Eglwys Sant Teilo
Stori'r Murluniau
Pwy oedd yr arlunwyr gwreiddiol?
Does neb yn gwybod, ond credwn mai gwaith arlunwyr teithiol neu leol sydd yma. Efallai iddynt weithio ar gomisiwn i awdurdodau eglwysig a mynachaidd, neu iddynt gael eu talu gan gynulleidfaoedd eglwysig lleol. Cafodd rhai darluniau eu copïo o brintiau o dorluniau pren ffasiynol y dydd.

Pa fath o baent oedd ar gael?
Defnyddiai'r arlunwyr liwiau a wnaed o fwynau naturiol; gallai rhychwant eu lliw amrywio o borffor a choch i felyn. Gellid creu mwy o liwiau trwy gymysgu'r rhain gyda gwyn (wedi'i wneud o galch) neu ddu (wedi'i wneud o huddygl neu olosg). Yn achlysurol, defnyddid lliwiau drutach: glas (wedi'i wneud o lapis laswli); coch (wedi'i wneud o sinabar); dalennau aur ac arian.
Sut oedd yr artistiaid yn peintio ar y muriau?
Amlinellwyd y dyluniau ar y plaster ac ysgeintiwyd y muriau â dŵr cyn eu peintio. Defnyddiai'r artistiaid ddefnyddiau organig i rwymo'r cyfan a chreu'r paent, pethau fel llaeth enwyn, melynwy neu olew had llin.
Sut ddaethom ni o hyd i'r murluniau?
Yn yr 1980au cynnar sylwyd ar ddarnau o liw o dan y plaster ar y waliau mewnol. Dyma ddarganfod murluniau anhygoel o'r Canol Oesoedd.
Pa mor hen ydynt?
Darganfuwyd sawl haenen o furluniau. Mae'r cynharaf yn dyddio o tua 1350 a'r diweddaraf yn dyddio o 1790.
Sut y dadorchuddiom ni'r murluniau?
Cafodd y calch oedd yn gorchuddio'r murluniau ei grafu i ffwrdd. Defnyddiwyd ffleimiau meddygol i wneud hyn. Roedd un llun ar ben un arall. Roedd hyn yn achosi problemau, gan fod rhaid dinistrio'r haenen uchaf er mwyn datgelu'r murluniau oddi tano. Cadwyd y peintiadau cynharaf fel rheol gan fod llai o enghreifftiau o'r rhain yng Nghymru. Wrth gwrs, cofnodwyd a thynnwyd llun o bob haenen yn ofalus wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.
Pam wnaethom ni symud y murluniau?
Erbyn haf 1984 doedd dim to ar yr Eglwys, ac roedd ar fin cael ei dynnu i lawr. Penderfynwyd symud y murluniau cyn dechrau'r gwaith hwn. Roedd y wobr yn syfrdanol, gyda dros 15 medr sgwâr o furluniau yn cael eu datgelu.







