Addysg yn Amgueddfa Lleng Rhufeinig Cymru - Addysg: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Dewch i weld hanes lle cafodd ei greu!

Mae rhaglen gyffrous o ymweliadau a digwyddiadau ar y gweill yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru dros y flwyddyn ysgol nesaf. Mae'r cyfan am ddim, felly bwciwch yn gynnar er mwyn peidio cael eich siomi.
Ar ôl ennill Gwobr Sandford am ragoriaeth mewn addysg treftadaeth, mae ein rhaglen ar gyfer ysgolion wedi mynd o nerth i nerth...
Ymweliadau Cyffredinol (Cyn-ysgol i Safon Uwch) - Ar gael drwy'r flwyddyn
Dewch i ymweld ag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru i weld sut roedd milwyr byddin gadarn y Rhufeiniaid yn byw 2,000 o flynyddoedd yn ôl.
- Crwydrwch yn yr oriel gyda'i chasgliad o bethau o orffennol Rhufeinig Caerllion.
- Profwch sut beth oedd bywyd i filwyr y lleng yn ein Hystafell Farics.
- Dysgwch ragor am y gymdeithas Rufeinig yn ein sesiynau chwarae rôl ymarferol.
- Ymdrochwch ym Maddonau'r Gaer, profwch naws yr Amffitheatr a chrwydrwch drwy'r Barics, sydd oll yng ngofal Cadw.
Os oes diddordeb arbennig gennych chi, gallwn ni deilwra'ch ymweliad yn ôl eich anghenion (dim mwy na 35 o fyfyrwyr ar y tro).
Ffoniwch yr adran addysg ar (029) 2057 3546 i drefni ymweliad.
Ceir mynediad AM DDIM diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.










