Archwilio Gwely'r Môr - CD-ROM am ddim
Byddwch yn wyddonydd morol ac archwiliwch Rhan Allanol Môr Hafren.
Ar sail data biolegol a daearegol a gasglwyd gan Amgueddfa Cymru ac Arolwg Daearegol Prydain.
Dyma CD llawn adnoddau a llawn hwyl. Gadewch i'ch disgyblion archwilio gwely'r môr yn ein hamgylchedd rhithwir a phrofwch eu gwybodaeth gyda'r gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm. Mae cynlluniau gwersi perthnasol, gweithgareddau ac adnoddau eraill i'w lawrlwytho ar y CD hefyd.
Nodweddion:
- Y Caffi Cregyn
- Ymchwilio i gynefinoedd ac anifeiliaid
- Nodiadau i athrawon
- Cynlluniau gwersi a gweithgareddau dosbarth
- Pecyn llawn ffeiliau i'w lawrlwytho
- Lluniau a ffotograffau
- Teithiau rithwir, cartwnau a phytiau fideo a llawer iawn mwy...
CD-ROM am ddim: Oherwydd galw mawr, mae prinder gyda ni erbyn hyn o'r CD-ROM Explore the Sea Floor. Ond mae gyda ni gyflenwad o DVD-ROMau sy'n cynnwys fersiwn ddiweddaraf y CD-ROM Explore the Sea Floor (yn ogystal â gwybodaeth wyddonol ar y Môr Hafren allanol).
I ofyn am DVD-ROM am ddim gadewch eich cyfeiriad post llawn (yn anffodus, nid ydym yn gallu anfon i gyfeiriadau tu allan i Brydain), trwy e-bost.
Noder: Os nad oes gyriad DVD-ROM yn eich cyfrifiadur gadewch i ni wybod a danfonwn ni CD-ROM i chi.


