Amodau A Thelerau

Byddwn yn cymryd eich bod wedi derbyn yr amodau a’r telerau hyn oni bai eich bod yn rhoi gwybod i ni fel arall cyn pen 7 niwrnod ar ôl eu derbyn.

Ni fydd unrhyw amrywiadau o’r amodau a thelerau hyn yn effeithiol os na roddir cytundeb ysgrifenedig yn hynny o beth.

Byddwn yn cymryd eich bod wedi derbyn yr holl ffotograffau yn gyflawn ac mewn cyflwr da, oni bai eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw anghysondeb neu ddifrod cyn pen 48 awr ar ôl eu derbyn.

Cyflenwi Tryloywluniau

Mae’r holl dryloywluniau’n aros yn eiddo i Amgueddfa Cymru. Eich cyfrifoldeb chi ydynt o’r amser y byddwn yn eu dosbarthu nes y byddwn yn eu derbyn yn ôl.

Y dyddiad dychwelyd yw’r dyddiad olaf y mae’n rhaid dychwelyd y delweddau fel y’i nodir ar y drwydded. Os nad fyddwch yn dychwelyd y deunydd erbyn y dyddiad hwn, byddwn ni’n codi ffioedd ail-logi yn awtomatig.

Rhaid i chi dalu’r ffi llogi a nodwyd ar anfoneb y profforma ac ar unrhyw anfonebau ail-logi hyd nes y derbyniwn y delweddau’n ôl. Nid yw talu’r ffi llogi’n rhoi’r hawl i chi gadw unrhyw ddelwedd ar ôl ei dyddiad dychwelyd.

Rhaid i chi roi gwybod i ni’n ysgrifenedig ar unwaith am unrhyw golled neu ddifrod.

Cyflenwi Delweddau mewn fformat digidol

Mae unrhyw ddelweddau digidol yn aros yn eiddo i Amgueddfa Cymru. Rydych chi’n cytuno i ddinistrio pob delwedd ddigidol ar ôl cwblhau’r rhediad cynhyrchu neu pan fo’r drwydded yn dirwyn i ben. Mae pob CD yn aros yn eiddo i Amgueddfa Cymru ac yn ddarostyngedig i’r un amodau dychwelyd neu golli â’n tryloywluniau.

Defnyddio Delweddau

Ni cheir torri allan, torri i lawr neu ddifrodi delweddau o’n casgliadau. Gwaherddir hyn yn llwyr heb ein caniatâd ysgrifenedig.

Gwaherddir copïo delweddau o’n casgliadau o lyfrau neu ddeunyddiau eraill yn llwyr a bydd gwneud hynny’n arwain at gosb o 30% o gyfanswm eich anfoneb.

Amrywiol

Ni allwn gyflenwi tryloywluniau i gwmnïau neu unigolion sy’n gweithredu gwasanaeth llogi/gwerthu ffotograffau.

Ni chaniateir gwneud copïau dyblyg o dryloywluniau/CD o dan unrhyw amgylchiadau. Ni ddylid storio delweddau’n electronig na’u storio o gwbl.

Cedwir yr hawl i wrthod caniatáu cais pellach gan gyhoeddwr os nad yw’r safon atgynhyrchu wedi bod o ansawdd digon uchel.

Rhaid anfon copi o’r cyhoeddiad ar gyfer archif yr Amgueddfa Cymru ar y dyddiad cyhoeddi.

Mae’r holl hawliau a chaniatâd a roddir yn gyffredinol.

Rhoddir benthyg delweddau i chi ar gyfer y cais a nodir ac fe’u hanfonebir yn unol â hynny. At y diben hwnnw’n unig y ceir defnyddio’r ddelwedd/au. Os oes angen defnydd pellach, rhaid anfon cais ysgrifenedig at y Swyddog Trwyddedu Delweddau.

Ni chewch roi benthyg y ddelwedd i drydydd parti heb ganiatâd y Swyddog Trwyddedu Delweddau.

Rhaid i bob atgynhyrchiad gynnwys llinell gydnabod Amgueddfa Cymru, enw’r artist a theitl y gwaith. Y llinell gydnabod, oni nodir fel arall, yw Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pwy y dylech gysylltu ag ef i geisio caniatâd hawlfraint. Eich cyfrifoldeb chi yw ceisio caniatâd a thalu ffi i berchennog yr hawlfraint os bydd angen. Rhaid i ni gael copi o’r caniatâd ysgrifenedig cyn y gallwn ryddhau’r ddelwedd.

Taliadau

Rhaid talu cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad a nodir ar yr anfoneb. Bydd torri’r telerau hyn yn arwain yn awtomatig at ddiddymu unrhyw ostyngiadau neu drefniadau arbennig, a chodir ffioedd ar y gyfradd gymwys uchaf.

Rydym yn derbyn sieciau a chardiau credyd. Dylech ysgrifennu sieciau at Fentrau Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru Cyf. Cofiwch gynnwys TAW a’r ffi dosbarthu, postio a phecynnu.

Rhaid i gwsmeriaid o wledydd yr UE dalu TAW heblaw eu bod yn gallu darparu rhif cofrestru TAW.

Rhaid gwneud taliadau o dramor mewn £ Sterling a gellir eu gwneud drwy drosglwyddiad banc, ceir manylion ar gais. RHAID i daliadau drwy drosglwyddiad banc gynnwys rhif ein hanfoneb.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.