Y Cwricwlwm Cymreig - Addysg yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Cyflwyniad i'r oriel newydd: Oriel 1
Dysgwch am fywyd teuluol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg; gwahanol gredoau Cymru; gwrandewch ar gerddoriaeth Gymreig; cael cyfle i weld offerynnau traddodiadol a chael blas ar rai o orchestion mwyaf Cymru ar y mae chwarae. Gellir teilwra'r daith at eich anghenion chi.
Perthyn yn y Gymru fodern
Gall disgyblion greu eu harddangosfeydd eu hunain i'r oriel trwy ddewis gwrthrychau ac ysgrifennu eu hanesion eu hunain. I ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr am nodweddion diwylliannol, hanesyddol ac ieithyddol Cymru.
Llwyau caru
Bydd y gweithdai'n rhoi cyfle i ddysgu am lwyau caru trwy adrodd straeon a delweddau. Caiff y disgyblion gyfle i gynllunio eu llwyau caru eu hunain yn ystod y sesiwn.
Gemau dyfalu
Cyfle i gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau, gan gynnwys gwisgo i fyny, ffeindio gwrthrychau a gwneud teganau.
Celf
Cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau celf mewn ymateb i arddangosfa Iaith Gyntaf Mary Lloyd Jones.
Straeon Hindwaidd
Cyfle i drafod Sariswati, duwies dysg, a chlywed straeon Hindwaidd yn yr oriel. I gyd-fynd â'rWythnos Straeon Genedlaethol yn Ionawr 2008.
Dathlu Gwyl Ddewi
Dewch i weld enghreifftiau o wisgoedd Cymreig hen a newydd a'u cymharu â dathliadau gwledydd eraill.










