Amgueddfa Cymru

Gŵyl Ddewi

[delwedd: Cennin Pedr]

Ar Fawrth 1af bob blwyddyn, byddwn ni'r Cymry'n dathlu penblwydd ein nawddsant, Dewi Sant. Ychydig iawn am wyddom i sicrwydd am hanes ei fywyd. Daw'r rhan fwyaf o'r wybodaeth o Fuchedd Lladin a ysgrifennwyd amdano gan Rygyfarch tua diwedd yr unfed ganrif ar ddeg.

Yn ôl Rhygyfarch, bu farw Dewi yn y flwyddyn 589. Enw ei fam oedd Non, ac roedd ei dad, Sant, yn fab i Geredig, brenin Ceredigion. Wedi iddo gael ei addysg yng Ngheredigion, fe aeth Dewi ar bererindod trwy dde Cymru a gorllewin Lloegr, lle sefydlodd ganolfannau crefyddol o bwys megis Glastonbury a Croyland. Aeth hefyd ar bererindod gyda Theilo a Phadarn i Gaersalem, lle cafodd ei wneud yn archesgob.

[delwedd: Dewi Sant]

Fe ddaeth yn ôl i fyw yng Nglyn Rhosyn (Tyddewi), yn ne-orllewin Cymru, lle ffurfiodd gymuned grefyddol asgetig a llym iawn o ran ei ffordd o fyw. Dywedir iddo gyflawni nifer o wyrthiau - ar un achlysur, pan oedd yn pregethu mewn senedd yn Llanddewi Brefi, fe barodd i'r ddaear godi o dan ei draed, fel y gallai pawb ei weld a'i glywed. Mae'n anodd gwybod faint o goel y gellir ei roi ar y Fuchedd a ysgrifennodd Rhygyfarch. Dylid cofio mai mab i Archesgob Tyddewi oedd Rhygyfarch, a bod y Fuchedd yn ymgais i godi statws Tyddewi yn wyneb bygythiadau o du Caer-gaint a'r Normaniaid.

O'r 12fed ganrif ymlaen, lledodd bri Dewi trwy dde Cymru i Iwerddon a Llydaw. Daeth Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn gyrchfan boblogaidd i bererinion, yn enwedig wedi i'r Pab gydnabod Dewi yn swyddogol fel sant ym 1120. Ceir cyfeiriadau at Ddewi ym marddoniaeth beirdd y cyfnod megis Iolo Goch a Lewis Glyn Cothi. Ym 1398, rhoddwyd gorchymyn i bob eglwys yn nhalaith Caer-gaint gadw gwyl Ddewi. Er iddo ddarfod fel gwyl grefyddol yn sgîl y Diwygiad Protestanaidd yn ystod y 16eg ganrif, datblygodd diwrnod penblwydd Dewi yn wyl genedlaethol o'r ddeunawfed ganrif ymlaen.

Bellach mae ysgolion a chymdeithasau diwylliannol ledled Cymru'n dathlu ar Fawrth 1. Y traddodiad ar y diwrnod hwnnw yw gwisgo cenhinen neu genhinen Bedr - dau o'n harwyddion cenedlaethol - a gwelir merched ifainc yn gwisgo'r wisg genedlaethol.

Daeth i gael ei nabod fel gwisg genedlaethol Cymru.

[delwedd: Arrow pointing right]

Darllenwch fwy o straeon am ein casgliadau Hanes ar ein gwefan Rhagor.
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.