Eglwys Sant Teilo
Ymweld ag Eglwys Sant Teilo
Mae Eglwys Sant Teilo 'nawr yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Mae cyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd y safle i'w cael yma.
Mae Eglwys Teilo Sant yn adeilad arbennig, sydd newydd ei ychwanegu i gasgliad Sain Ffagan. Os hoffech drefnu ymweliad grwp, neu ymweliad ysgol, gallwch wneud hyn ar y ffôn trwy'r Adran Addysg ar (029) 2057 3403.
Mae Eglwys Sant Teilo ar agor i'r cyhoedd yn ystod oriau agor yr amgueddfa. Mae croeso i chi alw yn ystod yr amser hwn, er, bydd yr adeilad ar gau am gyfnodau byr ar gyfer gweithgareddau arbennig.
Nodwch ein bod yn cadw'r hawl i gau orielau ac adeiladau heb rybudd ar gyfer gwaith cadwraeth; os fyddwch yn teithio i weld un gwrthrych neu adeilad arbennig, ffoniwch i weld ei fod ar gael cyn gwneud siwrne arbennig.







