Sain

Er y dechrau cyntaf, bu recordio siaradwyr ar bob agwedd o fywyd gwerin yn rhan bwysig o waith yr Amgueddfa. Dechreuwyd casglu yn y maes yn niwedd y 1950au, gan roi'r pwyslais ar yr ardaloedd hynny lle'r oedd yr iaith a'r bywyd traddodiadol fwyaf mewn perygl.

Ystod yr archif

Mae'r recordiadau'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau:

  • amaethyddiaeth
  • crefftau
  • gwaith tŷ
  • bwydydd traddodiadol
  • meddyginiaethau gwerin
  • chwaraeon
  • storïau gwerin
  • canu gwerin
  • arferion tymhorol
  • arferion marw a chladdu
  • diwydiannau megis y diwydiant glo
  • y sefyllfa ieithyddol
  • tafodieithoedd y Gymraeg a geirfâu crefft

Er bod y mwyafrif o'r cyfweliadau yn Gymraeg, mae hefyd oriau lawer o ddeunydd yn yr iaith Saesneg, yn enwedig o'r ardaloedd hynny sydd yn hanesyddol Saesneg eu hiaith, megis de Penfro, Bro Gwyr a'r Gororau, a'r de-ddwyrain diwydiannnol. Ychwanegwyd at y rhain pan dderbyniwyd casgliad o dros 600 o dapiau ymchwil ar gyfer cyfres hanes llafar All Our Lives BBC Cymru i'r archif.

Mae'r gwaith casglu yn parhau - un o'r projectau diweddaraf oedd cofnodi atgofion am yr adfywiad mewn dawnsio gwerin dros yr hanner canrif diwethaf.

Ffilm a Fideo

Mae gan yr Amgueddfa archif ddethol o tua 50 awr o ffilmiau 16mm. Gwnaed cyfran helaeth ohonynt yn y 1970au gan aelodau o staff curadurol yr Amgueddfa a oedd yn awyddus i gofnodi olion diwethaf yr hen ffordd Gymreig o fyw. Ffilmiau mud lliw ydynt o hen ddulliau o amaethu, gwneud bwydydd traddodiadol, ac arddangos crefftau traddodiadol.

Yn ychwanegol at ffilmiau a wnaed yn y maes, ceir ffilmiau 16mm a roddwyd i'r archif, neu a gafwyd gan gwmnïau megis y BBC a TWW wedi iddynt gydweithio â staff yr Amgueddfa ar raglen deledu.

Ymhlith y rhain ceir ffilmiau o'r Fari Lwyd yn Llangynwyd yn y 1960au, Hywel Wood y sipsi Cymreig yn clocsio yng nghegin Castell Sain Ffagan pan oedd yn 80 oed, a chopi o 'Y Chwarelwr' - y ffilm lafar gyntaf yn y Gymraeg.

Lluniau

Mae'r Archif Luniau yn cynnwys tua 150,000 o negyddion a phrintiau, a thua 15,000 o dafluniau. Ers agor Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn 1948 bu'r staff yn tynnu lluniau o fywyd gwerin Cymru, ac mae'r Archif Luniau yn cynnwys y rhain, ond hefyd gyfoeth o luniau llawer hyn a gaffaeliwyd yn rhoddion, neu a gopïwyd o luniau gwreiddiol a fenthyciwyd i'r Amgueddfa i'r perwyl hwn.

Llawysgrifau

Er i'r Amgueddfa, fel y gellid disgwyl, roi pwyslais o'r cychwyn ar gasglu gwrthrychau, mae gan yr Archif yn ei meddiant lu o lawysgrifau megis

  • llythyrau,
  • nodiadau ar wahanol bynciau,
  • cynhyrchion eisteddfodol a chymdeithasau arbennig,
  • traethodau ymchwil perthnasol,
  • baledi, carolau ac anthemau printiedig,
  • dyddiaduron,
  • llyfrau cyfrifon ffermwyr, crefftwyr a masnachwyr,
  • llyfrau lloffion,
  • cynlluniau adeiladau
  • cytundebau prentisiaeth
  • llyfrau ymarferion ysgol
  • llyfrau clustnodau defaid
  • llythyrau neithior (printiedig)

