Rydych chi yn: Hafan > Addysg > Amgueddfa Lleng Rhufeinig Cymru > Cynllunio’ch ymweliad - canllaw i ysgolion
English

Cynllunio'ch Ymweliad Addysg: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Cynllunio'ch Ymweliad

Gobeithio y byddwch chi'n mwynhau eich ymweliad â Chaerllion. Bydd yr wybodaeth ganlynol yn eich helpu chi i fwynhau eich ymweliad. Amgueddfa Cymru sy'n cynnal Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Cadw: Henebion Cymru sy'n cynnal y cofebion, fel Baddonau'r Gaer, yr Amffitheatr a'r Barics.

Cynhyrchwyd y canllaw hwn gan Amgueddfa Cymru ar y cyd â Cadw: Henebion Cymru. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau penodol am unrhyw un o safleoedd Cadw na thrafodir ar y tudalennau nesaf at Cadw naill ai drwy ffonio (029) 2082 5111 neu drwy fynd i wefan Cadw.

Sut i ddod o hyd i ni

Lleoliad ar Multimap.co.uk

Lleoliad ar Streetmap.co.uk

Mynediad

AM DDIM i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.

Cysylltu â Ni

Rhaid trefnu ymweliadau grŵp ymlaen llaw. I drefnu ymweliad addysgol, ffoniwch (029) 2057 3546. I gael gwybodaeth gyffredinol am yr Amgueddfa neu ddigwyddiadau yno, ffoniwch (029) 2057 3550. Gellir cysylltu â Baddonau'r Gaer ar 01633 422518.

Oriau agor

Mae'r Amgueddfa ar agor rhwng 10.00 – 5.00 dydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 2.00 – 5.00 ar ddydd Sul.

Mae Baddonau'r Gaer ar agor:
Gaeaf – 9.30 – 5.00 dydd Llun i ddydd Sadwrn ac 1.00 – 5.00 dydd Sul.
Haf – 9.30 – 5.00 dydd Llun i ddydd Sadwrn ac 11.00 – 5.00 dydd Sul.

Gwybodaeth Gyffredinol a Chyfleusterau

Cynllunio'ch Ymweliad

Wrth gyrraedd

Dylai arweinwyr grwpiau fynd i dderbynfa'r Amgueddfa wrth gyrraedd, gan adael y grŵp yn y cyntedd o flaen yr Amgueddfa. Bydd gofyn iddynt roi niferoedd y plant a/neu'r oedolion yn y grŵp at ddibenion y rheoliadau tân.

Rhaid i bob grŵp addysgol fod o dan oruchwyliaeth ar bob adeg wrth ymweld â'r Amgueddfa, gan gynnwys amser cinio.

Tai bach

Mae dau dŷ bach sy'n addas ar gyfer pobl anabl o'r ddau ryw yn yr Amgueddfa, y naill yn yr Oriel a'r llall yn y Canolfan Capricorn. Mae yna dai bach i fechgyn a merched yn y Canolfan Capricorn.

Siop Anrhegion

Mae siop anrhegion yn Oriel yr Amgueddfa ac ym Maddonau'r Gaer. Dylai grwpiau ysgol ddefnyddio'r siop anrhegion yn ystod y sesiwn sy'n cael ei neilltuo ar eu cyfer yn Oriel yr Amgueddfa mewn grwpiau o ddim mwy na 6 ar y tro.

Mynediad i Bobl Anabl

Mae canllawiau mynediad ar gael yma neu drwy ffonio (029) 2057 3149. Mae canllawiau mynediad Cadw ar gael ar ei wefan neu drwy ffonio (029) 2050 0200. Os oes unrhyw bobl â nam ar eu golwg yn eich grŵp, mae casgliad cyffwrdd â theimlo ar gael gan yr Amgueddfa ar gais.

Ffotograffiaeth

Dim lluniau

Caniateir ffotograffiaeth at ddefnydd personol yn yr holl orielau heblaw lle gwelir y symbol hwn. Os ydych chi am dynnu ffotograffau am resymau heblaw defnydd personol, siaradwch ag aelod o staff yr Amgueddfa a fydd yn gallu eich cynghori chi.

Ffonau Symudol

Allan o gwrteisi at ymwelwyr eraill, peidiwch â defnyddio eich ffôn symudol yn yr Amgueddfa.

Caffi

Nid oes caffi yn yr Amgueddfa, ond mae nifer o leoedd sy'n gwerthu lluniaeth yn y pentref ei hunan.

Cyfleusterau Arbennig ar gyfer Grwpiau Ysgol

Amserlenni

Bydd grwpiau ysgol yn derbyn amserlen cyn eu hymweliad. Dilynwch yr amserlen yn ofalus er mwyn peidio â tharfu ar unrhyw grwpiau eraill.

