Cynaliadwyedd a SCAN Addysg: Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Peidiwch â Difa'r Ddaear! (Gweithdy ailgylchu)

Helpwch eich disgyblion i feithrin agwedd gyfrifol at ddefnyddio adnoddau ein byd - cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Cymrwch ran mewn gweithgaredd didoli sbwriel ymarferol.

Methu ymweld â ni? Lawrlwythwch adnoddau i'w defnyddio yn y dosbarth neu trefnwch i swyddog addysg ymweld â'ch ysgol trwy fynd i'r wefan Scan.

Helfa Falwod!

Beth am ddysgu mwy am y creaduriaid bach yma. Edrychwch yn agosach ar rai o'n malwod lleol ac 'estron'. Bydd y gweithdy hwn yn galluogi disgyblion i adnabod rhywogaethau lleol a chasglu gwybodaeth ar dir yr ysgol ei hun.

Methu ymweld â ni? Lawrlwythwch adnoddau i'w defnyddio yn y dosbarth neu trefnwch i swyddog addysg ymweld â'ch ysgol trwy fynd i'r wefan Scan.

Gweithdy Dawns 'Plant y Dŵr'

Bydd plant yn animeiddio rhannau o'r llyfr plant "Plant y Dŵr". Cewch CD-Rom trawsgwricwlaidd 'Plant y Dŵr', sy'n cymharu bywyd heddiw â bywyd yn Oes Fictoria, am ddim.

Bydd y gweithdy'n para diwrnod cyfan gyda'n harbenigwr dawns. Mae nifer o ysgolion wedi mynd ati i gynnal perfformiad cyhoeddus er mwyn creu incwm ar ôl y gweithdy.

Gwybodaeth

Map

Parc Cathays, Caerdydd
Ar agor 10am–5pm Mawrth–Sul (Orielau yn cau am 4:45pm)

Adran addysg:
(029) 2057 3240

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd