Gwneud Cyflaith

Gwneud cyflaith

'Roedd cynnal 'Noson Gyflaith' gynt yn arfer draddodiadol mewn rhannau o ogledd Cymru i ddathlu'r Nadolig neu'r Flwyddyn Newydd. Yn eu tro, byddai teuluoedd yn gwahodd eu ffrindiau i'w cartrefi fin nos. Paratoent swper mawr ar eu cyfer, yn cynnwys gwydd a phwdin Nadolig, fel rheol, ac yna byddai'r cwmni'n ymuno mewn chwaraeon, yn adrodd straeon ac yn tynnu cyflaith.

Ar ôl berwi'r defnyddiau angenrheidiol i ryw ansawdd arbennig, tywelltid y cyflaith allan ar lechen neu garreg fawr wedi'i hiro ag ymenyn. Byddid yn glanhau carreg yr aelwyd a'i hiro ar gyfer yr achlysur hwn weithiau. Yna byddai pob aelod o'r cwmni yn iro'i ddwylo ag ymenyn ac yn cymryd darn o'r cyflaith i'w dynnu tra byddai'n gynnes. 'Roedd hon yn grefft arbennig ac anelid at dynnu'r cyflaith hyd nes y deuai'n rhaffau melyngoch. Byddai'r dibrofiad yn edmygu medrusrwydd y profiadol ond 'roedd aflwyddiant y dibrofiad yn destun hwyl i bawb.

'Roedd cyflaith yn cael ei wneud mewn rhannau o dde Cymru hefyd, yn enwedig yn y cymoedd glo. Hyd y gwyddom ni chysylltid ef ag unrhyw Wyl arbennig yno, ond 'roedd yn arfer gan wragedd i'w werthu o'u cartrefi neu yn y farchnad leol. 'Roedd 'dant' a 'ffani' ymhlith yr enwau a roid arno, ac weithiau rhoid enw'r gwneuthurwr arno, er enghraifft,'losin Magws' neu 'losin Ansin bach'. Gwerthid ef yn ddarnau bach, tua dwy owns am geiniog.

Rysait

  • tri phwys o siwgr llwyd, meddal
  • hanner pwys o ymenyn hallt
  • sudd un lemon
  • chwarter peint o ddwr berw (neu ragor os bydd y siwgr o ansawdd sych)
Tynnu cyflaith

Tywallt y dwr berw dros y siwgr yn y sosban, a thoddi'r siwgr yn araf uwch ben tin gloyw, gan ei droi'n gyson â llwy bren hyd nes iddo doddi'n llwyr. (Cymer hyn ryw ugain munud, yn ôl ansawdd y siwgr.) Codi'r sosban oddi ar y tân, ychwanegu sudd y lemon a'r ymenyn (wedi'i feddalu) at y siwgr, a'u cymysgu'n drwyadl. Yna berwi'r cymysgedd yn weddol gyflym am ryw chwarter awr heb ei droi o gwbl.

Gollwng llond llwy de o'r cymysgedd i lond cwpan o ddwr oer. Os bydd hwn yn caledu yn y dwr ar unwaith fe fydd y cyfan wedi berwi digon.

Cyflaith wedi ei dorri
Yna arllwys y cymysgedd yn raddol i ddysgl fawr, agored, wedi'i hiro ag ymenyn ymlaen llaw. (Peidier â rhoi crafion y sosban yn y ddysgl rhag iddynt droi'r cyflaith yn siwgr drachefn.) Iro'r dwylo ag ymenyn a thynnu'r cyflaith yn rhaffau hir, melyn eu lliw.

Pennant, Trefaldwyn.

Rhagor o Arferion Nadolig >>

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.