Geirfa
AA - Asiantaeth yr Amgylchedd
AAA - Ardal Amddiffyn Arbennig
ADP - Arolwg Daearegol Prydain
Adnewyddadwy - Rhywbeth sy'n cael ei adnewyddu, mae ffynonellau ynni adnewyddadwy yn cynnwys pethau fel ynni'r gwynt, ynni solar ac ynni'r tonnau
Adnodd - Adnodd yw rhywbeth mae pobl yn ei ddefnyddio i wella ansawdd bywyd, fel bwyd, gwybodaeth ac agregau
AGA - Ardal Gadwraeth Arbennig
Agregau - Pob math o ddeunyddiau, fel tywod, graean neu gerrig mâl naturiol sy'n cael eu defnyddio yn y diwydiant adeiladu. Er enghraifft: concrit, asffalt a hyd yn oed pyllau tywod
Amgylchedd - Lle mae organeb yn byw a'r amodau sy'n effeithio arni
Amrywiaeth - Nifer ac amrywiaeth pethau, gweler bioamarywiaeth
Anemoni - Anifail di-asgwrn-cefn morol sy'n byw ar greigiau ac sy'n perthyn i gwrelau a slefrod môr
Anifail - di-asgwrn-cefn - Anifail heb asgwrn cefn
Arolwg - Proses o gasglu gwybodaeth er mwyn astudio rhywbeth
Atgenhedlu/Epilio - Y broses sy'n cynhyrchu aelodau newydd o'r boblogaeth
Banc tywod - Banc neu gefnen o dywod o dan y môr sy'n dod i'r wyneb pan fo'r llanw'n isel. Caiff rhai banciau tywod eu defnyddio fel ffynhonnell agregau (gweler agregau)
Benthig - Nifer ac amrywiaeth yr anifeiliaid sy'n byw ar, ac o dan wely'r môr
Bioamrywiaeth - Nifer ac amrywiaeth y planhigion ac anifeiliaid
Bioleg - Astudio popeth byw
Biolegydd Morol - Rhywun sy'n astudio planhigion, anifeiliaid ac organebau morol - eraill a sut maen nhw'n rhyngweithio â'r amgylchedd
BMAPA - Cymdeithas Cynhyrchwyr Agregau Morol Prydain
Bryosoad - Anifail morol sy'n cynnwys coloni bychan bach o unigolion ac sy'n byw ar greigiau neu wymon. Mae'r rhain yn cynnwys Matiau Môr a Gwymon Corniog
BWEA - Cymdeithas Ynni Gwynt Prydain
Bŵmiwr - Offeryn sy'n cael ei dynnu y tu ôl i long ymchwil ac sy'n anfon sain i lawr i wely'r môr. Caiff y tonnau sain eu hadlamu nôl i dderbynnydd o'r enw hydroffon. Caiff y data ei recordio a'i brosesu ar fwrdd y llong. Mae hyn yn gadael i'r daearegwyr weld sut ddaeareg sydd o dan wely'r môr (gweler Hydroffon)
Cadwraeth - Y ffordd rydyn ni'n ceisio gofalu am y byd a'r amgylchedd o'n cwmpas, gan gynnwys cynefinoedd a rhywogaethau
Cadwyn - fwyd - Ffordd o ddangos sut mae ynni'n cael ei drosglwyddo o blanhigion ac anifeiliaid mewn cynefin, gan gynnwys pwy sy'n bwyta pwy
Camera - Lucida - Offeryn y mae gwyddonwyr yn ei roi ar ficrosgop i'w helpu nhw i dynnu llun o beth maen nhw'n ei astudio
Carreg frig - Lle mae'r graig yn codi dros wyneb y tir neu wely'r môr
Casgliadau - Grŵp o bethau ag un peth yn gyffredin sydd wedi cael eu hel at ei gilydd am reswm arbennig. Mae amgueddfeydd yn cadw casgliadau o bethau fel lluniau, sbesimenau anifeiliaid, hen bethau a ffosiliau
CCGC - Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Cerrynt - Llif dŵr i gyfeiriad arbennig
Cigysydd - Anifail sy'n bwyta dim ond cig (h.y. anifeiliaid eraill)
Clogfaen - Craig ar ei phen ei hun sy'n fwy na chobl ac yn fwy na 256 mm o ddiamedr
Cnidariad - Grŵp o anifeiliad morol di-asgwrn-cefn â chelloedd pigo, fel anemoniau, cwrelau a slefrod môr
Cobl - Darn o graig sy'n llai na chlogfaen ac yn fwy na cherigyn. Mae'n amrywio o ran maint o rhwng 64mm a 256mm o ddiamedr
Coloni/ Cytref - Mewn bioleg, organebau o'r un fath sy'n byw gyda'i gilydd mewn grŵp
Crafanc - Offeryn sy'n cael ei ddefnyddio i gymryd sampl bach o wely'r môr. Gallwn ni ddefnyddio'r sampl i weld pa fath o sediment sydd ar wely'r môr a pha anifeiliaid sy'n byw yno
Craig igneaidd - Craig sydd wedi oeri o fagma a grewyd yn ddwfn o dan y ddaear
Craig metamorffaidd - Craig sydd wedi cael ei newid yn ffisegol a/neu'n gemegol gan wres a/neu bwysedd. Enw'r broses yw metamorffedd ac mae'n digwydd yn ddwfn yn y Ddaear
Craig Sedimentaidd /Gwaddodol - Craig wedi ei ffurfio o ronynnau o sediment wedi eu gwasgu at ei gilydd ar y tir neu o dan y dŵr
Cramennog - Grŵp o anfeiliaid morol di-asgwrn-cefn â sgerbwd allanol caled a choesau cymalog, fel crancod, cimychiaid, cregyn llong a chwain y traeth
Crych tywod - Ton tywod bach ychydig gentimetrau o uchder. Gallwch weld crychau tywod ar draeth - tywod ar ôl i'r llanw fynd allan ac ar donnau a banciau tywod mwy ar wely'r môr
Cymesuredd - Rhywbeth â dwy ochr sydd yn union yr un fath. Os rhowch chi ddrych yn y canol, bydai'r adlewyrchiad yn edrych yr un fath. Anghymesur yw gwrthwyneb cymesur. Mae gan echinodermau gymesuredd o bump, sy'n golygu pe baech chi'n rhoi drych unrhyw le yng nghanol yr anifail, byddai ei adlewyrchiad yn edrych yr un fath mewn pump lle
Cynaliadwy - Rhywbeth y gallwn ni ei gynnal fel adnodd at y dyfodol. Rhywbeth y gallwn ni barhau i'w ddefnyddio heb iddo ddod i ben e.e. ynni'r gwynt
Cynefin - Y lle neu'r amgylchedd lle mae anifail neu blanhigyn yn byw e.e. malwen mewn gardd, neu aderyn mewn coedwig
Cynhyrchydd - Plahigion ac organebau sy'n gallu cynhyrchu eu hynni eu hunain o olau'r haul. Enghreifftiau o gynhyrchwyr yn y môr yw gwymon a ffytoplancton
Chwistrell Fôr - Anifail morol yw hwn sy'n byw ar greigiau. Mae'r rhai ifanc yn greaduriad bach fel penbyliaid sy'n nofio yn y môr cyn glynu wrth wely'r môr. Mae asgwrn cefn cyntefig ganddyn nhw o'r enw notogordyn, ac mae chwistrellod môr yn perthyn yn agos i anifeiliaid ag asgwrn cefn
Dadansoddi - sediment - Dull y mae gwyddonwyr yn ei ddefnyddio i ganfod pa fath o sediment sydd ar wely'r môr h.y. tywod, graean neu fwd
Daearegydd - Gwyddonydd sy'n astudio daeareg
Daeareg - Astudiaeth o'r ddaear
DNA - Asid Deocsyribonwclaig, sef beth sy'n creu popeth byw ar y ddaear
Dosbarth - Categori ar gyfer grŵp o organebau (fel planhigion neu anifeiliaid) â rhywbeth yn gyffredin (gweler tacsonomeg)
Dosbarthiad - Y ffordd mae gwyddonwyr yn grwpio anifeiliaid a phlanhigion tebyg
