Cynllunio'ch Ymweliad - Addysg: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
[delwedd: Cynllunio'ch Ymweliad]
Gobeithio y byddwch chi'n mwynhau eich ymweliad â Chaerllion. Bydd yr wybodaeth ganlynol yn eich helpu chi i fwynhau eich ymweliad. Amgueddfa Cymru sy'n cynnal Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Cadw: Henebion Cymru sy'n cynnal y cofebion, fel Baddonau'r Gaer, yr Amffitheatr a'r Barics.
Cynhyrchwyd y canllaw hwn gan Amgueddfa Cymru ar y cyd â Cadw: Henebion Cymru. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau penodol am unrhyw un o safleoedd Cadw na thrafodir ar y tudalennau nesaf at Cadw naill ai drwy ffonio (029) 2082 5111 neu drwy fynd i wefan Cadw.
Sut i ddod o hyd i ni
- Car: yn agos at Gasnewydd, 20 munud o'r M4 / Pont Hafren, dilynwch yr arwyddion o Gaerdydd a Bryste.
- Tren: gwasanaethau bob awr i Gasnewydd a gwasanaeth bws i Gaerllion.
- Bws: gwasanaethau Cludiant Casnewydd 7 a 7b rhwng Casnewydd a Chwmbrân, bob awr yn ystod yr wythnos.
Mynediad
AM DDIM i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.
Cysylltu â Ni
Rhaid trefnu ymweliadau grŵp ymlaen llaw. I drefnu ymweliad addysgol, ffoniwch (029) 2057 3546. I gael gwybodaeth gyffredinol am yr Amgueddfa neu ddigwyddiadau yno, ffoniwch (029) 2057 3550. Gellir cysylltu â Baddonau'r Gaer ar 01633 422518.
Oriau agor
Mae'r Amgueddfa ar agor rhwng 10.00 – 5.00 dydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 2.00 – 5.00 ar ddydd Sul.
Mae Baddonau'r Gaer ar agor:
Gaeaf – 9.30 – 5.00 dydd Llun i ddydd Sadwrn ac 1.00 – 5.00 dydd Sul.
Haf – 9.30 – 5.00 dydd Llun i ddydd Sadwrn ac 11.00 – 5.00 dydd Sul.
Gwybodaeth Gyffredinol a Chyfleusterau
[delwedd: Cynllunio'ch Ymweliad]
Wrth gyrraedd
Dylai arweinwyr grwpiau fynd i dderbynfa'r Amgueddfa wrth gyrraedd, gan adael y grŵp yn y cyntedd o flaen yr Amgueddfa. Bydd gofyn iddynt roi niferoedd y plant a/neu'r oedolion yn y grŵp at ddibenion y rheoliadau tân.
Rhaid i bob grŵp addysgol fod o dan oruchwyliaeth ar bob adeg wrth ymweld â'r Amgueddfa, gan gynnwys amser cinio.
Tai bach
Mae dau dŷ bach sy'n addas ar gyfer pobl anabl o'r ddau ryw yn yr Amgueddfa, y naill yn yr Oriel a'r llall yn y Canolfan Capricorn. Mae yna dai bach i fechgyn a merched yn y Canolfan Capricorn.
Siop Anrhegion
Mae siop anrhegion yn Oriel yr Amgueddfa ac ym Maddonau'r Gaer. Dylai grwpiau ysgol ddefnyddio'r siop anrhegion yn ystod y sesiwn sy'n cael ei neilltuo ar eu cyfer yn Oriel yr Amgueddfa mewn grwpiau o ddim mwy na 6 ar y tro.
Mynediad i Bobl Anabl
Mae canllawiau mynediad ar gael yma neu drwy ffonio (029) 2057 3149. Mae canllawiau mynediad Cadw ar gael ar ei wefan neu drwy ffonio (029) 2050 0200. Os oes unrhyw bobl â nam ar eu golwg yn eich grŵp, mae casgliad cyffwrdd â theimlo ar gael gan yr Amgueddfa ar gais.
Ffotograffiaeth
[delwedd: Dim lluniau]
Caniateir ffotograffiaeth at ddefnydd personol yn yr holl orielau heblaw lle gwelir y symbol hwn. Os ydych chi am dynnu ffotograffau am resymau heblaw defnydd personol, siaradwch ag aelod o staff yr Amgueddfa a fydd yn gallu eich cynghori chi.
Ffonau Symudol
Allan o gwrteisi at ymwelwyr eraill, peidiwch â defnyddio eich ffôn symudol yn yr Amgueddfa.
Caffi
Nid oes caffi yn yr Amgueddfa, ond mae nifer o leoedd sy'n gwerthu lluniaeth yn y pentref ei hunan.
Cyfleusterau Arbennig ar gyfer Grwpiau Ysgol
Amserlenni
Bydd grwpiau ysgol yn derbyn amserlen cyn eu hymweliad. Dilynwch yr amserlen yn ofalus er mwyn peidio â tharfu ar unrhyw grwpiau eraill.
Ystafell Gotiau
Mae ystafelloedd cotiau ar gael ar gyfer grwpiau sy'n defnyddio'r Oriel a Chanolfan Capricorn.
Cyfleusterau Bwyta
Byddwn ni'n nodi amser a lle i'ch grŵp fwyta cinio ar eich amserlen. Y mannau addas ar gyfer cinio yn yr Amgueddfa yw Canolfan Pegasus, yr Ystafell Ddosbarth a'r Ystafell Gyswllt. Mewn tywydd braf, gall y plant fwyta y tu allan yng ngardd yr Amgueddfa. Ni chaniateir bwyta ac yfed yn Oriel yr Amgueddfa.
