Archwilio Gwely'r Môr!

Mae gwyddonwyr wedi bod yn astudio gwely'r môr yn fanwl o amgylch arfordir Cymru.
Nawr, dyma'ch tro chi….
AM DDIM CD-ROM Rhyngweithiol
Gwaith ymchwil amgylcheddol morol diweddaraf Cymru – yn barod i'w ddarganfod yn yr ystafell ddosbarth ac yn y cartref.
- Byddwch yn wyddonydd morol!
- Archwiliwch ddelwedd rithwir o wely'r môr
- Dewch i gwrdd â'r anifeiliaid sy’n byw yno
- Gweithgareddau difyr perthnasol i'r Cwricwlwm Cenedlaethol
- Tudalen athrawon yn llawn gwybodaeth, cyngor a gweithgareddau ar gyfer y dosbarth. Hefyd adnoddau ar wahân ar gyfer Cyfnod Allweddol 2, 3 a 4.
- Dwyieithog
I archebu'ch copi AM DDIM, e-bostiwch OBC@amgueddfacymru.ac.uk (nid yw'r CD ar gael i'w lawr lwytho ar hyn o bryd)
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ar yr Astudiaeth o Gynefinoedd Morol yn rhan Allanol Môr Hafren


