Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 
English

Y Fari Lwyd

Mari Lwyd Llangynwyd, ddechrau'r 20fed ganrif

Mari Lwyd yw'r enw a roed fynychaf yng Nghymru ar y pen neu ffigur ceffyl yr arferai partion 'canu gwaseila' ei gludo o ddrws i ddrws yn ystod tymor y Nadolig.  Y mae'r ffigur yn ddigon adnabyddus yn nefodau tymhorol gwledydd eraill.  Ymddengys ei fod gynt yn hysbys drwy hanner deheuol Cymru eithr yn ystod y ganrif bresennol anaml y'i gwelwyd y tu allan i Forgannwg, lle nad yw eto wedi llwyr ddiflannu.

Llangynwyd Mari Lwyd

Ar ddechrau defod y Fari Lwyd, canai'r parti y tu allan i'r drws gyfres o benillion traddodiadol.  Yna deuai'r 'pwnco', sef y ddadl (a genid ar yr un dôn, mewn cyfuniad o benillion traddodiadol a rhai 'difyfyr') rhwng aelod o'r parti a gwrthwynebydd y tu arall i'r drws.  Fel arfer, ceid tynnu coes yn lled galed wrth i'r naill ochr ddifrio'r llall am ei ganu angherddgar, ei feddwdod, ei grintachrwydd, etc.

Y Fari Lwyd yn yr Amgueddfa Werin

Disgwylid i griw'r Fari Lwyd drechu yn y ddadl cyn ennill mynediad i'r ty a chael yno gacenni a diod ac, o bosibl, rodd ariannol.  Weithiau, o leiaf, wedi terfynu'r 'pwnco', canai'r parti benillion ychwanegol yn cyflwyno'i holl aelodau ac yr oedd hefyd gân ffarwel y gellid ei chanu wedi'r tipyn difyrrwch ar yr aelwyd.

Gellir gweld defod y Fari Lwyd bob mis Rhagfyr yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Rhagor o Arferion Nadolig >>