Rydych chi yn:  >   >   > 

Casgliadau Celf Arlein

Catrin o Ferain, 'Mam Cymru' (1534/5-1591) [Katheryn of Berain, 'The Mother of Wales' (1534/5-1591)]

CRONENBURGH, Adriaen van (1520 - 1604)

Catrin o Ferain, 'Mam Cymru' (1534/5-1591)

Dyddiad: 1568

Cyfrwng: olew ar banel

Maint: 97.2 x 68.6 cm

Derbyniwyd: 1957; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 19

Mae Catrin o Ferain yn dal llyfr gweddi gan fwytho penglog dynol â golwg ddwys ar ei hwyneb. Mae'r benglog yn digwydd yn aml mewn portreadau yn yr 16eg ganrif; mae’r gwrthgyferbyniad rhwng cnawd ac asgwrn yn ein hatgoffa pa mor fregus yw bywyd. Mae’n ymddangos fel pe bai’n galaru, ond mewn gwirionedd roedd hi newydd briodi’r asiant brenhinol Richard Clough. Fe’i cyflwynir fel gwraig addas i fasnachwr cyfoethog. Roedd ei gwisg goeth, ei chroen golau a’i haeliau cul yn hynod ffasiynol, ac mae’r llyfr gweddi’n cadarnhau ei duwioldeb.

Catrin oedd merch Tudur ap Robert Vychan o Ferain, Clwyd ac roedd yn wyres i un o feibion anghyfreithlon Harri VII. Priododd bedair gwaith ac oherwydd ei hamrywiol blant a'i llys-blant fe'i gelwid yn Fam Cymru. Bu farw ei gw^r cyntaf John, mab ac aer Syr John Salusbury o Lyweni ym 1556. Ym 1567 priododd Syr Richard Clough, marsiandâwr cyfoethog o Ddinbych a phartner i'r banciwr Syr Thomas Gresham, a oedd yn byw yn Antwerp a Hamburg. Mae'n debyg i'r portread hwn gael ei beintio yng Ngogledd yr Iseldiroedd gan yr arlunydd van Cronenburgh o Fresia. Yn dilyn marwolaeth Clough ym 1570 dychwelodd i Gymru, ac erbyn 1573 yr oedd wedi priodi Maurice Wynn o Wydir, a fu farw ym 1580. Ym 1584 priododd am y tro olaf ag Edward Thelwall, Plas y Ward.

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Browse makers and designers

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd