Polisïau Rheolaeth Casgliadau - Polisi ar Ofalu am y Casgliadau a’u Cadwraeth
Adolygwyd Hydref 2008
Adolygiad Nesaf Hydref 2013
1. CYFLWYNIAD
1.1 Mae gofalu am gasgliadau’n ddyletswydd sylfaenol i bob amgueddfa. Seilir ein polisi o ran gofalu am y casgliadau ar gyfuniad o gadwraeth ataliol ac adferol, a bwriad y ddau yw sicrhau cynhaliaeth y casgliadau.
1.2 Mae cadwraeth ataliol yn cwmpasu’r mesurau angenrheidiol i rwystro neu leihau dirywiad gwrthrychau a sbesimenau a strwythurau’r amgueddfa. Seilir y mesurau ataliol angenrheidiol ar ddealltwriaeth drylwyr o’r ffordd y mae gwrthrychau a sbesimenau’n ymateb i’w hamgylchedd ac yn dirywio’n ffisegol neu’n gemegol. Mae cadwraeth adferol yn cynnwys trin gwrthrych neu sbesimen er mwyn ei adfer i gyflwr gwell, er mwyn ei sefydlogi neu er mwyn gwella rhai agweddau o’i werth diwylliannol neu wyddonol.
1.3 Byddwn yn dilyn arferion da yn ein dulliau cadwraeth fel y rhai a nodir mewn dogfennau fel BS 5454 Argymhellion ar gyfer Storio ac Arddangos Dogfennau Archif, a Meincnodau’r MLA o ran Gofalu am Gasgliadau.
1.4 Mae defnyddio peiriannau hanesyddol yn gofyn am ystyriaeth arbennig yn nhermau cadwraethol, a datblygwyd polisi arbennig yn unol â hynny. Fe’i cyflwynir fel Atodiad 1 - Polisi ar Gyfer Defnyddio Peiriannau Hanesyddol i’r polisi hwn.
2. NODAU AC AMCANION
Yn ôl y Siarter, un o brif nodau’r Amgueddfa yw cadw’r casgliadau. Byddwn yn gofalu am y casgliadau drwy ddarparu’r amodau gorau ar gyfer pob gwrthrych a sbesimen drwy:
- cynnal y tymheredd, y lleithder, golau ac ati ar y lefel orau o dan amodau sy’n rhydd o lygredd a phlâu gan daro’r cydbwysedd gorau rhwng cadwraeth tymor hir y gwrthrychau a’r sbesimenau a gadael i’r cyhoedd a staff eu gweld;
- darparu amodau storio ac arddangos sy’n bodloni safonau cadwraeth cyfoes er mwyn cadw pob casgliad yn ddiogel drwy’r amser;
- asesu cadwraeth y casgliadau cyn eu derbyn, eu benthyg a’u harddangos, asesu gwrthrychau sy’n cael eu benthyg i mewn, a monitro cyflwr pob sbesimen yn gyson;
- blaenoriaethu anghenion cadwraeth o fewn fframwaith yr adnoddau sydd ar gael;
- cynnal y safonau uchaf o ran cadwraeth drwy ddefnyddio staff proffesiynol, cymwys a dulliau a deunyddiau o’r radd flaenaf;
- dogfennu’r holl fesurau cadwraeth a gymerir tra bod gwrthrychau a sbesimenau yn ein gofal;
- gweithio gan gofio bod rhai dulliau o drin yn gallu effeithio ar werth ymchwil gwrthrych yn y dyfodol; a
- hyrwyddo arferion da wrth drin a gofalu am wrthrychau, a lleihau’r risg i’w cadwraeth tymor hir.
3. TREFNIADAU BRYS
Byddwn yn cymryd camau uwchlaw'r hyn sy’n angenrheidiol i amddiffyn y casgliadau o ddydd i ddydd er mwyn darparu trefniadau ac adnoddau brys yn sgil niwed trychinebus (llifogydd, tân ac ati.). Mae’r mesurau hyn yn cynnwys:
- paratoi dogfennau Ymateb i Drychinebau yn rhan o’r Canllawiau ar Drefniadau Brys, ym mhob maes lle cedwir casgliadau;
- cynnig hyfforddiant priodol ar amddiffyn rhag trychinebau ac ymateb i drychinebau, a gosod offer a deunyddiau addas mewn Cypyrddau Trychineb ar bob safle; a
- chlustnodi cyrff allanol y gellir defnyddio eu gwasanaethau mewn sefyllfaoedd o argyfwng.
4. CASGLIAD
Bydd gofal a chadwraeth y casgliadau’n bwysicach na dim i ni ym mhob mater o ran caffael a defnyddio gwrthrychau neu sbesimenau.