Ceir hefyd rhai casgliadau sylweddol e.e.:

Atebion i holiaduron

Yn ystod y 1930au, sylweddolwyd ei bod yn holl bwysig i'r Amgueddfa Genedlaethol gychwyn casglu gwybodaeth ledled Cymru ar wahanol agweddau o'i diwylliant gwerin. Lluniwyd holiadur dwyieithog, manwl yn 1937 i'r pwrpas hwn, ac fe'i dosbarthwyd ar raddfa eang dros Gymru. Y mae'r atebion i'r holiadur hwnnw, ynghyd ag atebion i holiaduron diweddarach (e.e. holiadur geirfa amaethyddol Adran Amaeth Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru), bellach yn archif yr Amgueddfa.

"Llyfrau Ateb" Amgueddfa Werin Cymru

O'r 1960au ymlaen, anfonodd Adran Tafodieithoedd a Thraddodiadau Llafar yr Amgueddfa lyfrau ateb at bersonau y tybid bod ganddynt wybodaeth dda am feysydd arbennig. Cafwyd ymateb ffafriol iawn i'r ceisiadau hyn - yn wir, gellir ystyried rhai o'r llyfrau ateb ymhlith ffynonellau pwysicaf yr Archif. Ynddynt ceir nodiadau manwl a gwerthfawr ar bynciau megis:

  • hen ddulliau amaethu
  • ffeiriau
  • meddyginiaethau ac arferion gwerin eraill
  • hen chwaraeon
  • bwydydd traddodiadol
  • crefftau a chrefftwyr gwlad
  • tafodieithoedd a dywediadau
  • atgofion o fywyd gwledig yng Nghymru o tua diwedd y 19eg ganrif ymlaen

Gohebiaeth dderbynodi'r Amgueddfa

Ffynhonnell bwysig arall yw'r ohebiaeth a ddaeth yn sgil derbyn gwrthrychau i'r casgliadau. Mae'r rhain yn dyddio o 1885 ymlaen.

Casgliadau arbennig

Hefyd yng ngofal yr archif mae papurau rhai o gasglwyr mwyaf diwyd a diwylliedig ein cenedl e.e.

  • Evan Jones (1850 - 1928) Tŷ'n Pant, Llanwrtyd. Treuliodd y gŵr diwylliedig hwn ei oriau hamdden am flynyddoedd lawer yn casglu defnyddiau a gwybodaeth am lên gwerin a hynafiaethau ei ardal.
  • Parchedig W. Meredith Morris (1867 - 1921), Clydach Vale. O ddiddordeb arbennig yw ei lawysgrifau sy'n ymdrin â'r crwth a'r ffidil a'i astudiaethau o dafodiaith a llên gwerin Sir Benfro.
  • T.C. Evans ('Cadrawd') - Hynafiaethydd, hanesydd lleol a chasglwr llên gwerin Morgannwg. Mae ei lawysgrifau niferus bellach wedi eu gwasgaru rhwng y Llyfrgell Genedlaethol, Llyfrgell Rydd Caerdydd a'r Amgueddfa Werin.

Yn ogystal â'r uchod mae casgliadau o lawysgrifau a phapurau gan John Breese Davies, y Fonesig Herbert Lewis a Mrs Dora Herbert Jones, Syr Cyril Fox, Mrs Elizabeth Baker, a 'r Parch. W. Rhys Jones ('Gwenith Gwyn').

Croesewir defnyddiau llawysgrifol pellach fel rhoddion neu fenthyciadau i'w copïo, a hynny trwy gydweithrediad agos â sefydliadau archifol eraill yng Nghymru.

Staff yr Archif

Meinwen Ruddock, Archifydd (02920 573427)
Lowri Jenkins, Cynorthwy-ydd Archif (02920 573444)
Richard Edwards, Cynorthwy-ydd Archif (02920 573446)
Pascal Lafargue, Technegydd Clyw-Weledol (02920 573429)