Ystafell Gotiau

Mae ystafelloedd cotiau ar gael ar gyfer grwpiau sy'n defnyddio'r Oriel a Chanolfan Capricorn.

Cyfleusterau Bwyta

Byddwn ni'n nodi amser a lle i'ch grŵp fwyta cinio ar eich amserlen. Y mannau addas ar gyfer cinio yn yr Amgueddfa yw Canolfan Pegasus, yr Ystafell Ddosbarth a'r Ystafell Gyswllt. Mewn tywydd braf, gall y plant fwyta y tu allan yng ngardd yr Amgueddfa. Ni chaniateir bwyta ac yfed yn Oriel yr Amgueddfa.

Ymweliadau Rhagflas

Mae'r ymweliadau hyn ar gael i athrawon neu arweinwyr grwpiau sydd am ymgyfarwyddo â Chaerllion. Ffoniwch i wneud trefniadau ymlaen llaw os ydych chi am siarad ag aelod o staff yr adran Addysg ar ddiwrnod eich ymweliad rhagflas.

Eich amgueddfa chi yw hon. Lle i archwilio a darganfod. Er mwyn sicrhau bod yr ymweliad yn bleserus i bawb, gofynnwn fod rhai rheolau'n cael eu parchu:

Fideo-gynadledda

Ydych chi'n ei chael hi'n anodd dod i Gaerllion neu hoffech chi wneud gwaith yn dilyn eich ymweliad? Bydd fideo-gynadledda'n rhoi profiad unigryw i'ch disgyblion! I gael rhagor o fanylion, ffoniwch (029) 2057 3550.

Mewn Argyfwng

Tân

Yn achos tân, bydd larwm yn canu a dylech ymadael drwy'r allanfa diogel agosaf. Bydd staff yr Amgueddfa yn eich cyfeirio chi at fan ymgynnull.

Cymorth Cyntaf

Os oes angen Cymorth Cyntaf arnoch, cysylltwch ag aelod o staff yr Amgueddfa, a fydd yn galw am rywun sydd wedi cael hyfforddiant Cymorth Cyntaf.

Plant Coll

Dylai plant sydd wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu grŵp roi gwybod i aelod o'r staff os ydynt ar goll. Bydd aelod o'r staff yn edrych ar ôl plant coll yn Oriel yr Amgueddfa nes daw eu grŵp/teulu i'w casglu.

Unrhyw Argyfwng Arall

Yn achos unrhyw argyfwng arall, cysylltwch ag aelod o'r staff.

Iechyd a Diogelwch

Beth welwn ni?

Mannau a gynhelir gan Amgueddfa Cymru:

Cynllunio'ch Ymweliad

Yr Oriel

Mae'r Oriel yn gartref i gasgliad o arteffactau Rhufeinig o Gaerau Caerllion a Brynbuga.

Y Canolfan Capricorn

Mae'r Canolfan Capricorn yn cynnwys Ystafell y Barics, Grammaticus, y Stiwdio a Chanolfan Pegasus.

Mae Ystafell y Barics yn agored i'r cyhoedd ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol. Rhaid i ymwelwyr fod yng nghwmni aelod o staff yn Ystafell y Barics oni bai eu bod yn cael gwybod yn wahanol.

Mae Grammaticus, y Stiwdio a Chanolfan Pegasus oll yn ardaloedd a ddefnyddir gan grwpiau addysgol yn bennaf ac nid ydynt yn agored i'r cyhoedd.

Ardaloedd a gynhelir gan Cadw: Henebion Cymru:

Baddonau'r Gaer

Olion Baddonau Caer y lleng, sydd i'w gweld mewn adeilad dan do. Mae'r llwybrau troed ar lawr estyll dyrchafedig ac nid ydynt yn addas ar gyfer sodlau stileto. Mae fideo ac arddangosfa sain a golau yn helpu i ddehongli'r olion.

Yr Amffitheatr

Dyma'r enghraifft orau o Amffitheatr ym Mhrydain. Mae'r safle hwn ar agor ar bob adeg.

Y Barics

Yr enghraifft orau o Farics Lleng Rufeinig yn Ewrop, gydag olion yr amddiffynfeydd, y ffyrnau a'r tai bach.

Gall natur yr henebion hyn eu gwneud nhw'n anaddas ar gyfer rhai ymwelwyr anabl. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01443 336000 neu ewch i wefan Cadw.

Rydym ni'n gobeithio'n fawr y byddwch chi'n mwynhau eich ymweliad â Chaerllion. Rhowch wybod i ni sut gallwn ni wella eich ymweliad - gadael eich sylwadau yma.