Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a'r Ugeinfed Ganrif Addysg yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Gweithdy Siop y Gwalia

Dewch i weld sut brofiad oedd siopa mewn cymuned ddiwydiannol yn y 1920au.

Diwrnod Golchi gyda Beti Bwt

Cyfle i helpu Beti Bwt i wneud ei golch, cyn dyfodiad y peiriant golchi trydan.

Gweithdy teganau

Cyfle i'r plant brofi eu sgiliau gyda theganau traddodiadol.

Traddodiadau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yng Nghymru

Dewch i weld sut byddai'r Cymry'n dathlu'r Nadolig a'r flwyddyn newydd 'slawer dydd.

Ysgol Maestir*

Cyfle i athrawon a disgyblion gymryd rhan mewn gwers o'r 1890au. *Rhaid i athrawon fynychu'r diwrnod hyfforddi cyn dod.

Y Ffrynt Cartref

Diwrnod o weithgareddau ar sail profiadau faciwî yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys ymweliad â'r 'sinema', 'hyfforddiant' ar ddefnyddio rhai o greiriau'r ffrynt cartref a chyfle i chwarae gyda'r mathau o deganau y byddai'r plant yn chwarae â nhw.

Adrodd straeon:'Y fuwch ar y to'

Cyfle i eistedd o gwmpas y tân yn un o'n ffermdai hanesyddol a chlywed stori sy'n pwysleisio'r gwahaniaethau rhwng bywyd nawr a'r gorffennol.
I gyd-fynd â'r Wythnos Straeon Genedlaethol yn Ionawr 2008.

Gwybodaeth

Map

Sain Ffagan, Caerdydd
Ar agor 10am-5pm bob dydd

Adran addysg:
(029) 2057 3424

Ebostio yr adran addysg

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.