Ymweld â'r Amgueddfa - Addysg: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Ydych chi'n bwriadu dod â dosbarth neu grŵp i'r Amgueddfa? Dysgwch am y sesiynau, teithiau tywys a gweithgareddau yr ydym yn eu cynnig trwy lawrlwytho'r llyfryn ysgolion cynradd. Os hoffech gopi printiedig o'n rhaglen ar gyfer ysgolion cynradd anfonwch ebost at Louise Dickerson, yn cynnwys eich cyfeiriad
Ymweliad ymlaen llaw
Os nad ydych chi'n gyfarwydd â'r Amgueddfa, bydd ymweliad o flaen llaw yn darparu gwybodaeth hanfodol am sut i ddefnyddio'r orielau a'r arddangosfeydd yn effeithiol. Bydd aelod o'r tîm addysg yn hapus i'ch tywys ac ateb unrhyw gwestiynau.
Archebu
I sicrhau eich bod yn gwneud y gorau o'ch ymweliad, mae'n ofynnol i grwpiau archebu o flaen llaw. Ffoniwch (029) 2057 3600 am wybodaeth ynglŷn ag argaeledd, ac i archebu.
Am fwy o wybodaeth, neu os hoffech drafod cyfleoedd addysg, cysylltwch â'r Swyddog Addysg Ffurfiol ar (029) 2057 3611.
Bydd cadarnhad, a gwybodaeth i'ch galluogi i gwblhau asesiad risg, yn cael eu hanfon atoch trwy e-bost wedi i chi archebu. Os fydd eich amgylchiadau'n newid, a'ch bod yn methu ymweld neu gymryd rhan mewn gweithgaredd gynorthwyedig, cysylltwch â ni fel bod modd cynnig y sesiwn i grŵp arall. Mae galw mawr am y sesiynau i gyd.
Adnoddau
Rydym yn darparu ystafelloedd cinio, ystafelloedd addysg a chyfleusterau ystafell gotiau. Mae ein siop yn cynnig amrywiaeth o anrhegion, ac mae modd paratoi ‘bagiau arian poced' o werth penodol o £1 ac i fyny. Rhowch wybod wrth archebu os hoffech i ni drefnu hyn ar gyfer eich disgyblion.
Edrychwn ymlaen at groesawu eich grŵp.







