Rydych chi yn:  >   >   > 
English

Cyfarwyddwyr

David Anderson

Cyfarwyddwr Cyffredinol

Penodwyd David Anderson yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru yn 2010. Cyn hynny, roedd yn Gyfarwyddwr Addysg Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain ac wedi dal sawl swydd ym myd addysg amgueddfeydd cyn hynny. Mae’n arbenigwr ar strategaeth ddiwylliannol ac addysg gelf.

Derbyniodd OBE ym 1999 am ei wasanaeth i amgueddfeydd ac addysg. Mae wedi cyhoeddi sawl cyfrol yn cynnwys adroddiad Llywodraeth y DU "A common Wealth: Museums in the Learning Age". Mae wedi bod yn ymgynghorydd i Lywodraeth y DU ar ystod eang o Fentrau yn cynnwys Culture On-Line, Creative Partnerships a strategaeth genedlaethol addysg amgueddfeydd ac orielau. Mae’n awdur llyfrau poblogaidd i blant hefyd, "The Spanish Armada" a "Mutiny on the Bounty". O 2004 i 2008 roedd hefyd yn Gyd-Gyfarwyddwr Exhibition Road Cultural Group, ardal ddiwylliannol gyntaf Llundain.

Michael Houlihan

Mark Richards

Cyfarwyddwr Gweithredu a Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol

Mark Richards yw’r Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol a’r Cyfarwyddwr Gweithredol, gyda gofal dros reolaeth holl safleoedd Amgueddfa Cymru, Partneriaethau, Y Wasg a’r Cyfryngau, Mentrau ac Adeiladau ac Ystadau. Ef yw’r arweinydd ar faterion Cynaladwyedd a Iechyd a Diogelwch yn ogystal a’r Cyfarwyddwr Project yng ngofal y gwaith gwerth £25miliwn o Ailddatblygu Sain Ffagan. Mae hefyd yn gyfrifol am weithio gyda’n Adran Nawdd o fewn Llywodraeth Cymru.

Mae ganddo MBA ac yn aelod Corfforaethol o Sefydliad Siartredig Adeiladu.

 
Mark Richards

Neil Wicks

Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol

Ymunodd Neil Wicks ag Amgueddfa Cymru ym mis Mehefin 2011. Ac yntau’n gyfrifydd cymwysedig ers dros ugain mlynedd, gweithiodd Neil mewn sawl rôl yn y sectorau cyhoeddus a phreifat cyn treulio deng mlynedd yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau a Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Gofal Cymru, gan weld cynnydd yn nhrosiant y corff cyhoeddus o £1.5m i £10m.

Mae Neil yn gyfrifol am gyllid, gan gynnwys trosiant cyfrifon y sefydliad o £29m, adnoddau dynol a TGCh. Mae Neil yn aelod o Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg, ac yn Gomisiynydd Ardal Mudiad Sgowtiaid Gogledd a Gorllewin Caerdydd, gan gynrychioli'r Ardal yn Rhanbarthol ac yn Genedlaethol. Mae wedi dysgu siarad Cymraeg ac yn astudio tuag at MBA.

Neil Wicks

Janice Lane

Cyfarwyddwr Addysg, Arddangosfeydd a Chyfryngau Digidol

Ymunodd Janice Lane ag Amgueddfa Cymru ym Medi 2012 fel Cyfarwyddwr Addysg, Arddangosfeydd a Chyfryngau Newydd. Cyn hyn, bu'n Uwch–reolwr Amgueddfeydd gyda Amgueddfeydd Glasgow/Glasgow Life, yn gyfrifol am addysg, cynhwysiant cymdeithasol, mynediad, rhaglennu cyhoeddus, y cyfryngau digidol a'r cyfryngau newydd, dehongli, allestyn a datblygu gwirfoddolwyr. Chwaraeodd rôl strategol o ran dysgu a dehongli ar brojectau cyfalaf allweddol Amgueddfeydd Glasgow yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Kelvingrove ac Amgueddfa Trafnidiaeth a Thechnoleg Riverside. Roedd gandi ddyletswyddau corfforaethol gyda hefyd yn Glasgow Life, a cyfrannodd at eu polisïau addysg, ymgysylltu â chynulleidfaoedd a chyfranogiad.

Yn Amgueddfa Cymru bydd yn arwain ar addysg, dehongli, arddangosfeydd a datblygiadau digidol ar draws y sefydliad ac ar brojectau mawr allweddol. Mae'n gyfrifol am yr adrannau Addysg, Rhaglennu a Chyflwyno a Cyfryngau Newydd.

Peter Wakelin

Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil

Penodwyd Dr Peter Wakelin fel cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru yn mis Ionawr 2014. Tan ei benodiad, roedd Dr Wakelin yn Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru – y corff cenedlaethol sydd yng ngofal ymchwil i’r byd hanesyddol a’i archifo. Tra gyda’r Comisiwn, cynyddwyd mynediad y cyhoedd i’r archif ar-lein, sefydlwyd canolfan ragoriaeth ailadeiladu 3D a datblygwyd cyfres Hidden Histories gyda’r BBC yn dilyn gwaith ymchwilwyr y Comisiwn.

Yn y gorffennol, bu’n Bennaeth yr Uned Adfywio gyda Chyfarwyddiaeth Cymunedau Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac yn Archwilydd Henebion ac Adeiladau Hanesyddol gyda Cadw am ddeuddeg mlynedd cyn hynny. Tra gyda Cadw, chwaraeodd rôl flaenllaw wrth ymgyrchu am statws Safle Treftadaeth y Byd i Flaenafon yn 2000.

Mae Peter yn gofalu am yr adrannau Celf, Hanes ac Archaeoleg, y Gwyddorau Naturiol a Gwasanaethau Casgliadau o fewn Amgueddfa Cymru.