Eglwys Sant Teilo
Orielau
Mae tipyn i'w weld yn Eglwys Sant Teilo. Dewiswch oriel thematig o'r rhestr isod.
Adeiladu'r Eglwys
Roedd symud eglwys i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru o Bontarddulais yn dasg uchelgeisiol a gymerodd sawl blwyddyn. Mae'r oriel hon yn dangos y broses, o'r 1980au cynnar hyd heddiw.
Yr Adeilad
Dyw hi ddim yn hawdd symud ac ail-adeiladu eglwys ganoloesol. Ewch am sbec i mewn i'r adeilad, i gael golwg ar y pensaernïaeth a'r to derw cerfiedig anhygoel.
Addurniadau - Y Murluniau
Mae'r eglwys heddiw wedi'i chyflwyno fel y gallai fod wedi edrych ym 1520. Cafodd y murluniau y daethom ni o hyd iddynt o dan y plastr eu peintio'r adeg hynny. Dyma eu stori nhw.
Addurniadau - Y Groglofft a'r Sgrîn
Mae'r Groglofft a'r Sgrîn yn Eglwys Sant Teilo'n arbennig iawn. Mae'n gain iawn, wedi'i gerfio a'i addurno yn ofalus iawn. Prif Saer yr amgueddfa, Ray Smith, gynlluniodd a cherfiodd yr holl beth. Allwch chi ei weld e yn yr oriel hon?
Addurniadau - Cerfiadau a Symbolau
Byddai'r eglwys yn llawer mwy na man addoli yn oes Harri'r 8ed, am ei fod yn ganolfan i'r gymuned gyfan. Gellir gweld yr amrywiaeth hyn wedi'i adlewyrchu yn yr holl symbolau, gwrthrychau a cherfiadau sydd i'w canfod dros yr adeilad.
Stori bywyd Sant Teilo
Cerfiad arbennig iawn, bum metr o hyd, yn dangos hanes anturiaethau Teilo. Cafodd ei gerfio a'i gynllunio gan Ray Smith y Saer.
