Addysg yn Sain Ffagan




Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yw un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf blaenllaw Ewrop. Mae dros 40 o adeiladau hanesyddol o bob cwr o Gymru wedi’u hailgodi yma, er mwyn dangos arferion byw, gŵyl a gwaith yn y gorffennol.
Mae Adran Addysg Sain Ffagan wedi ennill Gwobr Sandford am ei rhaglen addysg arbennig. Mae tua 90,000 o ddysgwyr ffurfiol yn ymweld â ni bob blwyddyn.
Archebu
Rhaid archebu teithiau mewn grwpiau ymlaen llaw ar 029 2057 3424. Nid oes modd ymweld â rhai adeiladau heb archebu ymlaen llaw.
Cofiwch archebu gweithgareddau arbennig mewn da bryd, i osgoi cael eich siomi.
Siop a bwyty
I arbed amser yn ystod eich ymweliad, gallwch gysylltu â’r siop ymlaen llaw ar (029) 2057 3412 i drefnu bagiau o bethau da am bris penodol ar gyfer eich grŵp. Gallwch chi hefyd gysylltu â’r bwyty ymlaen llaw ar (029) 2057 3414 i drefnu pecynnau bwyd.
Mae’r holl weithgareddau’n addas i hyd at 30 o blant ar y tro.
Mae Adran Addysg yr Amgueddfa yn credu ei bod hi’n bwysig buddsoddi i gynnig gwasanaethau o safon i ysgolion. Gall gostio £150 a mwy i drefnu un sesiwn. Felly, os bydd yr amgylchiadau’n newid ac nad ydych chi’n gallu dod i’r Amgueddfa wedi’r cwbl, rhowch wybod i ni ar unwaith. Os byddwch chi’n canslo lai nag wythnos cyn y sesiwn, efallai y byddwch yn gorfod talu tâl gweinyddol o £50.
Ymweliadau rhagflas
Gallai ymweliad rhagflas eich helpu i ymgyfarwyddo â’r hyn sydd ar gael. Ffoniwch i drafod hyn gydag aelod o’r staff.

