Celtiaid Oes yr Haearn - Addysg yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Cyflwyniad i'r Pentre Celtaidd
Cyflwyniad cyffredinol i'r Pentre Celtaidd, gan gynnwys archeoleg y pentref, a ffordd ei drigolion o fyw. Gallwn deilwra'r sesiwn at eich anghenion chi, felly rhowch wybod i ni beth rydych chi'n ei astudio wrth drefnu eich ymweliad.
Bywyd bob dydd yn Oes yr Haearn*
Dewch i gwrdd â Charadog a dysgu rhagor am ffermio a hela, offer ac arfau, a chartrefi a chymdeithas Cymru Oes yr Haearn. Dysgwch sut i ddefnyddio gwerthyd a chogail i wneud breichled wlân a helpwch i adeiladu wal bleth.