Dwygragennog - Math o folwsg â chragen mewn dwy ran, fel Cocos, Misglod a Chregyn Abra
Echinoderm - Grŵp (Ffylwm) o anifeiliaid morol di-asgwrn-cefn â chymesuredd o bump fel arfer, fel sêr môr, môr-ddraenogod, chwerwddyfroedd y môr a sêr pluog
Ecoleg - Astudio sut mae anifeiliaid, planhigion ac organebau eraill yn rhyngweithio â'r amgylchedd
Ecoseiniwr Aml-belydr - Offeryn sy'n anfon pelydrau sain i wely'r môr o dan y llong ac yn - eu derbyn nôl. Mae'r offeryn Aml-belydr yn derbyn y signalau, yn eu prosesu ar gyfrifiadur ac yn eu troi'n ddyfnderoedd dŵr i greu mapiau bathymetrig (gweler map bathymetrig)
Eigionegydd - Rhywun sy'n astudio'r moroedd a'r ffordd y mae planhigion ac anifeiliaid morol yn rhyngweithio â'r amgylchedd
EN - English Nature
Enw cyffredin - Dyma'r enw rydyn ni'n eu defnyddio bob dydd i ddisgrifio anifeiliaid, e.e. Cranc Coch neu Cragen Foch. Ond mae gan anifeiliaid enwau gwyddonol hefyd (gweler enw gwyddonol)
Enw generig - Rhan gyntaf enw gwyddonol organeb (gweler enw gwyddonol ac enw rhywogaeth)
Enw gwyddonol - Yr enw gwyddonol y mae gwyddonwyr yn ei roi i blanhigion ac anifeiliaid, mewn Groeg neu Ladin fel arfer. Gall yr enw ddod o'r fan lle ffeindiwyd yr organeb, neu trwy ddisgrifio sut mae'n edych. Mae dau ran i'r enw, enw generig ac enw penodol, ond mae gan y rhan fwyaf enw cyffredin hefyd
Enw rhywogaethol - Ail ran enw gwyddonol organeb (gweler enw generig ac enw gwyddonol)
Ffotosled - Offeryn sy'n cael ei dynnu y tu ôl i long ymchwil gan wneud fideo a chymryd ffotograffau o wely'r môr
Ffurfwelyau - Siapau yn y sediment ar wely'r môr a gynhyrchwyd gan y llanw a'r cerrynt, fel tonnau tywod a rhubanau tywod
Ffylwm - Grŵp o blanhigion neu anifeiliaid sy'n perthyn yn agos i'w gilydd, fel molysgiaid ac echinodermau
Ffytoplancton - Organebau bychain bach sy'n arnofio yn y môr ac yn cynhyrchu eu hynni eu hunain gan ddefnyddio golau'r haul, fel y planhigion y tir
Genws - Grŵp o rywogaethau o blanhigion neu anifeiliaid sy'n perthyn y agos ac sydd â rhywbeth yn gyffredin (gweler Enw generig)
GPS - System Lleoli Byd-eang. Mae'r system yma'n defnyddio signalau o loerenni yn y gofod i wybod ble yn union ydyn ni
Graean - Sediment sy'n fwy na thywod (> 2 mm); mae'n gallu cynnwys cerrig, cobls a chlogfeini
Gwely'r môr - Gwaelod y môr
Hollysydd - Anifail sy'n bwyta planhigion ac anifeiliaid
Hydroffon - Offeryn sy'n cael ei dynnu y tu ôl i long ymchwil, sy'n derbyn signalau sain o wely'r môr trwy'r dŵr (Gweler Bŵmiwr)
Hydroid - Math o anifail morol di-asgwrn-cefn (cnidariad) sy'n perthyn i anemonïau, cwrelau a slefrod môr. Mae llawer ohonyn nhw'n edrych fel planhigion, ond anifeiliaid ydyn nhw
Is-ddosbarth - Grŵp mawr o blanhigion neu anifeiliaid sy'n perthyn yn agos i'w gilydd
JNCC - Cyngor Cadwraeth Natur
LlCC - Llywodraeth Cynulliad Cymru
Lleuen fôr - Math o folwsg sy'n byw ar greigiau. Mae ganddo gragen blatiog fel arfwisg.
