Sesiynau a Gweithdai

Mae pob un o’n Horielau Hanes Natur ar agor erbyn hyn, gan gynnwys orielau newydd sy’n edrych ar waith tu ôl lenni’r Amgueddfa, a bywyd y môr.

Rydym yn cynnig rhaglen o weithgareddau gwyddoniaeth amrywiol a chyfoethog sy’n berthnasol i sawl agwedd o’r cwricwlwm. Mae’r sesiynau canlynol ar gael ar hyn o bryd:

Gweithdai Cynradd

Ditectifs y Deinosoriaid (CA2)

Gall disgyblion droi’n dditectifs wrth iddyn nhw gasglu tystiolaeth am fywyd fel deinosor. Dewch wyneb yn wyneb a deinosoriaid go iawn, adeiladu rhai eich hun, dysgu beth fydden nhw’n ei fwyta a dal esgyrn deinosoriaid go iawn.

1 awr
Hyd at 30 o ddisgyblion

Bywyd yn y Môr (Y Cyfnod Sylfaen a CA2)

Ewch ar daith danddwr i ganfod anifeiliaid anhygoel; o’r Morfil Cefngrwm a’r Môr-Grwban Lledrgefn i’r mwydod rhyfedd sy’n byw ar wely’r môr, ac archwiliwch sut maen nhw wedi addasu i’w cynefin.

1 awr
Hyd at 30 o ddisgyblion

Hwtiwr y Dylluan (Y Cyfnod Sylfaen)

Dewch i gyfarfod Hwtiwr y Dylluan yn y coetir a dysgu mwy am fywyd tylluan.

1 awr
Hyd at 30 o ddisgyblion

Penglogau, Dannedd ac Esgyrn (CA2)

Dysgwch sut i fod yn dditectif natur; gallwch chi ganfod cliwiau am fywyd anifail o’i sgerbwd hyd yn oed.

1 awr
Hyd at 30 o ddisgyblion

Materion Bioamrywiaeth (CA2 a CA3)

Dysgwch beth yw bioamrywiaeth a pam mae’n bwysig i ni.

1 awr
Hyd at 30 o ddisgyblion

Gweithdai Uwchradd

Teithiau Tywysiedig tu ôl i’r Llenni (CA3&4 Gwyddoniaeth)

Cymrwch gip ar waith gwyddonwyr yr Amgueddfa gyda thaith arbennig tu ôl i lenni’r adran Hanes Natur.

1 awr
Hyd at 30 o ddisgyblion oherwydd gofynion iechyd a diogelwch

Gallwn ni gynllunio’ch amserlen ar gyfer y dydd. Gellir cynnwys y pynciau canlynol:

  • Esblygiad
  • Addasu
  • Amrywiaeth a Dosbarthu
  • Bioamrywiaeth
  • Effaith pobl ar yr amgylchfyd

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch ein Swyddog Addysg Hanes Natur ar (029) 2057 3123

I archebu sesiwn, ffoniwch yr Adran Addysg ar (029) 2057 3240

Gwybodaeth

Map

Parc Cathays, Caerdydd
Ar agor 10am–5pm Mawrth–Sul (Orielau yn cau am 4:45pm)

Adran addysg:
(029) 2057 3240/3278

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd