Dewch i'r coedwigoedd
Llwybr Natur Newydd!
Llwybr Natur Newydd! Ewch am dro trwy ein coedwig hyfryd i ddysgu am fywyd gwyllt a'n llwybr natur cyffwrdd a gwneud. Codwch fodelau o risgl a dail i ganfod bwystfilod bach a dysgwch sut i fynd ar drywydd bywyd gwyllt. Darganfyddwch sut oedd y Celtiaid hynafol yn defnyddio coed i adeiladu tai.
Digwyddiadau difyr
Edrychwch ar y rhestr o ddigwyddiadau difyr ar gyfer teuluoedd a naturiaethwyr brwd.
Llwybrau hunan-arweiniol
Llwybrau hunan-arweiniol: Cymerwch lwybr hunan-arweiniol tymhorol o'r arddangosfa coedwigoedd yn Oriel 1
Ysgolion
Archebwch ddiwrnod o weithgareddau coedwigol am ddim gyda dehonglydd ein coedwigoedd.
Naturiaethwyr brwd / ffotograffwyr
Mae Sain Ffagan yn lle perffaith i wellach sgiliau adnabod neu i ymarfer eich ffotograffiaeth.Hygyrchedd
Mae'r llwybr yn daith fer trwy'r goedwig ffawydd i'r Pentref Celtaidd, ac mae'n addas ar gyfer pramiau a chadeiriau olwyn. Am fwy o wybodaeth gwelwch ymweld a canllawiau mynediad.
Hanes
Plannwyd y goedwig yn Sain Ffagan gan Iarll Plymouth, perchennog Castell a gerddi Sain Ffagan, ar ddechrau'r 20fed ganrif. Heddiw mae'n warchodfa ar gyfer adar gwyllt, ystlumod, anifeiliaid prin ac yn lle gwych i fwynhau'r awyr agored.