Llygredd - Rhyddhau pethau fel cemegolion a deunyddiau sy'n gallu niweidio'r amgylchedd, e.e. sbwriel ac olew
Llysysydd - Anifail sy'n bwyta dim ond planhigion
Malurion - Gweddillion anifeiliaid a phlanhigion marw sy'n mynd yn ronynnau bach yn y môr. Mae'r rhain yn ffynhonnell fwyd pwysig i lawer o anifeiliaid morol di-asgwrn-cefn.
Malurysor - Anifail sy'n bwyta malurion
Map bathymetric - Map o wely'r môr sy'n dangos y dyfnderoedd. Mae'r math yma o fap yn debyg i fap topograffig ar y tir
Map daearegol - Map sy'n dangos y creigiau a'r sedimentau ar wyneb y Ddaear, ar y tir ac o dan y môr. O'r map, gall daearegydd weld llun 3-dimensiwn o'r creigiau
MarLIN - - Rhwydwaith Gwybodaeth Bywyd Morol Prydain ac Iwerddon
Magma - Craig tawdd (hylifol) yn y ddaear. Rydyn ni'n gwekd magma paf od llosgfynyddoedd yn ffrwydro ac mae'n boeth iawn
MBA - Cymdeithas Bioleg Morol y Deyrnas Unedig
MCS - Cymdeithas Gadwraeth Forol
Megagrych - Crych tywod anferth (gweler crych tywod)
Microsgop - Offeryn y mae gwyddonwyr yn ei ddefnyddio i edrych yn fanwl ar bethau fel planhigion ac anifeiliaid
Microsgop - Sganio Electronau (SEM) - Microsgop pwerus sy'n gallu chwyddo pethau er mwyn iddyn nhw edrych hyd at 10,000 gwaith eu maint iawn. Maen nhw'n galluogi gwyddonwyr i weld strwythur pethau'n fanwl
MNR - Gwarchodfa Natur Morol
Molwsg - Grŵp i anifeiliaid di-asgwrn-cefn heb segmentau. Mae gan y rhan fwyaf gregyn, fel Cocos, Misglod a Chregyn Moch, ond does dim cregyn gan eraill, fel Môr-lewys ac Octopysau
Monitro - Gwylio, profi a goruchwylio rhywbeth dros gyfnod i weld a oes newid wedi bod. Er enghraifft astudio cynefinoedd ac anifeiliaid gwely'r môr i weld a oes newid wedi bod o ran niferoedd a dosarthiad, er mwyn i ni weld beth sy'n achosi'r newidiadau
Morffoleg - Disgrifio anifail neu blanhigyn yn nhermau siâp a maint
Morol - Rhywbeth sy'n perthyn i'r môr
MPA - Ardal Amddiffyniad Morol
Mwd - Sediment o gymysgedd o silt a chlai gyda gronynnau llai na 0.0625mm o ddiamedr – mae'n amhosibl gweld y gronynnau unigol gyda'r llygad noeth
Mwydyn - gwrychog - Mwydod sy'n perthyn i fwydod cyffredin a gelod, maen nhw'n byw yn yr amgylchedd morol, yn segmentog ac mae ganddynt wrych i symud neu i lynu wrth bethau
Nemertea - Grŵp o anifeiliaid morol di-asgwrn-cefn tebyg i fwydod yr ardd a mwydod gwrychog, ond nid mwydod go iawn ydyn nhw am nad ydyn nhw'n segmentog
Nematoda - Grŵp o anifeiliaid di-asgwrn-cefn tebyg i fwydod yr ardd a mwydod gwrychog, ond nid mwydod go iawn ydyn nhw am nad ydyn nhw'n segmentog. Maen nhw fel arfer yn llai na mwydod gwrychog
Organeb - Peth byw, fel planhigyn neu anifail
Peiriannydd - morol - Rhywun sy'n defnyddio gwybodaeth wyddonol i ddatrys problemau ymarferol
Plancton - Organebau bychain bach sy'n arnorfio neu'n nofio yn y môr, gallan nhw fod yn blanhigion (ffytoplancton) neu'n anifeiliaid (sŵplancton)
Pysgodyn - tynnu - Gweler sonar sganio o'r ochr
RhRhes tywod - Ffurfwely hir ac isel, fel arfer yn syth neu ychydig bach yn igam-ogam Fel rhuban tywod tenau iawn
Rhidyll - Cynhwysydd â rhwyd weiar ar y gwaelod i wahanu gronynnau o sediment o wahanol feintiau. Mae gan wahanol fathau o ridyll dyllau o wahanol feintiau. Wrth ddadansoddi sediment, caiff nifer o wahanol ridyllau eu rhoi ar ben ei gilydd i ddidoli'r gwahanol fathau o sediment
Rhuban - Ffurfwely hir ac isel, fel arfer yn syth neu ychydig bach yn igam-ogam Fel rhes tywod, ond yn fwy. Llai na 1m o drwch fel rheol
Rhywogaeth - Rhywogaethau yw planhigion ac anifeiliaid. Grŵp o organebau sy'n edrych yr un fath ac sy'n gallu atgenhedu â'i gilydd yw rhywogaeth
Sbesimen - Mewn cyd-destun bioleg, un planhigyn neu anifail sy'n cael ei astudio i gynrychioli rhywogaeth yw sbesimen. Mae llawer o sbesimenau i wyddonwyr eu hastudio mewn casgliadau
Sborionwr - Math i anifail sy'n bwyta gweddillion anifeiliaid neu blanhigion y maen nhw'n eu ffeindio yw sborionwr, ond dydyn nhw ddim yn lladd dim ei hunan
Sbwng - Grŵp (Ffylwm) o anifeiliaid morol di-asgwrn-cefn sy'n cael eu casglu i bobl eu defnyddio fel sbwng naturiol yn y bath
Sediment/ Gwaddod - Deunydd fel tywod, graean a mwd sydd wedi cael ei ffurfio wrth i greigiau falu, ac sy'n gallu cael ei symud gan y tonnau a'r gwynt. Sediment yw'r rhan fwyaf o wely'r môr
Seren bluog - Math o anifail morol di-asgwrn-cefn – gyda breichiau tebyg I ganghennau. Mae'n edrych fel planhigyn ond anifail yw hi sy'n perthyn i fôr-ddraenogod, sêr môr a chwerwddyfroedd y môr (echinodermau)
Siglwr - rhidyll - Peiriant sy'n siglo pentwr o ridyllau am gyfnod arbennig er mwyn dadansoddi sedimentau. Mae hyn yn helpu i'r gronynnau o wahanol feintiau syrthio i'r rhidyllau cywir
SoDdGA - Safle o Ddiddordeg Gwyddonol Arbennig
Sonar sganio o'r ochr - Mae sonar sganio o'r ochr yn anfon tonnau sain i wely'r môr, yn eu derbyn nhw nôl ac yn eu cofnodi fel ffotograff. Mae hyn yn gadael i ddaearegwyr weld sut mae wyneb gwely'r môr yn edrych. Mae daearegwyr yn defnyddio'r dechneg yma i fapio'r graig, y sediment a'r ffurfwely. Enw arall ar y sonar sganio o'r ochr yw ‘pysgodyn tynnu' am ei fod e'n cael ei dynnu y tu ôl i'r llong ymchwil
Sŵoleg - Astudio anifeiliaid
Tacsonomeg - Gwyddor enwi a disgrifio rhywogaethau
Tagell - Y rhan o'r anifail sy'n gadael iddo anadlu o dan y dŵr. Mae gan fwydod gwrychog, pysgod a chrancod degyll