Ymweliadau Rhagflas
Mae'r ymweliadau hyn ar gael i athrawon neu arweinwyr grwpiau sydd am ymgyfarwyddo â Chaerllion. Ffoniwch i wneud trefniadau ymlaen llaw os ydych chi am siarad ag aelod o staff yr adran Addysg ar ddiwrnod eich ymweliad rhagflas.
Eich amgueddfa chi yw hon. Lle i archwilio a darganfod. Er mwyn sicrhau bod yr ymweliad yn bleserus i bawb, gofynnwn fod rhai rheolau'n cael eu parchu:
- Gofynnwn fod pob plentyn a pherson ifanc o dan 16 oed o dan oruchwyliaeth ar bob adeg.
- Peidiwch â rhedeg yn yr Oriel nac ym Maddonau'r Gaer, a byddwch yn ofalus ar y grisiau ac ar y ramp.
- Peidiwch â gadael olion bysedd ar y cesys, na phwyso ar y cesys gwastad, ac yn enwedig yr arch. Cewch gyffwrdd yn y copïau o'r gwrthrychau yn Ystafell y Barics, ond gofynnir i chi fod yn ofalus wrth wneud hynny.
- Peidiwch â dringo ar waliau'r Amffitheatr a pharchwch yr Amffitheatr a'r Barics fel henebion.
Fideo-gynadledda
Ydych chi'n ei chael hi'n anodd dod i Gaerllion neu hoffech chi wneud gwaith yn dilyn eich ymweliad? Bydd fideo-gynadledda'n rhoi profiad unigryw i'ch disgyblion! I gael rhagor o fanylion, ffoniwch (029) 2057 3550.
Mewn Argyfwng
Tân
Yn achos tân, bydd larwm yn canu a dylech ymadael drwy'r allanfa diogel agosaf. Bydd staff yr Amgueddfa yn eich cyfeirio chi at fan ymgynnull.
Cymorth Cyntaf
Os oes angen Cymorth Cyntaf arnoch, cysylltwch ag aelod o staff yr Amgueddfa, a fydd yn galw am rywun sydd wedi cael hyfforddiant Cymorth Cyntaf.
Plant Coll
Dylai plant sydd wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu grŵp roi gwybod i aelod o'r staff os ydynt ar goll. Bydd aelod o'r staff yn edrych ar ôl plant coll yn Oriel yr Amgueddfa nes daw eu grŵp/teulu i'w casglu.
Unrhyw Argyfwng Arall
Yn achos unrhyw argyfwng arall, cysylltwch ag aelod o'r staff.
Iechyd a Diogelwch
- Yn yr ystafell a ailgrewyd fel Ystafell y Barics, mae copïau o arfwisgoedd ac arfau. Dylai ymwelwyr drin yr eitemau hyn â gofal a chyda pharch at y bobl eraill sydd yn yr ystafell. Dylai plant fod o dan oruchwyliaeth ar bob adeg yn Ystafell y Barics.
- Safleoedd awyr agored yw safleoedd Cadw, sef yr Amffitheatr a'r Barics, ac felly, dylid gwisgo dillad
ac esgidiau sy'n briodol ar gyfer y tywydd a natur y tir. Dylech gymryd gofal yn yr henebion hyn am fod yna lethrau serth a disgynfeydd mawr sy'n gallu bod yn llithrig mewn tywydd gwlyb. - Dylai plant fod o dan oruchwyliaeth ar bob adeg yn yr Amffitheatr a'r Barics.
Beth welwn ni?
Mannau a gynhelir gan Amgueddfa Cymru:
[delwedd: Cynllunio'ch Ymweliad]
Yr Oriel
Mae'r Oriel yn gartref i gasgliad o arteffactau Rhufeinig o Gaerau Caerllion a Brynbuga.
Y Canolfan Capricorn
Mae'r Canolfan Capricorn yn cynnwys Ystafell y Barics, Grammaticus, y Stiwdio a Chanolfan Pegasus.
Mae Ystafell y Barics yn agored i'r cyhoedd ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol. Rhaid i ymwelwyr fod yng nghwmni aelod o staff yn Ystafell y Barics oni bai eu bod yn cael gwybod yn wahanol.
Mae Grammaticus, y Stiwdio a Chanolfan Pegasus oll yn ardaloedd a ddefnyddir gan grwpiau addysgol yn bennaf ac nid ydynt yn agored i'r cyhoedd.
Ardaloedd a gynhelir gan Cadw: Henebion Cymru:
Baddonau'r Gaer
Olion Baddonau Caer y lleng, sydd i'w gweld mewn adeilad dan do. Mae'r llwybrau troed ar lawr estyll dyrchafedig ac nid ydynt yn addas ar gyfer sodlau stileto. Mae fideo ac arddangosfa sain a golau yn helpu i ddehongli'r olion.
Yr Amffitheatr
Dyma'r enghraifft orau o Amffitheatr ym Mhrydain. Mae'r safle hwn ar agor ar bob adeg.
Y Barics
Yr enghraifft orau o Farics Lleng Rufeinig yn Ewrop, gydag olion yr amddiffynfeydd, y ffyrnau a'r tai bach.
Gall natur yr henebion hyn eu gwneud nhw'n anaddas ar gyfer rhai ymwelwyr anabl. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01443 336000 neu ewch i wefan Cadw.