Y Crefftwyr - Addysg yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Gall yr Adran Ddysgu eich helpu chi i fanteisio i'r eithaf ar eich ymweliad trwy awgrymu adeiladau perthnasol ar gyfer eich ymweliad. Bwciwch i weld crefftwr wrth ei waith.
Gall yr ymweliadau hyn ateb cwestiynau fel 'O ble fyddai'r blawd ym mrechdanau plant Ysgol Maestir yn dod? Pa mor wahanol yw dulliau'r gof o doddi haearn a rhai pobl Oes yr Haearn?'
Os hoffech chi drefnu sgwrs yn yr efail, y felin wlân, y felin flawd neu'r clocsiwr, cofiwch holi wrth drefnu'ch ymweliad.










