Cyfnodau Allweddol 3/4 - Beth sydd i Ginio?
etsf_wormeat.cy.zip
Nod y gweithgaredd hwn yw archwilio'r addasiadau sydd gan fwydod gwrychog ar gyfer bwydo.
Cwestiynau i ofyn i'r disgyblion:
Beth mae'r mwydyn yn bwyta?
- A yw'r mwydyn yn bwyta cig (cigysydd / hollysydd)?
- A yw'r mwydyn yn bwyta mwd (detritysydd)?
Adnoddau sydd eu hangen:
Beth mae'r mwydyn yn bwyta – adnoddau i ddisgyblion
Gallwch ddod o hyd i'r atebion cywir yn yr adran adnoddau i athrawon
Cliwiau ar gyfer disgyblion:
Cigysyddion / Hollysyddion:
Mae'r mwydod sy'n bwyta cig yn debygol o fod yn weithgar, fel eu bod yn gallu dal eu hysglyfaeth. Maent felly'n debygol o feddu ar strwythurau ymsymudol datblygedig ar gyfer ymlusgo neu nofio. Maent hefyd yn debygol o feddu ar strwythurau ar gyfer synhwyro'u hysglyfaeth, fel llygaid a theimlyddion. Hefyd efallai bod ganddynt gegau a/ neu genau mawr i ddal eu hysglyfaeth (ond byddant weithiau'n guddiedig).
Detrisyddion:
Mae anifeiliaid sy'n cael eu maeth trwy amlyncu mwd neu dywod yn debygol o fod yn llai gweithgar. Felly maent weithiau'n byw mewn tiwb, a gall eu strwythurau ymsymudol fod yn llai datblygedig. Gall fod ganddynt lygaid neu deimlyddion, neu beidio. Mae gan rai dagellau, sy'n weladwy gan eu bod yn goch.
Gweithgaredd
- Gofynnwch i'r disgyblion osod enwau rhannau'r mwydod wrth y ffotograffau cywir.
- Ar ôl amlinellu'r cliwiau sydd i'w canfod (a ddisgrifir uchod) gofynnwch i'r disgyblion benderfynu pa fwydod sy'n gigysyddion/hollysyddion, a pha rai sy'n ddetrisyddion. Gosodwch un o'r delweddau mwd ar y mwydod sydd, yn eich barn chi, yn ddetrisyddion, a delwedd mwydyn ar y mwydod sydd, yn eich barn chi, yn gigysyddion/ hollysyddion.
Estyniad
Defnyddiwch CD-ROM Archwilio Gwely'r Môr i edrych ymhellach ar anifeiliaid gwely'r môr, ac i ddarganfod sut mae gwyddonwyr yn astudio'r amgylchedd rhyfeddol hwn.