Tanwydd ffosil - Tanwydd naturiol y gellir ei losgi i greu ynni, fel glo, olew a nwy. Cafodd y rhain eu cynhyrchu o olion planhigion ac anifeiliaid dros filiynau o flynyddoedd. Mae llosgi'r mathau yma o danwydd yn ryddhau llygredd (nwyon tŷ gwydr) sy'n cyfrannu at gynhehsu byd-eang. Dydyn nhw ddim yn ffynonellau ynni adnewyddadwy
Teimlydd - Strwythurau y mae rhai anifeiliaid, fel pryfed, mwydod gwrychog a chramenogion, yn eu defnyddio i demlo beth sydd o'u cwmpas
Tentacl /Teimlydd - Strwythurau hir a thenau i fwyta, anadu, dal bwyd, atgenhedlu neu deimlo. Mae gan lawer o anifeiliad morol di-asgwrn-cefn dentaclau, fel mwydod gwrychog, môr-lewys ac anemonïau
Teulu - Grŵp o blanhigion neu anifeiliaid â rhywbeth yn gyffredin sy'n perthyn yn agos i'w gilydd
Teyrnas - Grwpiau mawr o organebau fel planhigion (Teyrnas: Plantae), anifeiliaid (Teyrnas: Animalia) a Ffwng (Teyrnas: Fungi e.e. madarch)
Ton sain - Ton sy'n anfon sain, fel y seiniau sy'n cael eu hanfon gan sonar sganio o'r ochr neu bŵmiwr
Ton tywod - Term cyffredinol am ffurfwelyau tebyg o donnau yn y tywod. Mae'r rhain yn gallu bod yn llai nag 1m neu hyd yn oed yn fwy nag 20m. Dydyn nhw ddim fel arfer yn gymesur (mae'r ddwy ochr yn wahanol, gweler cymesuredd), ac mae un ochr yn aml yn fwy serth na'r llall. Gall tonnau tywod orchuddio rhannau helaeth o wely'r môr
Tonfedd - Y pellter rhwng yr un pwynt ar ddau don ar ôl ei gilydd
Topograffeg - Siâp, maint a threfn y tir
Traethlin - Rhes o falurion (gwastraff) fel gwymon, broc môr, rhaffau, rhwydi pysgot a sbwriel sy'n cael ei olchi i fyny ar y traeth pan fo'r tonnau a'r llanw'n uchel. Mae'r llanw yn eu gadael nhw yna wrth fynd allan
Trawsdoriad - Torri trwy rywbeth i ddangos sut mae'n edrych trwy'r canol
Treilliwr - Offeryn sy'n cael ei ddefnyddio i gasglu'r anifeiliaid mwy ar wely'r môr fel pysgod, octopysau, llygod môr a chregyn. Mae'r llongau'n aml yn eu tynnu nhw dros bellteroedd mawr. Mae pysgotwyr yn defnyddio treillwyr hefyd
Tyrbelariad - Grŵp o anifeiliaid morol di-asgwrn-cefn o'r enw mwydod lledog, ond nid mwydod go iawn ydyn nhw fel mwydod yr ardd a mwydod gwrychog am nad ydyn nhw'n segmentog
Tywod - Gronynnau o sediment rhwng 0.0625mm a 2mm o ddiamedr. Mae gronynnau tywod yn fwy na mwd ond yn llai na graean
Ymwthiad creigiog - Craig igneaidd a gr”ewyd gan fagma yn ddwfn yn y ddaear. Mae'r graig o'i gwmpas yn inswleiddio'r magma ac yn gadael iddo oeri'n araf dros gannoedd o filoedd o flynyddoedd. Mae'r graig yn y canol yn galed iawn, ond mae'r graig o'i chwmpas yn fwy meddal ac yn treulio (erydu) gan adael y graig yn dangos dros ben wely'r môr
Ynni solar/Ynni'r haul - Ynni sy'n dod o'r haul ac sy'n cael ei gasglu gan baneli solar. Ynni adnewyddadwy yw hwn. Mae planhigion a chynhyrchwyr yn casglu ynni'r haul hefyd
Ystadegau - Math o fathemateg sy'n cael ei ddefnyddio i ddadansoddi a gwerthuso data







