Wrth geisio gorchfygu Prydain, daeth y Rhufeiniaid wyneb yn wyneb â llwythau Cymru - gwrthwynebwyr glew. Yr oedd y brwydrau yn aml yn chwerw, ac ni ildiodd Cymru gyfan tan OC 78. Roedd rheolaeth filwrol lem dros Gymru drwy gyfrwng rhwydwaith o geyrydd lle'r oedd milwyr o unedau cynorthwyol dan reolaeth y ddwy leng yng Nghaerllion a Chaer. Mae gennym gasgliadau o bwysigrwydd rhyngwladol o'r gaer lengol yng , sef canolfan yr Ail Leng Awgwstaidd, a'r gaer a'i rhagflaenodd ym gerllaw. Mae'r casgliadau hyn yn cael eu cadw yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion.

Yr oedd angen pentwr o adnoddau ar y llengoedd, a bu'r storfa yn yn cyflenwi yn ogystal â theils a brics adeiladu ar gyfer yr Ugeinfed Lleng yng Nghaer. Mae ganddom gasgliadau mawr o ddarganfyddiadau o nifer o geyrydd cynorthwyol, gan gynnwys Aberhonddu, , Caersws, Gelli-gaer/cms:features:link>, Casllwchwr a Phen Llystyn.

Pen Rhufeinig

Yng nghyfnod y Rhufeiniaid, yr oedd llawer o gloddio am fetelau yng Nghymru. Yn Nolau Cothi roedd llawer o aur, a defnyddid peth ohono yn lleol i wneud gemwaith. Yng ngogledd-ddwyrain Cymru ceid llawer o blwm ac yr oedd copor ar gael yng ngogledd a de Cymru. Mae llawer o ingotau yn y casgliad sy'n dyst i'r mwyngloddio hwn. Yng nghyfnod y Rhufeiniaid hefyd yr oedd cloddio ar haearn, llechi a cherrig eraill ac, i raddau llai, glo.

Ymhen amser, lle bynnag yr oedd modd, cwtogwyd ar niferoedd y milwyr yn y byddinoedd. Erbyn y drydedd a'r bedwaredd ganrif, prin oedd y ceyrydd lle ceid milwyr. Yn y de, fe roddwyd math o hunanlywodraeth i'r llwythau, gyda'u cyngor eu hunain. Ond fe barhaodd gweddill Cymru dan reolaeth filwrol fwy neu lai yn barhaol. , sef Venta Silurum i'r Rhufeiniaid, oedd y ganolfan weinyddol a thref farchnad y Silures, ac rydyn ni'n astudio casgliad mawr o ddarganfyddiadau o waith cloddio diweddar yn y safle hwnnw.

Yng nghefn gwlad, yn enwedig ar arfordir y de, yr oedd ffermydd a filâu, oedd ambell dro yn gartref i'r cyfoethog a'r llwyddiannus. Yn y casgliadau mae darganfyddiadau o filas a ffermydd yn Llanilltud Fawr, Trelái, Llandochau, Llanddewi yn Hwytyn a Biglis. Ychydig oedd yn byw yn ardaloedd mynyddig Cymru a phrin yw olion y traddodiadau Rhufeinig ar y ffermydd brodorol; y ty crwn oedd y ty arferol o hyd. Mae offer amaethyddol o'r safleoedd hyn yn dangos eu bod yn tyfu cnydau, a cheir arwyddion o fugeilio gan esgyrn gwartheg, defaid a moch.

Roedd crefydd ym Mhrydain adeg y Rhufeiniaid yn gymysgedd o syniadau'r brodorion a syniadau newydd y mewnfudwyr. Câi duwiau a duwiesau Rhufeinig eu haddoli ochr yn ochr â duwiau Celtaidd, sef Duwiau'n ymwneud â grymoedd natur yn bennaf. Yn Llys Awel, ger Abergele, daethpwyd o hyd i nifer o bethau gan gynnwys cerflun bach o Fercher, dau gi bach efydd a phlaciau addunedol. Mae'n debyg mai ffynnon iacháu oedd yno. Mae'n ymddangos bod y ci yn gysylltiedig â iacháu yn y byd Celtaidd a'r byd Clasurol. Cynrychiolir marwolaeth a chladdu yn ein casgliadau hefyd: ceir cerflun arbennig o lew angladdol o'r Bont-faen, a chladdiad y Trallwng, sy'n cynnwys llestri efydd, gwydr, crochenwaith a phentan haearn.