Ymweld â'r Amgueddfa

Ydych chi'n bwriadu dod â dosbarth neu grŵp i'r Amgueddfa? Dysgwch am y sesiynau, teithiau tywys a gweithgareddau yr ydym yn eu cynnig trwy lawrlwytho'r llyfryn ysgolion cynradd. Os hoffech gopi printiedig o'n rhaglen ar gyfer ysgolion cynradd anfonwch ebost at Louise Dickerson, yn cynnwys eich cyfeiriad

Ymweliad ymlaen llaw

Os nad ydych chi'n gyfarwydd â'r Amgueddfa, bydd ymweliad o flaen llaw yn darparu gwybodaeth hanfodol am sut i ddefnyddio'r orielau a'r arddangosfeydd yn effeithiol. Bydd aelod o'r tîm addysg yn hapus i'ch tywys ac ateb unrhyw gwestiynau.

Archebu

I sicrhau eich bod yn gwneud y gorau o'ch ymweliad, mae'n ofynnol i grwpiau archebu o flaen llaw. Ffoniwch (01792) 638971 am wybodaeth ynglŷn ag argaeledd, ac i archebu.

Am fwy o wybodaeth, neu os hoffech drafod cyfleoedd addysg, cysylltwch â'r Swyddog Addysg Ffurfiol ar (01792) 638965.

Bydd cadarnhad, a gwybodaeth i'ch galluogi i gwblhau asesiad risg, yn cael eu hanfon atoch trwy e-bost wedi i chi archebu. Os fydd eich amgylchiadau'n newid, a'ch bod yn methu ymweld neu gymryd rhan mewn gweithgaredd gynorthwyedig, cysylltwch â ni fel bod modd cynnig y sesiwn i grŵp arall. Mae galw mawr am y sesiynau i gyd.

Adnoddau

Rydym yn darparu ystafelloedd cinio, ystafelloedd addysg a chyfleusterau ystafell gotiau. Mae ein siop yn cynnig amrywiaeth o anrhegion, ac mae modd paratoi ‘bagiau arian poced' o werth penodol o £1 ac i fyny. Rhowch wybod wrth archebu os hoffech i ni drefnu hyn ar gyfer eich disgyblion.

Edrychwn ymlaen at groesawu eich grŵp.

Gwybodaeth

Map

Abertawe
Ar agor 10am-5pm bob dydd

Adran addysg:
(01792) 638991

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd