau: (029) 2057 3174
- Ysgrifenyddes yr Adrannau Guradurol: (029) 2057 3443







