Eglwys Sant Teilo
Pwy oedd Teilo?
Ganed Teilo yn Sir Benfro tua 480OC. Roedd yn un o ‘Seintiau Cymru’ oedd yn byw yr un adeg â Phadarn a Dewi.
Mae anturiaethau Teilo wedi'u cerfio ar ddarn o dderw Gymreig pum metr o hyd yn yr amgueddfa. Bu'r Prif Saer wrthi am dri mis yn ei gynllunio a'i gerfio. Cafodd ei euro'n ofalus wedyn gyda dalenni aur ac arian.
Cliciwch yma i weld y cerfiad a darllen stori Teilo.
Roedd Teilo'n sant poblogaidd iawn - ac erbyn yr oesoedd canol, roedd dros ddeg ar hugain o eglwysi a phentrefi ledled Cymru a Llydaw wedi cymryd ei enw.
Symudwyd Eglwys Sant Teilo i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru o Landeilo Tal-y-bont; ar gyrion Pontarddulais, ger Abertawe. Mae addolwyr o Bontarddulais yn dal i ddod i'r Eglwys bob mis Chwefror i ddathlu dydd Sant Teilo.
Ni allwn fod yn sicr a fu Teilo ei hun yn yr eglwys erioed. Mae tystiolaeth bod Cristnogion wedi bod yn addoli ar y safle ymhell cyn adeiladu'r eglwys bresennol.
Darganfuwyd carreg gerfiedig pan aethom ati i symud yr eglwys – roedd wedi'i chuddio y tu mewn i un o'r muriau. Mae arbenigwyr yn dweud bod y cerfiad – croes ar darian – yn perthyn i'r 7fed-9fed ganrif O.C. Fe'i gelwir yn ‘Carreg Gavin’, ar ôl y saer maen a’i ffeindiodd.







