Addysg yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Addysg: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Croeso i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ac i hanes cyfraniad Cymru i ddiwydiant a blaengaredd y gorffennol, presennol a'r dyfodol.
Gallwn ddarparu sesiynau ar gyfer amrywiaeth eang o ddysgwyr, o ddisgyblion Cyfnod Sylfaenol i fyfyrwyr prifysgol.
Rydym yn cynnig cyfleoedd i:
- ddod a myfyrwyr i astudio yn eich ffordd ac ar eich cyflymdra eich hun trwy ymweliadau hunan-arweiniol yn ein horielau rhyngweithiol. Bydd ein Swyddog Addysg yn hapus i'ch cynorthwyo i osod eich amcanion a'ch nodau, ac i awgrymu pa arddangosion i'w defnyddio
- ymuno mewn sesiwn gyda hwylusydd o'r Amgueddfa am ddim ar gyfer disgyblion Cyfnod Sylfaenol a CA 2
- ofyn am sesiwn deilwredig, wedi'i arwain gan aelod profiadol o'r tîm addysg (angen 4 wythnos o rybudd)
- ymuno â diwrnod ymgyfarwyddo i ddysgu am gael y gorau o ddarpariaeth addysgiadol yr Amgueddfa
- gymryd rhan mewn lleoliadau DPP i athrawon.










