Bioamrywiaeth â'r Coedwigoedd - Addysg yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Gweithgareddau dysgu creadigol yn yr awyr agored ar sail coedwigoedd Sain Ffagan.
Cyfarfod â’r Coed – Cam Sylfaen
Defnyddiwch eich synhwyrau i archwilio’r coetir a chreu gwaith celf drwy ddefnyddio deunyddiau naturiol y coetir.
1 awr, dan arweiniad staff yr Amgueddfa
Organebau Cyd-ddibynnol
Archwilio Natur yn Sain Ffagan – CA2
Cymrwch ran mewn helfa bwystfilod bach, ymweld â’r guddfan adar a defnyddio ysbienddrych a chwyddwydr i adnabod bywyd gwyllt y coetir. Hefyd bydd her creu nyth!
1 awr, dan arweiniad staff yr Amgueddfa
Llwybr Bywyd Gwyllt Sain Ffagan – CA2
Defnyddiwch fap a chwmpawd i ddilyn cliwiau ac adnabod bywyd gwyllt Cymru. Dysgu yn yr awyr agored gyda’r bwriad o ddatblygu sgiliau meddwl, cyfathrebu a rhifedd.
1 awr, dan arweiniad athro.
Yn Eich Ysgol
Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion – CA2
Plannwch fylbiau ar dir yr ysgol i astudio newid yn yr hinsawdd. Ymunwch ag ymchwiliad ar draws y DU a gwella sgiliau gwyddoniaeth a rhifyddeg. Am ddim i ysgolion sy’n gwneud cais cyn 24 Gorffennaf.










