Dysgu am ddatblygu cynaliadwy Addysg yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Cyflwyniad i'r Tŷ Gwyrdd

Cymharwch eich ty chi a’r Tŷ Gwyrdd, ein hadeilad ecogyfeillgar. Dysgwch am y nodweddion arbed ynni a’r deunyddiau lleol sy’n helpu i gadw ol troed carbon y ty’n isel.

Cyflwyniad cyffredinol i'r Ty Gwyrdd. Gallwn deilwra'r sesiwn at eich anghenion chi, felly rhowch wybod i ni beth rydych chi'n ei astudio wrth drefnu eich ymweliad.

30 munud, dan arweiniad staff yr Amgueddfa

Byw’n Wyrdd yn y Tŷ Gwyrdd – CA2

Dewch i ddysgu sut mae arbed ynni a lleihau’r llygredd yn eich bywyd bob dydd. Archwiliwch y ty a chwblhau cwis i weld sut mae’r ty’n defnyddio dwr, gwres, golau a thrydan.

1 awr, dan arweiniad staff yr Amgueddfa

Byw’n Gynaliadwy – cwis lluniau – CA2

Archwiliwch y tai traddodiadol yn Sain Ffagan i weld sut oedd pobl yn defnyddio dwr, gwres, golau a thrydan yn y gorffennol.

1 awr, dan arweiniad athro

Byw’n Gynaliadwy – Ddoe, Heddiw ac Yfory (Bagloriaeth Cymru)

Addas i fyfyrwyr sy’n astudio agwedd Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth y Byd ar Fagloriaeth Cymru. Casglwch dystiolaeth a thynnwch ffotograffau i gymharu bywydau pobl yn y gorffennol a’ch bywydau chi heddiw. Ystyriwch yr effaith ar y byd o’n cwmpas a thrafodwch syniadau i greu dyfodol mwy cynaliadwy.

Taith dan arweiniad athro (1 awr) a thaith wedi’i hwyluso yn y Tŷ Gwyrdd (1/2awr)

Gwybodaeth

Map

Sain Ffagan, Caerdydd
Ar agor 10am-5pm bob dydd

Adran addysg:
(029) 2057 3424

Ebostio yr adran addysg

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.